Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Ffisiotherapydd Arbenigol
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
A ydych yn Ffisiotherapydd dynamig ac ymroddedig sy’n chwilio am gyfle gwerth chweil i gael effaith sylweddol ar fywydau unigolion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?
Nid oes angen i chi edrych ymhellach! Ar hyn o bryd mae gennym gyfle i Ffisiotherapydd brwdfrydig, llawn cymhelliant ac angerddol ymuno â thîm Ffisiotherapi Gofal Critigol a Llawfeddygol dynamig yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin. Mae’r tîm Ffisiotherapi Gofal Critigol a Llawfeddygol yn darparu gofal adsefydlu i ystod eang o gleifion sydd wedi bod yn ddifrifol wael, yr oedd arnynt angen triniaeth lawfeddygol, sydd wedi bod yn feddygol sâl neu gleifion sy'n rhan o lwybr y Rhwydwaith Trawma Mawr. Rydym yn chwarae rhan allweddol yn siwrnai'r claf o ofal critigol i'r cartref, a hynny trwy gysylltu ag aelodau eraill o’r tîm amlddisgyblaethol, mynychu rowndiau'r bwrdd a darparu gofal holistaidd sy’n canolbwyntio ar y claf.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda chyd-weithwyr yn y gwasanaethau cleifion mewnol a chymunedol a'r tîm amlddisgyblaethol lleol er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i gleifion. Anogir a chefnogir arloesedd o ran ymarfer a datblygu gwasanaethau.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gyfrannu at ddarparu gwasanaeth anadlol ar alwad, yn ogystal ag at ddatblygiadau yn y dyfodol o ran gweithio wythnos saith niwrnod.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n hyblyg yn y lleoliad acíwt ledled wardiau llawfeddygol, wardiau meddygol a Gofal Critigol. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd fod yn ymarferydd ymreolaethol sy'n darparu sgiliau rhesymu clinigol ac asesu arbenigol ac yn rheoli llwyth achosion cymhleth yn ddyddiol. Bydd y llwyth achosion yn cynnwys cleifion anadlol cymhleth, cleifion y Rhwydwaith Trawma Mawr a chleifion adsefydlu meddygol a gofal critigol.
Mae’r rôl yn cynnwys y cyfle i ddarparu addysg anadlol i aelodau staff er mwyn eu huwchsgilio i gymryd rhan yn y gwasanaeth anadlol ar alwad. Mae hefyd yn cynnig y cyfle i ddarparu goruchwyliaeth ac addysg i weithwyr cymorth band 5 a myfyrwyr fel ei gilydd.
Er y bydd prif ffocws y rôl yn Ysbyty Glangwili, bydd disgwyl i chi weithio’n hyblyg ochr yn ochr â’r gwasanaethau yn Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli yn ôl yr angen.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd feddu ar y sgiliau i gymryd rhan yn y gwasanaeth anadlol ar alwad. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Ar gyfer y rôl dylech feddu ar brofiad ac arbenigedd helaeth o ran egwyddorion, safonau a'r broses o ddarparu gofal adsefydlu i gleifion mewnol, ynghyd â gwybodaeth amlwg amreoli llwythi achosion cymhleth. Mae'r tîm yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr a chynaliadwy o ansawdd i'n cleifion.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae hwn yn gyfle i ymuno â thîm sy'n croesawu dulliau arloesol o ymdrin ag adsefydlu, gan eich grymuso i roi arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar waith i ysgogi canlyniadau cadarnhaol i'ch cleifion.
Rydym yn darparu diwylliant o gydweithio a chymorth lle mae amrywiaeth o syniadau yn ysgogi arloesedd. Nid yn unig y clywir eich syniadau, ond cânt eu hannog yn frwd.
Yn ein gwasanaeth, rydym yn cydnabod mai ein staff yw ein hased cryfaf ac yn buddsoddi yn eu twf proffesiynol. Rydym yn darparu cyfleoedd cynhwysfawr ar gyfer datblygiad proffesiynol, yn fewnol ac yn allanol, lle anogir staff i ymgymryd ag astudiaethau ôl-raddedig (cyfleoedd i wneud cais am gyllid a rennir).
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 28/05/2024
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestru proffesiynol fel y'i cydnabyddir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Tystiolaeth ol-raddedig o addysg arbenigol
- Tystiolaeth o DPP
- Sgilian TG
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster ol-raddedig hyd at lefel diploma mewn arbenigedd perthnasol
- Cwrs Hyfforddi Addysg Glinigol
- Yn aelod o'r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
- Yn cyfranogi'n frwd i grwpiau diddordeb arbennig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ol-raddedig mewn arbenigedd clinigol perthnasol
- Wedi cwblhau'r fframwaith cymhwysedd iau
- Profiad ymarferol hyd at lefel a fyddai'n eich galluogi i gymryd rhan yn y rota ar alwad anadlol
- Trin therapiwtig ac asesiadau risg
- Rheoli llwyth gwaith amrywiol gan ddefnyddio proses rhesymu clinigol
- Gweithio mewn tim rhyng-broffesiynol
- Cysylltiad uniongyrchol â gofalwyr a theuluoedd
- Tystiolaeth o gefnogi cydymffurfedd gwasanaeth a gofynion llywodraethu clinigol
- Profiad o oruchwylio staff
Meini prawf dymunol
- Profiad o oruchwylio myfyrwyr
- Trafod arferion gweithio tim amlddisgyblaethol
- Profiad o ddatblygu gwasanaethau
- Profiad o weithio i'r GIG
Arall
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o addysgu/hyfforddiant mewn swydd
- Agwedd hyblyg er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth
- Yn barod i gymryd rhan yn y gwasanaeth ar alwad a'r gwasanaeth estynedig
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
Gofynion Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Hannah Thomas
- Teitl y swydd
- Acute Service Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227808
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Cewch groeso cynnes yma os dymunwch drefnu ymweliad!
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector