Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Ysgrifennydd Meddygol - Banc
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle newydd cyffrous wedi codi i ddarparu cefnogaeth ysgrifenyddol meddygol bank i’n Tîm CMATS, yn Glyndŵr, Wrecsam ac ir Ffisioterapydd scop estynedig.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd prif ddyletswyddau’r rôl yn cynnwys teipio / fformatio llythyrau clinig ac adroddiadau o ddeunyddiau sy’n cael eu harddweud, yn brydlon ac yn effeithiol gan sicrhau cywirdeb.
Mae'r gallu siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd prif ddyletswyddau’r rôl yn cynnwys teipio / fformatio llythyrau clinig ac adroddiadau o ddeunyddiau sy’n cael eu harddweud, yn brydlon ac yn effeithiol gan sicrhau cywirdeb.
O ystyried natur y dyletswyddau, bydd angen i ddeilydd y swydd gadw cyfrinachedd llym a bydd gofyn iddo ddelio â chleifion / gofalwyr / perthnasau, staff PBC a sefydliadau allanol gyda pharch a disgresiwn. Bydd gofyn iddo weithio ar ei liwt ei hun, yn effeithiol ac yn drefnus iawn.
Mae’n hanfodol fod gan yr ymgeiswyr sgiliau bysellfwrdd uwch a chymwysterau clyw deipio/prosesu geiriau, gyda gwybodaeth waith am becynnau Microsoft Office. Dylai ymgeiswyr hefyd feddu ar safon addysg dda, sgiliau cyfathrebu rhagorol a gwybodaeth dda o dermau meddygol.
Bydd gofyn hefyd i ddeilydd y swydd fod yn rhan o’r tîm gweinyddol ehangach a chynorthwyo gyda’r cefnogaeth weinyddol cyffredol i’r gwasanaeth Dieteteg fel bo angen.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Addysg gyffredinol dda
- Cymhwyster teipio neu brofiad perthnasol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster Med Sec
- ECDL neu gyfwerth
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ysgrifennydd meddygol
- Terminoleg feddygol
- Wedi arfer delio ag aelodau o'r cyhoedd
- Teipio sain
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn lleoliad gofal iechyd
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau bysellfwrdd/prosesu geiriau
- Trefnus
- Chwaraewr tim
- Hyderus gyda TG
Meini prawf dymunol
- siaradwr Cymraeg
- Profiad gyda systemau electronig fel Oracle WPAS ac ati neu debyg
Arall
Meini prawf hanfodol
- 1 neu lai o wallau sillafu
- 1 neu lai o wallau gramadegol
- Gwybodaeth a phrofiad perthnasol cyffredinol
- Ymddangos yn ffit dda ar gyfer y rôl
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Rebecca Roberts
- Teitl y swydd
- Administration Manager, Physiotherapy EAST
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07724288741
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector