Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferyllfa
Gradd
Gradd 3
Contract
11 mis (Cyfnod Penodol/Secondiad tan 01/06/2025 i diwallu anghenion y gwasanaeth.)
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
Dydd Llun i Dydd Gwener
Cyfeirnod y swydd
100-AC114-0524
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Tywysog Philip
Tref
Llanelli
Cyflog
£23,159 - £24,701 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
29/05/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
10/06/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Cynorthwyydd Gweinyddol - Tîm Gofal Cartref Fferylliaeth

Gradd 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae hon yn swydd cyfnod penodol/secondiad tan 01/06/2025 i diwallu anghenion y gwasanaeth.

Os ydych chi'n gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am y swydd hon fel secondiad, mae angen cytundeb ar gyfer yr secondiad gan eich rheolwr presennol cyn gwneud cais.

Dyma gyfle gwych i unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant sy'n gweithio'n dda mewn tîm ac sy'n dymuno gweithio mewn tîm amrywiol ac arloesol.

Mae darparu meddyginiaeth trwy'r llwybr gofal yn y cartref yn wasanaeth sy'n tyfu, ac sydd o fudd i gleifion a chlinigwyr fel ei gilydd. Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n llawn cymhelliant i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel, ac i gefnogi'r broses o'i esblygu

Byddwch wedi eich lleoli yn y tîm fferyllol gofal yn y cartref yn Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli ac yn meithrin perthnasoedd gwaith agos â chleifion, darparwyr gwasanaethau a thimau clinigol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd y rôl yn cynnwys tasgau clercol a gweinyddol i gefnogi'r gwaith o redeg gwasanaeth y tîm gofal yn y cartref o ddydd i ddydd i'r Bwrdd Iechyd.  Byddwch yn gyfrifol am reoli presgripsiynau ar gyfer cleifion sy'n cael eu meddyginiaethau trwy'r llwybr gofal yn y cartref cynnal cofnodion cywir a datrys ymholiadau. Yn ychwanegol, bydd disgwyl i chi weithio'n agos gyda thimau cyllid a chaffael, gan sicrhau bod archebion ac anfonebau'n cael eu prosesu mewn modd amserol; darparu data ar gyfer anfonebu am feddyginiaethau cost uchel; a chysylltu â chlinigwyr i sicrhau bod presgripsiynau gofal yn y cartref yn cael eu darparu'n amserol.

Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn hyfedr wrth ddefnyddio cyfrifiadur, meddu ar sgiliau trefnu profedig, y gallu i flaenoriaethu eu gwaith, a meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol.

Nid oes angen profiad blaenorol o weithio ym maes Rheoli Meddyginiaethau Fferyllfa na Gofal yn y Cartref, ond mae brwdfrydedd dros her newydd a pharodrwydd i ddysgu yn allweddol.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 10/06/2024

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • RSA 3 neu brofiad cyfwerth amlwg
  • NVQ 2 Gweinyddu neu brofiad cyfwerth amlwg
  • Safon uchel o addysg gyffredinol
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth amlwg o ran rôl gweinyddiaeth yn y gwasanaeth iechyd, er enghraifft yr angen i ddilyn polisïau a gweithdrefnau
  • Yn deall pwysigrwydd cadw cyfrinachedd bob amser
Meini prawf dymunol
  • ECDL
  • Gwybodaeth am y system TG Iechyd

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn swyddfa brysur
  • Profiad helaeth o gysylltu a chyfathrebu â'r cyhoedd.
  • Profiad o gydlynu a blaenoriaethu nifer o ofynion gwrthgyferbyniol mewn modd effeithiol.
  • Yn gyfarwydd â phecynnau TG Microsoft a systemau TG, ac yn gymwys i'w defnyddio
  • Profiad o fwrw ati i ddatrys problemau arferol.
Meini prawf dymunol
  • Wedi gweithio yn amgylchedd y GIG

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i weithio mewn amgylchedd lle gallai llawer o bethau torri ar eich traws
  • Y gallu i deithio i safleoedd eraill mewn modd amsero
  • Yn meddu ar agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Stonewall Diversity ChampionDisability confident employerStonewall equality policy. Equality and justice for lesbians, gay men, bisexual and trans people.Carer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Thomas Watkeys
Teitl y swydd
Senior Homecare Technician
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01554 783481
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Argymhellir eich bod yn cysylltu â'r tîm i gael sgwrs anffurfiol i drafod y rôl ymhellach neu i drefnu ymweliad â'r adran.

I gael rhagor o fanylion/drefnu ymweliadau anffurfiol, cysylltwch â:

Tom Watkeys / Sally Richards

01554 783481

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg