Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
NHS Executive - Improvement Cymru
Gradd
Band 8a
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
  • Rhannu swydd
37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
028-AC146-0524
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
2 Chwarter y Brifddinas
Tref
Caerdydd
Cyflog
£51,706 - £58,210 pa
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
Today at 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Uwch Reolwr Gwella’r

Band 8a

Croeso i Weithrediaeth GIG Cymru, swyddogaeth gymorth genedlaethol newydd, yn weithredol o 1 Ebrill 2023

Ein pwrpas allweddol yw...

Ysgogi gwelliannau yn ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau gwell a thecach, mynediad a phrofiad y claf, llai o amrywiad, a gwelliannau yn iechyd y boblogaeth.

 I gael gwybod mwy, ewch i Weithrediaeth GIG Cymru.

 Ein Gwerthoedd

Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Trosolwg o'r swydd

Ni yw Academi Gwelliant Cymru ac rydym yn rhan o Gwelliant Cymru, y gwasanaeth gwella ansawdd cenedlaethol ar gyfer GIG Cymru.  Mae dysgu lleol a rhyngwladol yn gymorth i Academi Gwelliant Cymru, gan ddod â modelau cyflenwol newydd o ddulliau gwella i GIG Cymru, ynghyd ag integreiddio cynigion gan gyrff partner yng Nghymru.  Mae hyn yn ehangu ac yn dyfnhau gwyddor gwella, gan ymgorffori diogelwch; llif; meddwl system; lledaeniad a graddfa a newid ymddygiad, pob un wedi'i seilio ar ddull cyd-gynhyrchiol.  Bydd y swydd yn canolbwyntio ar gefnogi'r gwaith o greu cyfleoedd dysgu a chymorth gwella, gan adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd eisoes wedi'u sefydlu.   

Rydyn ni'n ymwneud â phobl a gweithio gyda phobl i ddarparu'r wybodaeth a'r sgiliau i wella gwasanaethau.  Beth bynnag fo'ch cefndir proffesiynol, hoffem glywed gennych os ydych yn hyfforddwr arloesol ac angerddol sydd â phrofiad a sgiliau mewn gwella ansawdd ac sy’n meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol.  Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth, cynwysoldeb, hyblygrwydd, a pharodrwydd i gydweithio. Os ydych yn chwilfrydig am ddatblygu eraill trwy ddarparu hyfforddiant o ansawdd uchel, yn mwynhau gweithio gyda phobl a cheisio cael y gorau ohonynt, yn gallu meddwl yn greadigol ac yn dymuno gweithio mewn tîm deinamig o gefndiroedd proffesiynol gwahanol, yna byddem wrth ein boddau yn gweld eich cais. Neu, os oes angen i chi ddarganfod mwy, anfonwch e-bost at Matthew drwy: [email protected] 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Byddwch yn aelod o dîm Academi Gwelliant Cymru a thrwy ddarparu hyfforddiant Gwella o ansawdd uchel a chymorth pwrpasol, byddwch yn galluogi gwella yn ansawdd a diogelwch gofal ar draws GIG Cymru. Bydd yr Academi Gwelliant Cymru yn dod â'n holl sgiliau datblygu, hyfforddi ac arwain Gwelliant at ei gilydd.  Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a phartneriaid gwella ehangach yn y DU i lywio datblygiad ein cwricwla gwella. Mae ein gwaith yn anelu at hwyluso dysgu, ymarfer a chyflawni gwella, gan ddarparu gwreiddiau a chysylltiadau gwella cryf ar draws y system. Drwy ddarparu gwybodaeth a sgiliau ein nod yw helpu i alluogi staff iechyd a gofal i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.

Lleolir y rôl yng Nghaerdydd, ym mhrif swyddfeydd Gwelliant Cymru, neu yn Wrecsam. Mae amodau gwaith presennol yn cefnogi dull cyfunol o weithio yn y swyddfa a gweithio gartref. Ar adegau efallai y bydd eich gwaith yn mynd â chi i wahanol sefydliadau partner ledled Cymru. Rydym yn parchu bod mwy i fywyd na gwaith ac rydym yn cynnig polisi gweithio hyblyg i'ch helpu i gydbwyso eich bywyd cartref a'ch bywyd gwaith. Cynigir y swydd barhaol hon ar sail llawnamser, rhan-amser neu rannu swydd. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg fel ei gilydd wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Gweithrediaeth y GIG yn gweithio mewn partneriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru yn a chyda GIG Cymru ac mae’n cael ei lletya gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ein prif bwrpas yw ysgogi gwelliannau o ran ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau, mynediad a phrofiad gwell a thecach i’r claf gyda llai o amrywiad, a gwelliannau o ran iechyd y boblogaeth.

Gwnawn hyn drwy ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol cryf – gan alluogi, cefnogi a chyfarwyddo GIG Cymru i drawsnewid gwasanaethau clinigol yn unol â blaenoriaethau a safonau cenedlaethol.

I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • • Addysgwyd i lefel Gradd Meistr mewn Addysg, Gwelliant neu Reolaeth neu lefel profiad cyfwerth o weithio ar lefel uwch reoli.
  • • Tystysgrif gwella (Gwella mewn Ymarfer, Lefel Ymarferwr Lean ac ati).
  • • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
  • • Cymhwyster darparu hyfforddiant
Meini prawf dymunol
  • • Cymhwyster hyfforddi
  • • Cymhwyster rheoli prosiect/rhaglen neu brofiad cyfwerth o arwain rhaglen/prosiectau gyda chanlyniadau amlwg

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • • Profiad rheoli sylweddol mewn uwch swydd yn cynnwys rheoli staff, yn y GIG neu ym maes Gofal Cymdeithasol yn ddelfrydol.
  • • Profiad o ddatblygu hyfforddiant
  • • Profiad o ddarparu hyfforddiant
  • • Profiad o ddadansoddi prosesau/problemau, herio meddwl cyfredol a meddwl am welliannau a datrysiadau.
  • • Profiad o lwyddiant wrth arwain a gweithredu gwaith rheoli newid sy’n seiliedig ar brosiect.
  • • Profiad o fentora neu hyfforddi ag annog timau neu unigolion.

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • • Gallu gweithio’n agos â phobl mewn meysydd eraill a ffurfio cysylltiadau gweithio proffesiynol, dylanwadu, negodi a datrys gwrthdaro mewn perthynas â rheoli newid.
  • • Gallu cyfathrebu cysyniadau a dadansoddiadau technegol cymhleth iawn i sefydliadau a chynulleidfaoedd gwahanol; yn cynnwys cyflwyniadau e.e. ar lefel Bwrdd.
  • • Gallu esbonio a gweithio gyda chysyniadau mesur ar gyfer gwella i amrywiaeth o gynulleidfaoedd a darparu cymorth ymarferol i dimau i ddatblygu mesurau ar gyfer gwella.
  • • Gallu trefnu, cynllunio a blaenoriaethu ystod amrywiol o raglenni strategol cymhleth i fodloni terfynau amser statudol ac eraill gan gynnwys meysydd/sefydliadau eraill fel arfer.
  • • Gallu hyfforddi grwpiau amlddisgyblaethol yn cynnwys staff clinigol drwy ddarparu rhaglenni hyfforddi aml-sefydliad.
  • • Gallu dangos crebwyll, creadigrwydd, hyblygrwydd ac ethos personol o wella’n barhaus.
  • • Gallu canolbwyntio a chwblhau tasgau’n gywir o fewn amserlenni penodol gan ymdrin ag achosion o darfu annisgwyl e.e. blaenoriaethau’n newid.
  • • Gallu newid strategaeth yn gamau gweithredu.
  • • Gwybodaeth ac arbenigedd ychwanegol y gellir eu dangos e.e. sgiliau cyflwyno a hwyluso uwch.
  • • Gwybodaeth am agenda a methodolegau gwella ansawdd y GIG.
  • • Deall gofynion Llywodraethu Gwybodaeth mewn perthynas â’r GIG.
Meini prawf dymunol
  • • Gallu rheoli gwasanaethau ar draws sefydliadau.

Priodweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • • Gallu bodloni gofynion teithio rheolaidd y swydd. (Bydd gofyn i ddeiliad y swydd deithio i unrhyw leoliad fel sy’n ofynnol gan y sefydliad a allai fod yn anghysbell a phell a gall hyn olygu aros i ffwrdd o gartref dros nos yn aml).
  • • Hyblyg i ddiwallu anghenion y gwasanaeth.
  • • Ymrwymiad i egwyddorion rheoli newid.
Meini prawf dymunol
  • • Gallu siarad Cymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Matthew Thornton
Teitl y swydd
Academy Senior Improvement Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg