Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyllid
Gradd
Gradd 5
Contract
12 mis (Er bod y swydd hon wedi'i hysbysebu fel penodiad cyfnod penodol, bydd staff y GIG yn cael cynnig y penodiad fel secondiad. Os dymunwch wneud cais am secondiad, rhaid i chi gael cymeradwyaeth eich rheolwr llinell. Gellir ymestyn y swydd hon neu ei gwneud yn barhaol ar ddiwedd y cyfnod penodol/cyfnod secondiad yn dibynnu ar y cyllid sydd ar gael ac anghenion busnes.)
Oriau
  • Llawnamser
  • Gweithio hyblyg
37.5 awr yr wythnos (Model gweithio ystwyth i ganiatáu hyblygrwydd rhwng gweithio gartref a gweithio yn y swyddfa)
Cyfeirnod y swydd
082-AC029-0524
Cyflogwr
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ty Dysgu
Tref
Nantgarw
Cyflog
£28,834 - £35,099 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
27/05/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) logo

Cyfrifydd Rheoli Cynorthwyol

Gradd 5

 

 

Trosolwg o'r swydd

MAE'R SWYDD HON YN SWYDD MAMOLAETH TAN 31/08/2025 AC YN CAEL EI CHYNNIG AR SAIL AIL, YSTYRIR CONTRACT TYMOR PENODOL AR GYFER YMGEISYDD ADDAS.

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON. 

Rydym yn chwilio am weithiwr cyllid proffesiynol brwdfrydig, cymelledig ac ymroddedig i ymuno â thîm cyllid AaGIC fel Cyfrifydd Rheoli Cynorthwyol. Bydd y rôl yn cynorthwyo'r Partneriaid Busnes Cyllid i ddarparu rheolaeth ariannol ac adroddiadau ariannol i gefnogi cyflawniad blaenoriaethau a deilliannau strategol AaGIC yn y tymor byr a'r tymor hir.

Mae’r swydd hon am gyfnod penodol/secondiad am mis 12 oherwydd cwrdd gofynion y gwasanaeth.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd y Cyfrifydd Rheoli Cynorthwyol yn swydd allweddol o fewn y tîm cyllid a bydd yn darparu cefnogaeth ar draws yr adran gyllid ehangach a'r sefydliad, gan weithio i sicrhau bod cyfanrwydd y systemau ariannol yn cael ei gynnal.

Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod gwybodaeth ariannol yn cael ei phrosesu'n amserol, yn gywir ac yn unol â gweithdrefnau i gefnogi adrodd mewnol i uwch reolwyr, Cyfarwyddwyr a Bwrdd AaGIC.

Bydd yn ofynnol hefyd i ddeiliad y swydd ddarparu cefnogaeth i rolau eraill o fewn yr Adran Gyllid ac adrannau eraill yn AaGIC yn ôl yr angen.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

 

Gweithio i'n sefydliad

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r corff gweithlu strategol ar gyfer GIG Cymru sydd â swyddogaethau statudol sy'n cynnwys addysg a hyfforddiant, cynllunio'r gweithlu, datblygu a thrawsnewid y gweithlu, arweinyddiaeth a chynllunio olyniaeth, a gyrfaoedd.  Ein diben yw datblygu gweithlu sy'n darparu gofal rhagorol i gleifion/defnyddwyr gwasanaethau ac iechyd rhagorol yn y boblogaeth. Rydym yn Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid; Gofal Cymdeithasol Cymru, darparwyr addysg, cyrff proffesiynol a rheoleiddiol a Llywodraeth Cymru.

Mae AaGIC wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant mewnol o ddewis. Mae ein Gwerthoedd yn adlewyrchu ein meddyliau, ein teimladau a'n credoau o ran sut y byddwn, ac na fyddwn, yn ymddwyn ac yn trin eraill:

- Parch i Bawb ym mhob cyswllt sydd gennym ag eraill,

- Syniadau sy'n Gwella: Harneisio creadigrwydd ac arloesi, gwerthuso a gwella'n barhaus,

- Gyda'n Gilydd fel Tîm

Derbyniodd AaGIC Wobr HPMA ar gyfer Ymgysylltu â Gweithwyr yn 2019.

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl:

- cyfnod ymsefydlu corfforaethol ag amserlen Croeso 90 diwrnod,

- arweinyddiaeth dosturiol,

- proses arfarnu perfformiad ystyrlon sy'n seiliedig ar werthoedd,

- y cyfle i effeithio ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a bywydau a lles pobl Cymru.

Mae llawer o'n cydweithwyr a'n rhanddeiliaid wedi gwneud sylwadau ar y cyffro a'r awyrgylch a olygwn drwy gydweithio fel "Un Tîm AaGIC". Ydych chi am ymuno â'r tîm hwnnw?

 

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau a/neu Wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Aelod o AAT neu gymhwyster ar lefel Tystysgrif CCAB neu gyfwerth.
  • Addysgedig i lefel Gradd mewn pwnc perthnasol neu brofiad cyfatebol.
Meini prawf dymunol
  • Defnyddio systemau cyfriflyfr cyffredinol Oracle.
  • Gwybodaeth fanwl am gyfundrefn Cyllid y GIG a pholisïau Cyllid y GIG.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o Gyfrifeg Rheoli.
Meini prawf dymunol
  • Wedi gweithio yng nghyd-destun cyllid y GIG.
  • Adnabyddiaeth o ORACLE a QlikView.

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio ar adegau pan na ellir cynnal cyfarfodydd rhithwir â rhanddeiliaid allanol.

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Lefel uchel o ran sgiliau rhifedd.
  • Sgiliau dadansoddi cryf.
  • Sgiliau TG rhagorol, gan gynnwys profiad gyda phob un o raglenni Microsoft.
  • Y gallu i gyfathrebu materion ariannol cymhleth a manwl mewn modd clir a syml.
  • Cynhyrchu gwaith o safon gan roi sylw i fanylion.
Meini prawf dymunol
  • Mae Sgiliau Cymraeg yn ddymunol, lefelau 1 i 5 mewn deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Stonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionDisability confident committedDying to Work CharterERS Silver Banner WelshEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental health

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Caroline Milton
Teitl y swydd
Finance Business Partner
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Byddem yn falch iawn o glywed gennych, ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â [email protected].

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg