Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Swyddog Deintyddol Band A
Deintyddol Meddygol a Deintyddol y GIG: Deintydd Cyflogedig - A
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn edrych i recriwtio chwaraewyr tîm sydd yn frwdfrydig, hyblyg ag yn llawn cymhelliad gyda sgiliau cyfathrebu ardderchog. I ddarparu triniaeth glinigol yn unol a Band A ac yn unol a polisi Llywodraeth Cymru.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu ystod o driniaeth deintyddol ar gyfer grwpiau blaenoriaeth a chleifion sydd wedi eu cyfeirio at y CDS yn unol â pholisi Cyfarwyddiaeth/Y Bwrdd Iechyd.
Mae Disgrifiad Swydd Llawn a Manyleb y Person i'w gweld yn yr adran dogfennau ychwanegol.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol Gogledd Cymru yn wasanaeth enfawr yn cyflogi dros 200 o staff ac wedi ymrwymo i addysg parhaol.
Mae rhan fwyaf o’r staff wedi ei hyfforddi mewn technegau mewnanadliad tawelyddu. Mae’r gwasanaeth yma ar gael bron ymhob safle, yn cael ei gynnig gan ddeintyddion a therapyddion. Mae gwasanaeth ymdaweliad mewnwythiennol hefyd ar gael, ac mae Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn gweithredu gwasanaeth anesthesia cyffredinol yn tair Ardal yr Ysbytai Gyffredinol.Rydym yn cael cefnogaeth gan ymgynghorydd Bediatrig Deintyddol Ysbyty Alder Hey.
Ar hyn o bryd rydym yn croesawu dau (HCD)(DCT(1) pob blwyddyn ac mae gennym safle i arbenigwr hyfforddiant mewn Deintyddiaeth Gofal Arbennig. Mae holl myfyrwyr blwyddyn olaf Ysgol Ddeintyddol Gaerdydd yn mynychu Cynllyn Hyfforddiant Allanol i Fyfyrwyr yn gweithredu o Ganolfan Deintyddol Wrexham.
Mae gwasanaethau estynedig yn cynnwys Gwasanaeth Haen Canolog Llawfeddygaeth Dant- gorfannol a darpariaeth cefnogol (DGA) i tîm Canser Pen a Gwddf (MDT). Darperir hyfforddiant i Therapyddion mewn Mynediad Uniongyrchol ac Mewnanadliad Tawelyddu,ac rydym wedi ymrwymo i ehangu modelau medr gymysgedd.
Buddion
- Lwfans adleoli ar gael
- Cennad absenoldeb i astudio wedi ei dalu -21diwrnod mewn tair blynedd (pro rata)
- Lwfans Hyfforddi Casgliadwy Blynyddol o £972 pob blwyddyn
- Cynllun prydlesu car yn weithredol
- Fe delir am Absenoldeb Blynyddol - 34 o ddyddiau a 8 o ddyddiau gwyliau’r banc (pro rata)
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae Disgrifiad Swydd Llawn a Manyleb y Person i'w gweld yn yr adran dogfennau ychwanegol.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad llawn gyda'r GDC
- Bagloriaeth mewn Llawdriniaeth Ddeintyddol neu gyfwerth
- Prawf o gynnal datblygiad proffesiynol parhaus ar ôl graddio
- Ardystiad diogelu plant ac oedolion
- ILS ac Ardystiad PLS
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster ôl-radd sy'n dangos sgil clinigol priodol
- Aelodaeth o sefydliad proffesiynol/cymdeithas dysgu
- Hyfforddiant Galwedigaethol neu gyfwerth achrededig yn y DU
Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiad diweddar yn y GIG mewn Gwasanaeth Deintyddol Cymuned/ Gwasanaeth y cawsoch gyflog amdano a / neu GDS
- Pob agwedd o ddeintyddiaeth gyffredinol
- Darpariaeth o ofal i gleifion o bob oed
Meini prawf dymunol
- Disgyblaethau deintyddol eraill
- Wedi arfer gweithio mewn amgylchedd cartref cleifion/deintyddiaeth symudol
- Asesu a thrin cleifion bregus sydd ag anghenion clinigol arbennig ac/neu ymddygiad heriol
- Trefnu Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol
- Darpariaeth 'Safety Net' neu EDS
- Profiad â Thawelydd Anadlu
- Profiad o ddarparu gofal gan ddefnyddio Anesthesia Cyffredinol
- Profiad o ffurfiau eraill o dawelyddion neu reolyddion gorbryder
- Asesiad o gleifion am driniath o dan Anesthesia Cyffredinol
Sgiliau Personol
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau Tîm: yn gallu cyfathrebu â'r tîm a'i gefnogi a'i gymell
- Hunangymhelliant ac yn gallu bodloni terfynau amser
- Gallu blaenoriaethu a threfnu eich llwyth gwaith
- Sgiliau rhyngbersonol / chyfathrebu da
- Yn gallu defnyddio cymhelliant
- Sgiliau dirprwyo-gweithio gyda therapyddion / hylenyddion deintyddol
- Sgiliau cyfrifiadurol
Meini prawf dymunol
- Gallu defnyddio pecynnau meddalwedd e.e. Soel Health
Addasrwydd Personol
Meini prawf hanfodol
- Bodlon ymrwymo i sicrhau canlyniadau a chwrdd â therfynau amser
- Gosod safonau uchel a bod â’r cymhelliant i’w cyflawni
- Ymateb yn bositif i ethos tîm
- Yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun
- Gallu gweithio'n annibynnol
- Ymagwedd hyblyg at flaenoriaethau a systemau gwaith cyfnewidiol
Meini prawf dymunol
- Bod yn arloesol e.e. awgrymu syniadau newydd i wella trosglwyddiad y gwasanaeth
Cyffredinol
Meini prawf hanfodol
- Gallu teithio rhwng safleoedd yn brydlon
- Rhuglder neu wybodaeth am ieithoedd perthnasol eraill
Meini prawf dymunol
- Rhuglder neu wybodaeth am y Gymraeg
- Rhuglder neu wybodaeth iaith/ieithoedd perthnasol eraill
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dr Raza Jaffery
- Teitl y swydd
- Assistant Clinical Director
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 856231
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Meddygol a deintyddol neu bob sector