Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Hwylusydd Gofal Sylfaenol
Gradd 5
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad uchelgeisiol sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i arwain ar drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal digidol. Mae’n adeiladu ar bensaernïaeth ddigidol a gwasanaethau cenedlaethol a roddwyd ar waith gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y degawd diwethaf.
Bydd y sefydliad yn arwain ar ddatblygiadau ar raddfa fawr sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, megis ehangu’r cofnod iechyd digidol a chreu’r Adnodd Data Cenedlaethol. Bydd yn gwella’r ffordd y mae data’n cael eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar yr ffurflen gais. Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Ydych chi’n chwilio am her newydd ac eisiau dechrau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru? Mae teulu Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) yn rhan o GIG Cymru ac mae ganddo rôl bwysig wrth newid y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru. Mae’r sefydliad yn cefnogi ein rhanddeiliaid gyda systemau modern a mynediad at wybodaeth bwysig am eu cleifion, gan rymuso pobl Cymru i reoli eu hiechyd eu hunain trwy wasanaethau digidol GIG Cymru.
Byddwch yn darparu cymorth ac arfer gorau ar draws ystod eang o gynhyrchion a gwasanaethau digidol i Randdeiliaid Gofal Sylfaenol gan gynnwys Optometryddion. Byddwch hefyd yn darparu cyngor ac yn cyfeirio at gynhyrchion a gwasanaethau presennol. Bydd deiliad y swydd hefyd yn cefnogi rhoi cynhyrchion a gwasanaethau newydd ar waith gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau hyfforddi a mentora i alluogi Rhanddeiliaid Gofal Sylfaenol i ddefnyddio gwasanaethau digidol yn effeithlon ac yn effeithiol. Os yw hyn yn swnio fel y math o rôl y mae gennych ddiddordeb ynddi ac rydych am ymuno â thîm gweithgar a chefnogol sy’n cynnig gweithio hyblyg ac sy’n datblygu ein tîm, e-bostiwch [email protected] neu [email protected] a all drefnu sgwrs anffurfiol i drafod y rôl.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Sefydlu a chynnal cyfathrebu ysgrifenedig a llafar dwyffordd effeithiol gyda Rhanddeiliaid, gan gynnwys Optometryddion, yn unol â chyfarwyddyd y Rheolwr Llinell. Trafod anghenion busnes TG presennol ac yn y dyfodol gyda Rhanddeiliaid, a chytuno arnynt a’u rheoli’n rhagweithiol. Cysylltu â chydweithwyr mewnol Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn anffurfiol neu mewn cyfarfodydd fel y bo’n briodol. Monitro ceisiadau gwasanaeth a gweithredu fel pwynt uwchgyfeirio ar gyfer materion Rhanddeiliaid, gan gysylltu â thimau Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Byrddau Iechyd a Chyflenwyr, yn ôl yr angen. Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Randdeiliaid am ddatblygiadau newydd, newidiadau i systemau, gwybodaeth am wasanaethau ac ati i gynnwys cyflwyniadau, cyfarfodydd rhithwir un i un a chyfarfodydd ar y safle. Darparu cyngor ac arweiniad i Randdeiliaid Gofal Sylfaenol yn unol â gweithdrefnau a chanllawiau cenedlaethol yn rhithiol neu ar y safle. Yn gyfrifol am ddarparu a derbyn gwybodaeth mewn perthynas â phrosiectau cynnyrch/gwasanaethau a ffrydiau gwaith y bydd angen eu dehongli a’u cyfleu i aelodau’r tîm. Cydgysylltu â Rheolwyr Cymorth Cynnyrch a chydweithwyr mewnol Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn ôl yr angen. Cefnogi dylunio a chyflwyno cyflwyniadau i gynulleidfaoedd Rhanddeiliaid. Mynychu unrhyw gyfarfodydd gyda Rhanddeiliaid a chydweithwyr Iechyd a Gofal Digidol Cymru gan sicrhau bod unrhyw waith cynllunio a pharatoi wedi’i gwblhau cyn y cyfarfod.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn rhan o deulu GIG Cymru ac mae ganddo rôl bwysig wrth newid y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal trwy dechnoleg a data. Mae’r sefydliad yn cefnogi staff rheng flaen gyda systemau modern a mynediad at wybodaeth bwysig am eu cleifion, wrth rymuso pobl Cymru i reoli eu hiechyd eu hunain trwy wasanaethau digidol GIG Cymru.
Mae gweithio i DHCW yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hyblyg, cyflog cystadleuol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a dathlu ein staff fel y rhan fwyaf gwerthfawr o’n sefydliad.
Ymunwch â'n tîm trawsnewidiol sy’n achub bywydau a dechrau gwneud gwahaniaeth go iawn i wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gweithio o fewn y Gweithdrefnau Gweithredu Safonol gan sicrhau bod amcanion cynnyrch yn cael eu bodloni. Darparu adroddiadau rheolaidd i Randdeiliaid gan gynnwys Optometryddion ar gynnydd ac effeithiolrwydd y gwasanaethau TG a ddarperir. Rhoi adborth ar brosesau a gweithdrefnau newydd. Cyfrannu at ddatblygu cynlluniau prosiect. Trefnu cynlluniau peilot i brofi a gwerthuso. Datblygu a darparu hyfforddiant a chynghori ar newidiadau i brosesau. Cyfrannu at weithredu mentrau cenedlaethol neu leol. Cyfrannu a rhoi adroddiadau rheolaidd i gydweithwyr a Rhanddeiliaid ar gynnydd ynghylch cynlluniau y cytunwyd arnynt. Cynhyrchu adroddiadau gwerthuso gydag argymhellion a fydd yn dylanwadu ar ddatblygiad datrysiadau. Bod yn gyfrifol am baratoi a drafftio adroddiadau. Cynnal cofrestrau, systemau gwybodaeth a chynlluniau gweithredu priodol. Darparu hyfforddiant i Randdeiliaid ar y cynhyrchion a’r gwasanaethau. Bod yn gyfrifol am gyflawni amcanion cynnyrch/gwasanaeth drwy ymgymryd â gweithgareddau penodol. Cefnogi’r Rheolwyr Cymorth Cynnyrch gan sicrhau bod y llywodraethu a sicrwydd priodol wedi’u cwblhau. Cyfrannu at ddatblygu a chyflwyno Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol ar gyfer Rhanddeiliaid, gan gymhwyso gwersi a ddysgwyd mewn hyfforddiant yn y dyfodol a sicrhau bod yr holl hyfforddiant yn cael ei werthuso. Bydd deiliad y swydd yn rheoli ei flaenoriaethau manwl ei hun, yn mynd i Gyfarfodydd Prosiect pan ofynnir iddo a bydd yn gallu teithio ar draws safleoedd yng Nghymru.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Lefel gradd neu gymhwyster cyfatebol neu'n gallu dangos hanes o brofiad cyfatebol.
- Ymrwymiad i’ch datblygiad proffesiynol parhaus eich hun.
- PRINCE2 sylfaen neu brofiad cywerth amlwg
- Gwybodaeth a dealltwriaeth dda o systemau a chyflenwyr Gofal Sylfaenol.
Meini prawf dymunol
- Wedi cofrestru gyda chorff proffesiynol gwybodeg perthnasol
- Tystysgrif Sylfaen ITIL neu brofiad cyfatebol amlwg.
- Gwybodaeth ymarferol o Dermau Clinigol.
- Gwybodaeth am sefydliadau GIG Cymru a strategaeth ITIL.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o rôl Iechyd a Gofal Digidol Cymru
- Gwybodaeth am safonau perthnasol y GIG a gofynion cyfreithiol sy'n ymwneud â Llywodraethu Gwybodaeth a Diogelwch.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ddarparu gwasanaethau cwsmeriaid mewn lleoliad Gofal Sylfaenol.
- Profiad o gyflawni prosiectau mewn lleoliad Gofal Sylfaenol.
Meini prawf dymunol
- Cyflwyno i grwpiau bach
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu gweithio ar eich liwt eich hun tra'n bod yn aelod effeithiol o dîm hybrid
- Ymagwedd ragweithiol a hyblyg at waith
- Gallu ymateb i amgylcheddau newidiol
- Sgiliau trefnu rhagorol a'r gallu i nodi blaenoriaethau
- Meddu ar sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol.
- Yn gallu datblygu a chynnal perthynas waith effeithiol gyda chydweithwyr a Rhanddeiliaid
- Yn gallu teithio i wahanol safleoedd yng Nghymru.
Meini prawf dymunol
- Mae Sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mark Short
- Teitl y swydd
- Primary Care Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn Cyfarwyddwyr neu bob sector