Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Seiciatreg Oedolion Cyffredinol
Gradd
NHS Medical & Dental: Consultant
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-CONWY-PSYCH-0124
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Nant y Glyn, Bae Colwyn
Tref
Bae Colwyn
Cyflog
£91,722 - £119,079 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
20/05/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Meddyg Ymgynghorol ym maes Seiciatreg Gyffredinol Oedolion

NHS Medical & Dental: Consultant

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu mewnbwn meddyg ymgynghorol i bobl sy'n cael gofal gan Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol Conwy.

Mae'r holl atgyfeiriadau i'r Tîm Cymunedol yn cael eu rheoli gan un pwynt mynediad .  Yn ystod y cyfarfod, penderfynir pwy yw'r person mwyaf priodol yn y gwasanaeth i weld y claf a atgyfeiriwyd.  Mae'r rhai sy'n cymryd rhan yn y cyfarfod yn cynnwys uwch-gynrychiolwyr y tîm gofal sylfaenol ac eilaidd.  Bydd meddyg ymgynghoro yn mynychu bob dydd.

Disgwylir i ddeiliad y swydd gydymffurfio â Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. 

Gall y swydd weithiau ddenu meddyg iau, yn dibynnu ar argaeledd yn y rota hyfforddi. Nid oes mewnbwn gan feddygon arbenigol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

deiliad y swydd yn darparu gwasanaethau asesu, trin a rheoli seiciatrig arbenigol i oedolion 18 oed a throsodd sydd ag afiechyd meddwl difrifol a pharhaus yn Conwy.  Bydd deiliad y swydd yn darparu mewnbwn meddygol i gleifion sy'n cael gofal gan y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Gofal Eilaidd pan fo angen yn ogystal ag ymgynghori â Gwasanaethau Iechyd Meddwl Sylfaenol yn ei ardal dalgylch a'u goruchwylio. 

Bydd y gwasanaeth yn cynnig gwasanaeth a arweinir gan anghenion ac, felly, disgwylir i ddeiliad y swydd reoli'r rhai dros 65 oed hyd at yr adeg pan fydd eu hanghenion yn cael eu diwallu'n fwy priodol gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn.   (Mae'r trefniadau pontio yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd).

Bydd deiliad y swydd wedi'i leoli gyda'r Tîm Iechyd Meddwl Clinigol a bydd yn gweithio gyda rheolwr y sir i sicrhau arweinyddiaeth glinigol ar gyfer y tîm amlddisgyblaethol.  Bydd deiliad y swydd yn helpu i oruchwylio'r tîm yn glinigol. Rhagwelir y bydd deiliad y swydd yn helpu i hyfforddi aelodau'r tîm mewn materion clinigol.

Mae'r gwasanaeth yn gweithredu Model Gofal Acíwt, gyda dau feddyg ymgynghorol cleifion mewnol dynodedig yn rheoli'r cleifion newydd sy'n cael eu derbyn i'r gwasanaeth.  Mae'r meddygon ymgynghorol cleifion mewnol hefyd yn gyfrifol am gleifion y tîm triniaeth yn y cartref.  Bydd deiliad y swydd yn cydweithio â'r Gwasanaethau Gofal Acíwt.  Mae cynllun y swydd yn cynnwys sesiwn benodol ar gyfer ymgynghori â'r Gwasanaeth Gofal Acíwt. 

Gweithio i'n sefydliad

Rydym wrth ein bodd bod gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â'r Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu.  Pan fyddwch chi'n ymuno â'r Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu, gallwch gydbwyso bywyd a gwaith gyda chyfleoedd gweithio hyblyg, gweithio hybrid a gweithio ystwyth ac mae digonedd o gyfleoedd i hyfforddi a datblygu gyrfa.

Mae rhai o'r manteision niferus o ymuno â'r Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu yn cynnwys:

  • Llesiant, Gwaith a Ni - gwasanaeth sy’n cynnig cymorth ac ymyrraeth i staff ar yr adegau pan fo angen hynny. Mae ansawdd ein rhyngweithio wedi'i wreiddio yn ein llesiant ein hunain – pan fyddwn ni'n iach, gallwn gefnogi ein gilydd a’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau, yn well.
  • Gwasanaethau sy'n amrywio o sesiynau galw heibio, cwnsela, hyfforddi a champfa ar y safle.
  • Goruchwyliaeth Reolaethol a Chlinigol - cyfleoedd rheolaidd i staff gael adborth gan reolwyr, trafod cyfleoedd datblygu a chanolbwyntio ar lesiant yn gyffredinol.
  • Gwaith hyblyg sy'n addas i chi a'ch teulu, megis oriau llawn amser, oriau blynyddol, gwaith rhan amser, gwaith yn ystod y tymor, gweithio o bell a gweithio hybrid sy’n caniatáu cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith. Dewch i drafod!
  • Cefnogaeth i ddatblygu eich gyrfa mewn lle sy'n eich galluogi i gyflawni eich nodau yn y gwaith a thu hwnt.
  • Cyfle i gael eich cydnabod am waith gwych trwy ein gwobrau cyrhaeddiad staff

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb bersonol ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch ‘Gwneudd Cais Nawr’ i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • MB BS neu gymhwyster meddygol cyfatebol.
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster neu radd uwch mewn addysg feddygol, ymchwil glinigol neu reolaeth.
  • MRCPsych neu gymhwyster cyfatebol wedi'i gymeradwyo gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion.
  • Cymeradwyaeth fel Clinigydd Cymeradwy yng Nghymru.

Cymhwystra

Meini prawf hanfodol
  • Wedi'i gofrestru'n llawn â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol â thrwydded i ymarfer adeg penodi.
  • Wedi'i gynnwys ar Gofrestr Arbenigol y Cyngor Meddygol Cyffredinol neu o fewn 6 mis i gwblhau CCT.
  • Statws Clinigydd Cymeradwy neu'n gallu cyflawni statws o'r fath o fewn 3 mis i gael ei benodi.
  • Wedi'i gymeradwyo o dan A12 neu'n gallu cyflawni cymeradwyaeth o'r fath o fewn 3 mis i gael ei benodi.
Meini prawf dymunol
  • Cofnod da â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol mewn perthynas â rhybuddion ac amodau ymarfer.

Sgiliau Clinigol

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o hyfforddiant yn y cymwyseddau craidd ac arbenigol ar gyfer seiciatreg gymunedol.
Meini prawf dymunol
  • Profiad wrth arwain tîm amlddisgyblaethol.
  • Profiad o ymarfer seiciatrig cymunedol.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Dr Anita Pierce
Teitl y swydd
Deputy Medical Director/ Consultant Psychiatrist
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 850041
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg