Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Deietegydd Cymunedol
Gradd 5
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
A ydych yn dymuno ddechrau neu symud ymlaen â'ch gyrfa fel Deietegydd Cymunedol Band 5 mewn adran gefnogol sy'n pwysleisio goruchwyliaeth glinigol a chymorth gan gyfoedion, yn ogystal â dysgu a datblygu?
Mae cyfle wedi dod ar gael i ymuno â’n tîm Deieteg cymunedol blaengar a dynamig yn Sir Benfro, a hynny er mwyn mynd i’r afael â diffyg maeth yn rhan o’n hachos busnes Diffyg Maeth. Mae’r gwasanaeth wedi cael buddsoddiad sylweddol i fynd i’r afael â diffyg maeth, ac, o ganlyniad, mae’r swydd hon yn cynnig cyfle cyffrous i gydweithio â thimau cymunedol ehangach i ddelio â diffyg maeth yn y gymuned, yn ogystal â chefnogi gwaith prosiect cyffrous ac arloesol megis hunansgrinio ar gyfer diffyg maeth, clinigau rhithwir, llwyfannau digidol, prosiectau cartrefi nyrsio, a ffyrdd newydd o weithio.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y rôl band 5 gymunedol hon, a leolir yn Sir Benfro, yn cynnig cyfle cyffrous i ddatblygu sgiliau arwain a gweithio mewn tîm yn ogystal â pharhau i gynyddu eich gwybodaeth ddietegol. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus lwyth achosion amrywiol o gleifion a all fod ag amrywiaeth o gyflyrau. Yn rhinwedd y rôl hon, bydd yna gyfle i feithrin profiad, yn ogystal â chyfle i ddatblygu sgiliau mewn meysydd arbenigol megis Diabetes, Rheoli Pwysau, Presgripsiynu a Hybu Iechyd.
Byddwch yn cefnogi'r broses o ddarparu clinigau cleifion allanol ar y safle, ac yn gweithio'n agos gyda'n Timau Nyrsys Maeth a'n Hymarferwyr Cynorthwyol Deieteg. Byddwch yn datblygu'r sgiliau a'r profiad angenrheidiol mewn bwydo gartref trwy diwb i'r gwythiennau a'r ymysgaroedd, cymorth maeth cymunedol, ac yn cefnogi gweithrediad menter triniaeth newydd ac arloesol y Bwrdd Iechyd sy'n seiliedig ar fwyd ar draws cartrefi nyrsio ac ysbytai bwthyn yn Sir Benfro, a hynny ochr yn ochr â'r gwasanaeth rheoli meddyginiaethau.
Bydd hyfforddiant ac addysg yn rhan ganolog o'r rôl hon, yn ogystal â chynorthwyo i hyfforddi myfyrwyr, a datblygu a rhoi ein rolau Ymarferwyr Cynorthwyol Deieteg ar waith.
Yn ein gwasanaeth rydym yn ymfalchïo mewn bod yn dîm cefnogol, a chroesawn ymgeiswyr ar gyfer y swydd hon sy’n dymuno trafod ac archwilio’r cyfleoedd ar gyfer gweithio'n hyblyg a gweithio o bell.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 28/05/2024.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd gydnabyddedig mewn Deieteg, ynghyd â chofrestriad proffesiynol
- Cofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Yn amlygu gwybodaeth dda am y sail dystiolaeth mewn perthynas ag ymarfer deieteg a datblygu ymarfer, ac yn gallu cymhwyso'r wybodaeth honno
- Yn amlygu gwybodaeth a sgiliau deieteg clinigol cyfnerthedig ym maes dieteteg oedolion
- Gwybodaeth am y sylfaen dystiolaeth gyfredol a datblygol, ynghyd â pholisïau, canllawiau ac arfer gorau cenedlaethol a phroffesiyno
- Yn amlygu sgiliau trefnu effeithiol, sy'n cynnwys blaenoriaethu'r llwyth gwaith a rheoli'r llwyth achosion mewn modd effeithiol
- Sgiliau addysgu a chyflwyno sefydledig
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster TG cydnabyddedig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Lleoliadau ymarfer clinigol mewn amrywiaeth o feysydd cyffredinol ac arbenigol ar gyfer cleifion mewnol a chleifion allanol
Meini prawf dymunol
- Profiad clinigol ychwanegol neu brofiad ychwanegol ym maes gofal iechyd
- Profiad gwaith ac iddo gyfeiriadedd cyhoeddus
Gofynion Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Arall
Meini prawf hanfodol
- Agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
- Y gallu i deithio ledled y Bwrdd Iechyd mewn modd amserol.
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth leol
- Gofal Iechyd a Maeth
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Elizabeth Green
- Teitl y swydd
- Clinical Lead Dietitian
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07811 711756
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Paul Makin
Deietegydd Arweiniol Clinigol
07813400342
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector