Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- CAMHS
- Gradd
- Gradd 8a
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-PST028-0325-B
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Gwasanaeth Pobl Ifanc Gogledd Cymru
- Tref
- Abergele
- Cyflog
- £54,550 - £61,412 Per annum
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 14/04/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Seicotherapydd Teulu a Systemig
Gradd 8a
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae Gwasanaeth Cleifion Mewnol Iechyd Meddwl Arbenigol Plant a Phobl Ifanc (Haen 4 CAMHS), ar gyfer Gogledd Cymru yn darparu gwasanaethau asesu a therapiwtig i blant a phobl ifanc rhwng 12 a 18 oed, eu teuluoedd a'u gofalwyr.
Mae’r swydd hon yn gyfle cyffrous i Seicotherapydd Teulu a Systemig Arbenigol Iawn i ymuno â’n tîm amlddisgyblaethol ar gyfer gwasanaethu cleifion mewnol Haen 4 CAMHS.
Bydd deilydd y swydd yn gweithio’n agos gyda’r Nyrs Ymgynghorol / Seicotherapydd Teulu a Systemig ac Arweinydd ar gyfer Seicotherapi Teulu a Systemig Gogledd Cymru. Yn ogystal, bydd cefnogaeth ar gael gan Seicotherapyddion Teulu a Systemig Arbenigol Iawn eraill ar draws Gogledd Cymru.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydym yn croesawu ceisiadau’n arbennig gan unigolion sydd â hyfforddiant a phrofiad ychwanegol mewn modelau therapiwtig eraill sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Disgwylir y bydd deilydd y swydd yn dod â phrofiad o weithio ar draws systemau ac asiantaethau partner eraill.
Bydd pob ymgeisydd wedi ymrwymo at waith amlddisgyblaethol ac aml-asiantaeth effeithiol ac yn dangos y gallu i gydweithio ag eraill. Rydym yn awyddus i ganfod ymgeiswyr hyblyg iawn sydd â dull ymarferol o ran gweithio mewn Uned Cleifion Mewnol Plant a Phobl Ifanc.
Bydd penodiad yn amodol ar eirdaon boddhaol, gwiriadau cyflogaeth a DBS manylach.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Os hoffech sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch gyda naill ai:
Stacey Wagstaff, Nyrs Ymgynghorol / Seicotherapydd Teulu Systemig trwy e-bostio [email protected]
Rob Clarke, Rheolwr Gwasanaethua Clinigol, NWAS try e-bostio: [email protected]
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i eisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd berthnasol
- Cymhwyster Therapi Teulu ôl-radd cydnabyddedig neu gywerth ar lefel Meistr neu gymhwyster academaidd uwch
- Cymhwyster proffesiynol mewn proffesiwn perthnasol a reolir sy'n gymwys dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 e.e. nyrsio, gwaith cymdeithasol, seicoleg clinigol
- Cofrestriad UKCP fel seicotherapydd teulu/systemig
- Gwybodaeth ddatblygedig iawn o ddamcaniaethau systemig ac arferion
- Gwybodaeth am gynllunio ymchwil a methodoleg fel yr ymarferir o fewn maes therapi teulu
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth a’i oblygiadau mewn arferion clinigol a rheoli proffesiynol o ran y grŵp cleient hwn h.y. plant
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol a'i goblygiadau o ran ymarfer clinigol a rheolaeth broffesiynol.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster academaidd perthnasol ychwanegol a/neu gymhwyster therapiwtig achrededig.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio fel seicotherapydd teulu/systemig cofrestredig arwyddocaol a aseswyd
- Profiad o weithredu ymyriadau teulu yn seiliedig ar dystiolaeth
- Profiad arwyddocaol a asesir mewn proffesiwn perthnasol a reolir e.e. nyrsio, gwaith cymdeithasol neu seicoleg clinigol
- Profiad o gymryd cyfrifoldeb clinigol llawn am ofal seicolegol cleientiaid, ynghyd â phrofiad o gydlynu gofal o fewn cyd-destun cynllunio gofal amlddisgyblaethol
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc
- Profiad uniongyrchol o Gydlynu Gofal dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010
- Profiad o ddysgu a hyfforddi a/neu oruchwylio
Sgiliau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau datblygedig iawn mewn arferion systemig
- Y gallu i ddatblygu, rheoli a chydlynu cyfweld therapi teulu/systemig
- Y gallu i ddatblygu, rheoli a chydlynu pecynnau hyfforddiant (staff a chleientiaid)
- Y gallu i ddatblygu, rheoli, cydlynu a darparu ymgynghoriad i broffesiynolion eraill
- Y gallu i weithio o fewn fframwaith yn seiliedig ar dystiolaeth
- Y gallu i ymatal a gweithio gyda straen sefydliadol a'r gallu i 'gynnal' straen eraill
- Y gallu i weithio gyda deunyddiau clinigol trallodus iawn a helpu eraill i reoli hyn
- Y gallu i weithio mewn cyd-destun cymhleth iawn a newid parhaus
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg.
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Ymagwedd hyblyg at waith ac anghenion gwasanaeth amlddisgyblaethol
Meini prawf dymunol
- 1. Ymwybodol a'r gallu i arddangos datganiadau gwerthoedd ac ymddygiad y Bwrdd Iechyd
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i ymgymryd ag ystod lawn dyletswyddau'r swydd
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd dynodedig o fewn ardal y gwaith mewn modd amserol
- Y gallu weithio at safonau a chanllawiau proffesiynol
- 4. Y gallu i dderbyn arweiniad gan egwyddorion polisïau a rheoliadau
Meini prawf dymunol
- Gallu gweithio oriau hyblyg
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Stacey Wagstaff
- Teitl y swydd
- Consultant Nurse
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 850056
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Robert Clarke
Rheolwr Gwasanaeth Clinigol Dros Dro
NWAS
03000 850056
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector