Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Pennaeth Cyflawni Digidol – Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau
Gradd 8c
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad uchelgeisiol sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i arwain ar drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal digidol. Mae’n adeiladu ar bensaernïaeth ddigidol a gwasanaethau cenedlaethol a roddwyd ar waith gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y degawd diwethaf.
Bydd y sefydliad yn arwain ar ddatblygiadau ar raddfa fawr sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, megis ehangu’r cofnod iechyd digidol a chreu’r Adnodd Data Cenedlaethol. Bydd yn gwella’r ffordd y mae data’n cael eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar yr ffurflen gais. Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Ydych chi’n barod i arwain y gwaith o lunio’r dyfodol digidol? Ydych chi’n ffynnu ar ddarparu datrysiadau digidol blaengar sy’n trawsnewid busnesau ac yn plesio cwsmeriaid? Os felly, mae gennym gyfle perffaith i chi!
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad GIG Cymru blaenllaw ac arloesol. Rydym wedi ymroddi i ddarparu cynhyrchion a gwasanaethau digidol o ansawdd uchel i’n partneriaid gwerthfawr er mwyn galluogi trawsnewid gofal iechyd yng Nghymru. Gydag ymrwymiad cryf i ragoriaeth, arloesedd a boddhad cwsmeriaid, rydym wedi cyflawni twf a llwyddiant rhyfeddol. Ein nod yw chwyldroi’r dirwedd ddigidol ac wrth i ni barhau i dyfu ac ehangu ein harlwy digidol, rydym yn chwilio am arweinydd â gweledigaeth i ymuno â’n tîm fel Pennaeth Cyflawni Digidol.
Y Rôl:
Fel Pennaeth Cyflawni Digidol, byddwch ar flaen y gad yn ein taith trawsnewid digidol. Eich prif gyfrifoldeb fydd helpu i arwain ac ysbrydoli tîm o arbenigwyr cyflawni digidol dawnus, gan sicrhau bod ein prosiectau, ein cynnyrch a’n gwasanaethau digidol yn cael eu rhoi ar waith yn llwyddiannus.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn cael cyfle i wneud y canlynol:
- Helpu i ddatblygu a gweithredu cynllun strategol ar gyfer cyflawni digidol, gan ei alinio â strategaeth a gweledigaeth IGDC.
- Arwain tîm o reolwyr rhaglenni a phrosiectau digidol, gan feithrin diwylliant o gydweithio ac arloesi.
- Ysgogi’r gwaith o gyflawni mentrau digidol effaith uchel sy’n cyd-fynd â’r Cynllun Tymor Canolig Integredig, o’r cysyniad i’r gweithredu.
- Sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflawni ar amser, o fewn cwmpas, ac o fewn y gyllideb, gan fodloni neu ragori ar ddisgwyliadau cleientiaid.
- Nodi tueddiadau a thechnolegau newydd i wella ein galluoedd digidol.
- Meithrin perthnasoedd cryf ar draws GIG Cymru a rhanddeiliaid Gofal Cymdeithasol, a phartneriaid, gan weithredu fel partner strategol y gellir ymddiried ynddo.
I ragori yn y rôl hon, dylech feddu ar y canlynol:
- Profiad amlwg o arwain timau cyflawni, yn ddelfrydol o fewn sefydliad sy’n cael ei yrru gan dechnoleg.
- Hanes o gyflawni prosiectau a chynhyrchion digidol cymhleth yn llwyddiannus.
- Sgiliau meddwl strategol a datrys problemau cryf.
- Galluoedd cyfathrebu ac arwain rhagorol.
- Angerdd dros gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y tueddiadau a’r technolegau digidol diweddaraf.
- Meddylfryd sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gyda ffocws ar welliant parhaus.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn rhan o deulu GIG Cymru ac mae ganddo rôl bwysig wrth newid y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal trwy dechnoleg a data. Mae’r sefydliad yn cefnogi staff rheng flaen gyda systemau modern a mynediad at wybodaeth bwysig am eu cleifion, wrth rymuso pobl Cymru i reoli eu hiechyd eu hunain trwy wasanaethau digidol GIG Cymru.
Mae gweithio i DHCW yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hyblyg, cyflog cystadleuol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a dathlu ein staff fel y rhan fwyaf gwerthfawr o’n sefydliad.
Ymunwch â'n tîm trawsnewidiol sy’n achub bywydau a dechrau gwneud gwahaniaeth go iawn i wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gallwch ddod o hyd i Swydd-ddisgrifiad llawn a Manyleb y Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch ar “Gwneud Cais nawr” i’w gweld yn Trac
Yr hyn a gynigiwn i chi:
Yn IGDC rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr ac yn credu mewn meithrin amgylchedd gwaith cydweithredol ac arloesol. Pan ymunwch â’n tîm fel Pennaeth Cyflawni Digidol, cewch y buddion canlynol:
- Pecyn cyflog a buddion cystadleuol.
- Cyfleoedd i ddatblygu gyrfa ac ymrwymiad i’ch datblygiad proffesiynol.
- Diwylliant gweithle deinamig, cefnogol a chynhwysol.
- Cyfle i weithio ar brosiectau digidol cyffrous ac effeithiol.
- Y boddhad o fod yn rhan o gwmni sy’n ysgogi newid digidol ystyrlon.
Os ydych chi’n barod i fynd â’ch gyrfa i’r lefel nesaf ac arwain y gad ym maes cyflawni digidol, rydyn ni eisiau clywed gennych chi!
Ymunwch â ni wrth i ni lunio’r dyfodol digidol a gwneud gwahaniaeth! Gwnewch gais heddiw a byddwch yn rhan o’n taith gyffrous yn IGDC.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at lefel gradd meistr neu brofiad cyfatebol
- Cymhwyster Rheoli Rhaglen, MSP, neu brofiad cyfatebol
- Cymhwyster rheoli prosiect (e.e. Prince 2) neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Profiad o roi ffyrdd ystwyth o weithio ar waith
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol mewn rôl uwch reoli ym maes rheoli rhaglenni a/neu brofiad sylweddol mewn uwch reoli ar gyfer y rhaglen berthnasol.
- Gwybodaeth fanwl am dechnegau ar gyfer cynllunio, monitro a rheoli prosiectau, e.e. PRINCE2, Microsoft Project, MSP.
- Sgiliau arwain a rheoli tîm profedig.
- Profiad blaenorol o reoli cyllidebau a gweithdrefnau dyrannu adnoddau a’u cymhwyso
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Profiad amlwg o weithio mewn amgylchedd prosiect.
- Sgiliau rheoli tîm.
- Sgiliau cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol rhagorol wrth ddelio â gwybodaeth gymhleth a sensitif iawn i ystod eang o randdeiliaid ar draws ffiniau sefydliadol.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Bryony Clark
- Teitl y swydd
- Associate Director of Digital Delivery
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector