Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Epynt Registered Nurse Brecon Hospital
5
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant, blaengar, claf-ganolog i ymuno â'n tîm nyrsio rhagorol ar Ward Epynt yn Ysbyty Aberhonddu. Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm amlddisgyblaethol, sy’n ofalgar ac yn garedig ac sydd am ddatblygu ei sgiliau arweinyddiaeth glinigol. Bydd disgwyl i chi weithio fel ymarferydd ymreolaethol gyda chefnogaeth rheolwr y ward, uwch staff nyrsio a therapïau.
Mae oriau a phatrymau gwaith amrywiol ar gael ar y ward.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cyfartal i siaradwyr Saesneg a/neu Gymraeg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Disgrifir Powys fel lle hyfryd i fyw ac i weithio; lleoliad iechyd yn y cefn gwlad lle gallwch ddatblygu yn bersonol ac yn broffesiynol, a lle mae’r cleifion yn ganolog i’r ddarpariaeth. Os ydych chi’n weithiwr iechyd proffesiynol yn chwilio am bodlonrwydd yn eich gyrfa, yna Powys yw’r lle. Beth bynnag yw eich dyheadau gyrfa, rydym yn ymrwymedig i’ch cefnogi a’ch datblygu.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am fodloni anghenion iechyd a lles poblogaeth Powys. Powys yw’r sir fwyaf yng Nghymru, ac o Eryri yn y golgedd i’r Bannau yn y de, mae’n un o’r harddaf hefyd. Drwy weithio mewn partneriaeth rydym yn comisiynu, ac wedi ennill gwobrau am ddarparu, gofal mewn ysbytai, yn y gymuned, iechyd meddwl, a gwasanaethau anableddau dysgu, felly mae’n porffolio’n eang ac amrywiol. Rydym yn falch o gynnig gofal heb ei ail i’n cleifion ac ystod o yrfaoedd i bobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn.
Oeddech chi’n gwybod – Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn derbyn ceisiadau i ymddeol a dychwelyd o fewn GIG Cymru. Os hoffech wybod rhagor, cysylltwch a thim y gweithlu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar 01874 712580 neu [email protected]
Mae Step into Health yn cysylltu cyflogwyr yn y GIG a phobl o gymuned y Lluoedd Arfog.
Croeso i ymgeiswyr ymgeisio yn y Gymraeg, ni chaiff cais yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol nag un yn y Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae disgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch ar ``gwneud cais nawr`` i'w gweld yn Trac
Manyleb y person
Qualifications/Experience
Meini prawf hanfodol
- NMC Registered
- Pre-registration evidence in direct nursing care
- Experience of providing hoslitic nursing care
- Interest in developing nursing skills
- Clear understanding of contract of care
- Ability to document details clearly and accurately
- Clear understanding of consent process
- Basic IT skills
- Ability to communicate effectively
- Ability to work under pressure
- Leadership skills
Meini prawf dymunol
- Evidence of post registration study and training
- Awareness of safeguarding
- Intermediate life support
- Clear understanding of clinical governance framework
- Implement evidence-based pratice
- Ability to speak Welsh
- Knowledge of incident reporting policy
- Awareness of policies
- Knowledge of risk assessments
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Registered nurse
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Susanne Gomm
- Teitl y swydd
- Ward Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01874 615756
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector