Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Therapydd Galwedigaethol Arbenigol - Strôc
Gradd 6
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i therapydd galwedigaethol niwro i ymuno â’n gwasanaeth therapi galwedigaethol i weithio’n bennaf o fewn amgylchedd cleifion mewnol gyda chleifion allanol.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â’r awydd i weithio o fewn tîm ysgogol a brwdfrydig sy’n blaenoriaethu darparu gwasanaeth adferiad arbenigol strôc a niwroleg i gleifion mewnol. Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Therapyddion Galwedigaethol Niwrolegol Arbenigol Clinigol. Bydd hefyd cyfleoedd i ymgysylltu o fewn rhwydwaith o ffisiotherapyddion arbenigol ym maes strôc a niwro ledled Powys. Bydd yr ymgeisydd yn rhan o dîm amlddisgyblaethol sy’n arbenigo yn niwro ledled Powys, gan gynnwys Therapydd Ymgynghorol ar gyfer Strôc a Niwroadsefydlu, sy'n gyfrifol am nodi, datblygu a chyflawni gwelliannau parhaus i wasanaethau yn y Cynlluniau Cyflawni ar gyfer Strôc a Chyflyrau niwrolegol.
Bydd angen arnoch sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, dull gweithio hyblyg a sgiliau trafod er mwyn ysgogi cleifion a staff i ddarparu ansawdd uchel o ofal.
Byddwch yn gweithio’n agos fel rhan o Dîm Amlddisgyblaethol o fewn BIAP a Gwasanaethau cymdeithasol, ar y ward rithwir ac yn cefnogi integreiddio.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn darparu Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol arbenigol o fewn ardal ddynodedig ar gyfer Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, sy'n gyfrifol am:
Rheoli llwyth achosion o gleientiaid ag anghenion cymhleth, gan ddefnyddio egwyddorion sy'n seiliedig ar dystiolaeth/sy'n canolbwyntio ar y cleient i asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso ymyriadau.
Darparu arweinyddiaeth ar gyfer staff iau trwy oruchwylio ac arfarnu.
Cymryd rhan yn y gwaith o gynllunio, datblygu a gwerthuso gwasanaethau Therapi Galwedigaethol o fewn maes/tîm dynodedig, gan ddal cyfrifoldeb am brosiectau diffiniedig.
Cyfrannu at gynnal a datblygu Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Goruchwylio myfyrwyr Therapi Galwedigaethol ar leoliadau ymarfer yn rheolaidd.
Dirprwyo ar gyfer Arweinydd Tîm pan fo angen.
Gweithio'n hyblyg ar draws yr ardal leol a chymryd rhan yn y rota 7 diwrnod i ddiwallu anghenion y gwasanaeth
Cyflenwi mewn meysydd/arbenigeddau eraill fel y bo'n briodol ac o fewn cymwyseddau.
Darparu gwasanaeth hyblyg mewn lleoliadau sydd fwyaf priodol i anghenion y claf, e.e. cartref, ysgol, ysbyty cymunedol neu ganolfan hamdden
Dyrannu gwaith i gefnogi staff, gan fonitro eu sgiliau a'u cymwyseddau bob amser.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualifications and knowledge
Meini prawf hanfodol
- Diploma or degree in OT
- HCPC registered
- Evidence of significant post graduate training e.g. range of short courses, in-house training
- Documented evidence of Continuing Professional Development
- Up to date knowledge of legislation
- Specialist knowledge and application of Occupational Therapy assessments and interventions relevant to client group
- Detailed knowledge of the principals of clinical governance and its application
Meini prawf dymunol
- Effective teaching and presentation skills
- Knowledge of OT models of practice
Experience
Meini prawf hanfodol
- Clinical fieldwork educator
- Supervision of junior staff
- Evidence of commitment to multi-disciplinary working
- Awareness of current practice issues
- Ability to work autonomously and set own priorities
Meini prawf dymunol
- Experience working within a community setting
Aptitude & Abilities
Meini prawf hanfodol
- Understanding of OT Outcome Measures
- Computer literacy
- To be well organised and able to keep to deadlines / timescales
- Good communication skills both written and verbal
- Able to use initiative to solve problems
- Commitment to lifelong learning
Meini prawf dymunol
- Welsh speaker
Other
Meini prawf hanfodol
- Ability to travel throughout Powys is essential
- Participate within the 7-day rota to meet the service needs
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Julia Augood
- Teitl y swydd
- Clinical Specialist Occupational Therapist - Neuro
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01874 615724
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Jo Williams
Senior Therapist Rehabilitation and Recovery
07815490938
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector