Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Rheolwr Gwasanaeth Clinigol
Gradd 8a
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Ydych chi'n Weithiwr Proffesiynol Cofrestredig uchelgeisiol? A hoffech chi lywio a llunio dyfodol ein huned cleifion mewnol CAMHS (Haen 4) a'n gwasanaethau arbenigol yn y rhanbarth?
Os felly, cysylltwch â ni!
Dyma gyfle gwych i ddatblygu ar gyfer unigolyn sy'n weithiwr proffesiynol cofrestredig sydd â phrofiad llwyddiannus o arwain a rheoli ym maes gwasanaethau iechyd meddwl. Oherwydd eich awydd i gyflawni gofal heb ei ail i gleifion yn ogystal â'ch profiad, byddwch yn gaffaeliad amhrisiadwy i'n tîm.
Bydd y rôl hon yn cynnig amgylchedd heriol ond gwerth chweil i chi, a byddwch yn cyfrannu at ein rhaglen o waith gwella a thrawsnewid.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys cydlynu a chyflawni gofal clinigol beunyddiol a sicrhau safonau rhagorol o ran y gofal hwnnw, cynnig cymorth i'n gwasanaeth cleifion mewnol ehangach ac i wasanaethau arbenigol eraill yn y rhanbarth (yn cynnwys gofal heb ei drefnu), a chynnig arweiniad clinigol cryf i'n tîm.
Byddwch hefyd yn cynnal perthnasoedd adeiladol â gwasanaethau cymunedol NWAS a CAMHS.
Mae NWAS yn cyfranogi yn rhaglen achredu QNIC Coleg Brenhinol Seiciatreg, a nodwyd yn yr adroddiad yn sgil yr adolygiad diweddaraf mai ‘Un o brif gryfderau tîm NWAS yw ysbrydol calonogol y staff a'r berthynas waith dda’.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadu gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- • Nyrs Gofrestredig NMC neu broffesiwn clinigol priodol arall gyda chymwysterau sy'n briodol i'r maes gwasanaeth a reolir
- • Datblygiad proffesiynol a rheoli parhaus
- • Gradd MSc berthnasol neu gwybodaeth sy'n cyfateb i lefel meistr mewn rheoli neu’n barod i weithio tuag at.
Meini prawf dymunol
- • Tystiolaeth o fentora
- • Asesu a/neu ddysgu
- • Cymhwyster rheoli
- • Mesur Iechyd Meddwl.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- • Sylweddol o brofiad rheoli ar Fand 7 neu uwch
- • Profiad clinigol perthnasol
- • Amddiffyn / Diogelu Plant
- • Datblygu gwasanaeth a/neu bolisi
Meini prawf dymunol
- • Sgiliau TG - ECDL neu gyfatebol
- • Sgiliau cyflwyno
SGILIAU
Meini prawf hanfodol
- • Arweinyddiaeth
- • Gallu blaenoriaethu gwaith i amserlenni tynn
- • Gallu meddwl yn strategol
- • Cyfathrebu effeithiol ar bob lefel a chydag asiantaethau eraill a'r cyhoedd
- • Sgiliau rhyngbersonol datblygedig
- • Gallu cyfathrebu drwy wahanol gyfryngau
- • Rheoli amser
- • Datrys problemau a dadansoddi data
- • Gwaith tîm
- • Sgiliau TG - ECDL neu gyfatebol
Meini prawf dymunol
- • Sgiliau cyflwyno
GWYBODAETH
Meini prawf hanfodol
- • Yn gyfarwydd â Llywodraethu Clinigol /Rheoli Risg/ diogelwch cleifion
- • Yn gyfredol yn glinigol
- • Rheoli newid
- • Amddiffyn / Diogelu Plant
Meini prawf dymunol
- • Polisïau adnoddau dynol
- • Tystiolaeth o wybodaeth a defnydd o gydsynio, gwarchod data, cyfrinachedd claf a materion Iechyd a Diogelwch.
- • Cymryd rhan mewn arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth trwy fod yn rhan o archwilio/ymchwilio a datblygiad o fewn maes arfer
- • Mesur Iechyd Meddwl
RHINWEDDAU PERSONOL (Amlwg)
Meini prawf hanfodol
- • Bod yn aelod tîm clodwiw i'r Bwrdd Iechyd
- • Gweithredu fel patrwm cadarnhaol trwy ddylanwadu a rhannu sgiliau a gwybodaeth
- • Arloesedd
- • Gwytnwch
- • Yn gredadwy yn glinigol ac yn rheolaethol
- • Gonestrwydd
GOFYNION PERTHNASOL ERAILL (Nodwch)
Meini prawf hanfodol
- Wedi ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus
Meini prawf dymunol
- Siarad Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Cindy Courtney
- Teitl y swydd
- Head of Nursing CAMHS Regional&Specialist Services
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07811 031 839
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector