Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- CAMHS
- Gradd
- Gradd 8c
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-PST037-0325
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Gwasanaeth Pobl Ifanc Gogledd Cymru
- Tref
- Abergele
- Cyflog
- £75,405 - £86,885 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 20/04/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Seicolegydd Ymgynghorol Clinigol
Gradd 8c
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Ydych chi'n Seicolegydd Clinigol profiadol sy'n dymuno ymgymryd â rôl arweiniol lle gallwch chi siapio gwasanaethau arbenigol ym maes iechyd meddwl pobl ifanc a dylanwadu arnynt? Mae hwn yn gyfle prin i arwain y ddarpariaeth ymyrraeth seicolegol ar gyfer Gwasanaeth Pobl Ifanc Gogledd Cymru (NWAS). Fel y Seicolegydd Clinigol Arweiniol, byddwch yn arwain tîm o seicolegwyr a therapyddion tra'n bod yn rhan o'r tîm amlddisgyblaethol Uwch Arweinyddiaeth Glinigol, gan weithio ochr yn ochr â Meddygon Ymgynghorol ym maes Nyrsio a Seiciatreg. Mae'r rôl hon yn cynnig y cyfle i arwain datblygiad gwasanaeth, dylanwadu ar benderfyniadau ar achosion cymhleth, a gweithio'n agos gyda thimau amlddisgyblaethol i wella gofal i bobl ifanc 12-18 oed ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Powys.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cyfrifoldeb arweiniol am benderfyniadau clinigol sy'n gofyn am ddadansoddi, dehongli a chymharu opsiynau
Darparu gwasanaeth seicoleg glinigol arbenigol iawn i gleientiaid
Gweithio'n annibynnol yn unol â Chod Ymddygiad, Egwyddorion a Chanllawiau Moesegol 2004 y BPS, a HCPC
Cyfrifoldeb dirprwyedig, mewn ymgynghoriad â Phennaeth Seicoleg Plant, dros arweinyddiaeth broffesiynol, cynllunio, darparu ac adolygu Gwasanaethau Seicoleg Clinigol Plant BIPBC
Cyfrifoldeb am arweinyddiaeth broffesiynol a rheolaeth staff seicoleg
Bod yn atebol am weithredoedd a phenderfyniadau proffesiynol eich hun
Mewn cydweithrediad â’r Pennaeth Seicoleg Plant, dyfeisio, datblygu, dehongli a gweithredu polisïau a datblygiadau gwasanaeth penodol, datblygu darpariaeth therapi seicolegol a sicrhau bod prosesau llywodraethiant clinigol yn cael eu gweithredu
Cynnal llwyth achosion clinigol arbenigol iawn o gleientiaid ag anghenion cymhleth
Darparu goruchwyliaeth glinigol i gydweithwyr amlddisgyblaethol
Darparu cyngor ac ymgynghoriaeth arbenigol iawn ar faterion Seicoleg Plant
Sicrhau darpariaeth lleoliadau clinigol plant ar gyfer hyfforddeion doethurol Rhaglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru (NWCPP) a darparu lleoliadau dan oruchwyliaeth
Darparu addysgu a hyfforddiant ar gyfer staff amlddisgyblaethol BIPBC ac ar gyfer NWCPP
Defnyddio sgiliau ymchwil tra arbenigol ar gyfer archwilio, polisi, datblygu gwasanaethau ac ymchwil
Cyfrifoldeb ar y cyd â Phennaeth Seicoleg Plant, am recriwtio seicolegwyr clinigol
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd Anrhydedd dda mewn Seicoleg.
- Cymhwyster ar gyfer statws Siartredig BPS.
- Doethuriaeth ôl-raddedig mewn Seicoleg Glinigol (neu gywerth ar gyfer y rhai a dderbyniodd hyfforddiant cyn 1996) fel a achredir gan y BPS.
- Wedi cofrestru â Chyngor Gweithwyr Proffesiynol Iechyd a Gofal fel Seicolegydd Clinigol
- Hyfforddiant goruchwylio clinigol ar gyfer goruchwylio hyfforddeion Doethuriaeth.
- Wedi mynychu rhaglenni hyfforddi rheoli ac arweinyddiaeth iechyd ffurfiol.
- Mynd ar gwrs ôl-raddedig a addysgir neu ddilyn astudio hunangyfeiriedig dan oruchwyliaeth mewn maes arbenigol.
- Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus fel yr argymhellir gan y BPS a HCPC.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad wedi'i asesu o weithio'n effeithiol fel seicolegydd clinigol cymwys ac uwch yn yr arbenigedd dynodedig, neu sgiliau trosglwyddadwy perthnasol.
- Dangos hyfforddiant / profiad arbenigol pellach drwy fod wedi cael goruchwyliaeth glinigol eang ac amlwg o weithio fel Seicolegydd Clinigol arbenigol neu ddewis arall a gytunwyd gan y Cyfarwyddwr Seicoleg.
- Profiad o driniaeth ac asesiad seicolegol arbenigol yn achos amrywiaeth o gleientiaid ar draws ystod eang o leoliadau gofal.
- Profiad o weithio gyda grwpiau o gleientiaid ar draws ystod gynyddol o ddifrifoldeb clinigol.
- Profiad o ymarfer cyfrifoldeb clinigol am ofal seicolegol cleientiaid, ynghyd â phrofiad o gydlynu gofal o fewn cyd-destun cynllunio gofal amlddisgyblaethol.
- Profiad o ddarparu dysgu, hyfforddiant a/neu oruchwyliaeth broffesiynol a chlinigol.
Addasrwydd a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i gydweithio gydag ystod eang o gydweithwyr amlddisgyblaethol a lleoliadau gwahanol.
- Sgiliau datblygedig o ddarparu ymgynghoriadau i grwpiau proffesiynol a heb fod yn broffesiynol eraill
- Gallu paratoi deunydd academaidd a chlinigol a'u cyflwyno ar gyfer diben darlithio/hyfforddiant, gan gynnwys defnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau amlgyfrwng cymhleth.
- Gallu cynllunio a threfnu ystod eang o weithgareddau neu raglenni cymhleth clinigol neu’n gysylltiedig â’r gwasanaeth, gallai rhai ohonynt fod yn rhai hirdymor.
- Y gallu i ffurfio a gweithredu polisïau a datblygiadau gwasanaeth strategol hirdymor i gael effaith y tu hwnt i faes gweithgarwch Gwasanaeth Seicoleg Plant.
- Y gallu i reoli Seicolegwyr Clinigol, Seicolegwyr Cynorthwyol a darparu arweinyddiaeth o fewn Gwasanaeth Seicoleg Glinigol Plant.
- Sgiliau datblygedig iawn mewn goruchwyliaeth staff eraill, gan gynnwys seicolegwyr clinigol dan hyfforddiant a Seicolegwyr Clinigol Cymwys.
- Gallu dangos sgiliau arwain a rheoli.
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Gallu dangos ystod o rinweddau sy'n hanfodol i'r swydd, e.e tosturi, cymhwysedd, cyfathrebu, dewrder ac ymrwymiad.
- Gallu gweithio yn unol a gwerthoedd craidd y sefydliad.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dr Kate Dickson
- Teitl y swydd
- Head of Child Psychology – Central IHC
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07977708674
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector