Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR217-0325
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- NWAS - Ysbyty Abergele
- Tref
- Abergele
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 10/04/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Uwch Nyrs Staff
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Ward Kestrel Ward, Gwasanaeth Pobl Ifanc Gogledd Cymru.
Rydym yn falch o allu cynnig cyfle i Nyrs profiadol a llawn cymhelliant sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol ac angerdd dros ddarparu gofal o ansawdd uchel wneud cais am y rôl Uwch Nyrs Band 6 ar Ward Kestrel, Gwasanaeth Pobl Ifanc Gogledd Cymru, yn Abergele, Gogledd Cymru.
Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd CAMHS cleifion mewnol Haen 4, gyda phobl ifanc rhwng 12 – 17 oed a bydd arnoch angen ymagwedd hyblyg a’r gallu i addasu eich sgiliau a’ch rhinweddau fel eu bod yn addas ar gyfer ystod o anghenion a phroblemau iechyd meddwl.
Fel Uwch Nyrs, byddwch yn gweithredu fel rheolwr achos ar gyfer grŵp bach o bobl ifanc ac yn gweithio’n agos gyda’r MDT ehangach i gynllunio’r gofal sy’n cael ei ddarparu ar y ward, ei ddarparu a’i adolygu. Yn ogystal, byddwch yn cyfrannu at drefn a chefnogaeth o ddydd i ddydd ar gyfer pobl ifanc ar y ward ac yn y pendraw yn cefnogi i’w rhyddhau yn ôl i’r gymuned.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Fel Uwch aelod o’r tîm nyrsio, bydd gofyn i chi gyfrannu at ddatblygiad cydweithwyr iau, myfyrwyr a’r gwasanaeth ehangach.
Anogir unigolion nad oes ganddynt brofiad uniongyrchol gyda CAMHS cleifion mewnol ond sy’n gallu dangos profiad sylweddol mewn meysydd o drosglwyddo o iechyd meddwl neu CAMHS i wneud cais am y swydd.
Rydych yn gwneud cais am swydd sydd gyfwerth â swydd llawn amser. Mae Ward Kestrel yn darparu gwasanaeth 24/7 a bydd angen i chi fod yn hyblyg er mwyn bodloni ystod o batrymau sifft gofynnol, gan gynnwys sifftiau nos.
**Nodyn ychwanegol ar gyfer Uwch Nyrs Staff dan Hyfforddiant (Atodiad 21)- Ymgymryd â rhaglen ddatblygu gyflymach dros 9-18 mis yn dibynnu ar y cymwyseddau sydd eu hangen i fodloni rôl Band 6. Bydd y rôl yn cynnwys yr ystafell ddosbarth a dysgu mewn ymarfer clinigol i wella'r sgiliau presennol. Bydd y rôl yn cwmpasu cymysgedd o waith clinigol annibynnol sy'n cyd-fynd â'r cymwyseddau presennol ochr yn ochr â datblygu sgiliau newydd a ddangoswyd ac a arsylwyd.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Rhaid bod yn nyrs iechyd meddwl gofrestredig lefel un, nyrs bediatrig neu'n nyrs gofrestredig anableddau dysgu
- Cymhwyster ôl-gofrestru mewn Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster dysgu ac asesu
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd iechyd meddwl cleifion mewnol.
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus yn ymwneud â Nyrsio Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o weithio mewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl Glasoed (ee gwasanaethau cymunedol)
Tueddfrydau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i greu perthnasau therapiwtig effeithiol gyda phobl ifanc (cleifion)
- Dealltwriaeth glir o brosesau nyrsio a Mesurau Iechyd Meddwl a sut maen nhw'n gysylltiedig â phlant a phobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl
- Gallu cyfathrebu â chydweithwyr y tîm amlddisgyblaethol a staff proffesiynol eraill ar lafar ac ysgrifenedig
- Y gallu i fod yn gadarn a bod yn arweinydd mewn timau
- Gwybodaeth gadarn ynghylch datblygiad plant a'r ffactorau a all gyfrannu at anawsterau iechyd meddwl mewn plant a phobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl
- Profiad o werthuso ac archwilio gwasanaeth a gwybodaeth dda am gydrannau llywodraeth glinigol
- Gwybodaeth gadarn o faterion sy'n effeithio ar nyrsio pobl ifanc gyda phroblemau iechyd meddwl
- Y gallu i asesu problemau iechyd meddwl. Bydd angen gallu defnyddio gwybodaeth a gasglwyd o amrywiol ffynonellau i ddarparu fformwleiddiad iechyd meddwl ar gyfer hyn.
- Y gallu i asesu a rheoli risg, yn enwedig y gallu i nodi ffactorau risg sy'n ymwneud â phroblemau iechyd meddwl ymysg pobl ifanc a gweithredu strategaethau rheoli risg priodol.
- Sgiliau gwaith grŵp
- Y gallu i ddarparu ac ymgysylltu'n effeithiol mewn goruchwyliaeth glinigol
- Y gallu i weithio ar y cyd gydag asiantaethau a disgyblaethau eraill
- Y gallu i gymryd rhan mewn hyfforddiant technegau dal gwrth-anghymhellol, gangynnwys hyfforddiant ymyriad corfforol rhwystrol
- Y gallu i barhau'n ddigynnwrf wrth reoli sefyllfaoedd heriol personol
- Gwybodaeth am waith tîm a dynameg tîm a'r gallu i weithio mewn timau ac mewn sefyllfaoedd amlddisgyblaethol
- Gallu myfyrio'n dda a dealltwriaeth o'i bwysigrwydd mewn cyddestun gwaith rhyngbersonol
- Y gallu i drefnu a chynllunio gweithgareddau i'r tîm nyrsio
- Y gallu i weithio'n hyblyg ac i addasu ymagwedd glinigol i anghenion y cleientiaid, gweithio mewn partneriaeth â chleientiaid a rhieni/gofalwyr
- Lefel dda sy'n datblygu o hunanymwybyddiaeth a sut mae profiadau eich hunan yn gallu effeithio ar eich agweddau a rhyngweithiad. Hunan-ymwybyddiaeth sy'n cynnwys rhinweddau a gwerthoedd sydd o fudd i'r swyddogaeth e.e. gofal, cydymdeimlad, gwroldeb ac ymroddiad.
- Bod â'r dymuniad i ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol
- Gallu ymarfer ffiniau proffesiynol priodol
- Gallu adnabod ffiniau sgiliau a galluoedd personol
- Meddu ar strategaethau priodol i ymdopi â straen
- Cefnogi cydweithwyr eraill
- Gallu gweithio gyda disgyblaethau eraill
- Bod â'r dymuniad i weithio gyda'r grŵp cleientiaid hwn mewn tîm
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad Cymraeg
Arall
Meini prawf hanfodol
- Gallu teithio o fewn ardal ddaearyddol.
- Gallu gweithio oriau hyblyg.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Robert Clarke
- Teitl y swydd
- Interim Clinical Service
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 850056
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector