Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Ysgrifennydd Meddygol
Gradd 4
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Darparu gwasanaeth ysgrifenyddol cynhwysfawr o'r radd flaenaf i dîm mawr o Staff Meddygol Ymgynghorol lleol ac i hwyluso cyfathrebu effeithiol rhwng timau meddygol yng nghanolfan De-ddwyrain Cymru.
Cymryd rhan weithredol yn y gwaith o gynllunio a gweithredu'r holl glinigau darllen ac asesu a gynhelir yng Nghanolfan Sgrinio'r Fron De-ddwyrain Cymru yng Nghaerdydd. Rhoi cyngor a gwybodaeth anghlinigol dros y ffôn, yn Gymraeg neu yn Saesneg, i ddefnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd neu eu gofalwyr.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae cyfle wedi codi ar gyfer Ysgrifennydd Meddygol hynod frwdfrydig a phrofiadol. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd ddarparu gwasanaeth ysgrifenyddol cynhwysfawr i'r tîm clinigol lleol. Cynllunio a chefnogi’r llwybr asesu, gan gynnwys prosesu clinigau asesu, teipio llythyrau clinig, cofnodi data clinigol a chreu atgyfeiriadau triniaeth electronig.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu dangos llygad craff am fanylion, meddu ar sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, sgiliau teipio copi a sain cywir a sgiliau trefnu lefel uchel.
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion â chymwysterau addas i weithio yn rhan o Bron Brawf Cymru, Caerdydd.
Mae manylion llawn y rôl a manyleb y person ynghlwm.
Os hoffech drafod y swydd cyn gwneud cais, cysylltwch â Linda Williams ar 02920 787808 neu drwy e-bost: [email protected]
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.
Gweithio i'n sefydliad
Iechyd Cyhoeddus Cymru yw Sefydliad Iechyd y Cyhoedd cenedlaethol Cymru. Ein gweledigaeth yw ‘Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru’. Rydym yn chwarae rhan ganolog mewn ysgogi gwelliannau o ran iechyd a llesiant y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu'r cyhoedd a chefnogi datblygiad iechyd ym mhob polisi ledled Cymru.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd “Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth”. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I gael rhagor o wybodaeth am weithio i ni, y buddion a gynigiwn a'r arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i https://icc.gig.cymru/gweithio-i-ni/gwybodaeth-a-chanllawiau-i-ymgeiswyr
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Ynghlwm yn y dogfennau ategol, mae Swydd-ddisgrifiad llawn a Manyleb y Person. Fel arall, cliciwch ar “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- RSA Prosesu Geiriau Lefel 2 neu gyfwerth
Meini prawf dymunol
- RSA Prosesu Geiriau Lefel 3
- Cymhwyster AMSPAR
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profaid ysgrifennydd meddygol blaenorol
Meini prawf dymunol
- Profaid o weithio yn y GIG
- Profaid o weithio mewn uned arbenigol ar y fon
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol
- Gallu sgyrsio yn Gymraeg, ar faterion cyffredinol, a defnyddwyr gwasanaethau, eu teulu neu ofalwyr
- Gallu blaenoriaethu gwaith
- gallu gweithioodan bwysau a bodloni terfynau amser
- Chwaraewr tim Clywdeipio
Meini prawf dymunol
- Llaw-fer
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am amrywiaeth eang o derminoleg feddygol yn Saesneg; rhoddir cymorth llawn lle mae angen dysgu terminoleg feddygol Gymraeg
- Gwybodaeth am amrywiaeth o becynnau TG e.e. Microsoft Office, Excel, Outlook, Access
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am sgrinio'r fron
- Gwybodaeth am gronfa ddata System Sgrinio Genedlaethol y fron
Nodweddion Personol
Meini prawf hanfodol
- Dull hyblyg o weithio
- Llawn cumhelliant / Brwdfrydig
- sylw i fanylion
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Linda Williams
- Teitl y swydd
- Deputy Screening Centre Manger
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 02920 787808
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector