Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Seicoleg Glinigol
Gradd
Gradd 8b
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-PST150-0924
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Gwasanaeth Pobl Ifanc Gogledd Cymru
Tref
Abergele
Cyflog
£59,857 - £69,553 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
11/12/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Prif Seicolegydd Clinigol

Gradd 8b

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol. 

Trosolwg o'r swydd

 

Mae’n bleser gennym wahodd ymgeiswyr i rôl newydd sef Prif Seicolegydd Clinigol. Bydd deilydd y swydd yn darparu asesiadau seicolegol uwch, fformwleiddiadau, ymyrraeth, arweinyddiaeth a goruchwyliaeth fel rhan o’r Tîm Seicoleg yng Ngwasanaeth Pobl Ifanc Gogledd Cymru (NWAS).

Mae NWAS yn darparu Cymorth Cymunedol Dwys a Gwasanaethau Arbenigol Anhwylderau Bwyta i unigolion ifanc 12 – 18 oed ar draws Gogledd Cymru yn ogystal ag ar y Ward Cleifion Mewnol ar gyfer Pobl Ifanc o Ogledd Cymru a Gogledd Powys. Bydd cyfleoedd i weithio ym mhob agwedd o'r gwasanaeth. 

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

 

Byddwch yn gweithio gydag aelodau tîm bywiog, amlddisgyblaethol a fydd yn cynnwys cyd-weithwyr meddygol, deietetig, nyrsio, gwaith cymdeithasol. Bydd rhan o'ch rôl yn cynnwys goruchwylio cydweithwyr Seicoleg mewn bandiau is. 

Byddwch yn cyfrannu at hyfforddiant tîm, at ddatblygu a gwerthuso gwasanaeth trwy ddulliau ymchwil ac archwilio ac yn cael eich annog i greu cysylltiadau â rhwydweithiau ehangach, yn enwedig gyda thimau CAMHS cymunedol, ar draws y rhanbarth.

 Byddem yn eich annog a'ch cefnogi i weithio areich datblygiad personol eich hun, megis gwaith ymchwil neu ennill mwy o gymhwysedd neu achrediad mewn model therapiwtig perthnasol.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau a/neu Wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd Anrhydedd dda mewn Seicoleg.
  • Yn gymwys i ennill statws siartredig Cymdeithas Seicolegol Prydain.
  • Doethuriaeth Ôl-raddedig mewn Seicoleg Glinigol (neu gymhwyster cyfatebol i'r rhai a gwblhaodd eu hyfforddiant cyn 1996) a achredir gan Gymdeithas Seicoleg Prydain.
  • Cofrestru fel Seicolegydd Clinigol gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.
  • Hyfforddiant goruchwyliaeth glinigol ar gyfer goruchwylio hyfforddeion Doethurol.
  • Gwybodaeth arbenigol ddatblygedig ar lefel ddoethurol am theori ac ymarfer seicoleg glinigol, therapïau seicolegol a'u defnydd, prosesau asesu a dehongli niwroseicolegol a seicometrig.
  • Gwybodaeth ar lefel ddoethurol am gynllunio ymchwil a methodoleg ymchwil, gan gynnwys dadansoddi data amlamryweb cymhleth, fel y'i harferir ym maes seicoleg glinigol.
  • Gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol a'i goblygiadau o ran ymarfer clinigol a rheolaeth broffesiynol.
  • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus fel yr argymhellir gan BPS a HCPC.
Meini prawf dymunol
  • Hyfforddiant ôl-ddoethurol mewn un maes ymarfer seicolegol ychwanegol neu fwy.
  • Gwybodaeth ddatblygedig am theori ac ymarfer therapïau seicolegol arbenigol mewn grwpiau penodol anodd eu trin (e.e. anhwylder personoliaeth, diagnosisau deuol, pobl gydag anableddau ychwanegol ac ati).
  • Gwybodaeth am theori ac ymarfer therapïau seicolegol arbenigol iawn a methodolegau asesu.
  • Cymhwyster cydnabyddedig mewn goruchwyliaeth.
  • Cyhoeddiadau mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid neu gyfnodolion academaidd neu broffesiynol a/neu lyfrau.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad wedi'i asesu sylweddol o weithio fel uwch-seicolegydd clinigol cymwys, sy'n cynnwys fel rheol, brofiad ôl-gymhwyster sylweddol yn yr arbenigedd dynodedig lle mae'r swydd wedi'i lleoli neu sgiliau trosglwyddadwy perthnasol.
  • Profiad wedi'i asesu o weithio'n effeithiol fel seicolegydd clinigol cymwys a lefel uwch yn yr arbenigedd dynodedig, neu sgiliau trosglwyddadwy perthnasol. Dangos hyfforddiant/profiad arbenigol pellach yn dilyn goruchwyliaeth glinigol helaeth ac amlwg o weithio fel Seicolegydd Clinigol arbenigol neu ddewis arall fel y cytunwyd gan y Cyfarwyddwr Seicoleg.
  • Profiad o asesu a rhoi triniaeth seicolegol arbenigol i ystod o gleientiaid mewn ystod eang o leoliadau gofal.
  • Profiad o weithio gyda grwpiau o gleientiaid ar draws ystod gynyddol o ddifrifoldeb clinigol.
  • Profiad o ymarfer cyfrifoldeb clinigol llawn ar gyfer gofal seicolegol cleientiaid, gyda phrofiad o gydlynu gofal yng nghyd-destun cynllunio gofal amlddisgyblaethol.
  • Profiad o addysgu, hyfforddi a/neu oruchwyliaeth broffesiynol a chlinigol.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o gymhwyso seicoleg glinigol mewn cyd-destunau diwylliannol gwahanol.
  • Profiad o gynrychioli seicoleg yng nghyd-destun gofal amlddisgyblaethol.
  • Profiad o reoli seicolegwyr clinigol cymwys a staff eraill yn broffesiynol.

Sgiliau a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i ddangos lefel uchel o gymhwysedd i weithio o fewn yr arbenigedd dynodedig.
  • Sgiliau datblygedig wrth oruchwylio staff eraill, gan gynnwys Seicolegwyr Clinigol Dan Hyfforddiant.
  • Sgiliau datblygedig wrth gyfleu gwybodaeth gymhleth iawn, hynod dechnegol a chlinigol sensitif yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, i gleientiaid, eu teuluoedd, gofalwyr a chydweithwyr proffesiynol eraill o fewn y GIG a'r tu allan iddo.
  • Sgiliau datblygedig wrth ymgynghori â grwpiau proffesiynol ac amhroffesiynol eraill.
  • Yn gallu cynnal proffesiynoldeb i raddau uchel ac ymarfer clinigol diogel yn wyneb amlygiad rheolaidd i ddeunydd emosiynol iawn ac ymddygiad heriol.
  • Y gallu i nodi a darparu dulliau cymorth priodol i staff dan oruchwyliaeth rheolwr llinell sy'n delio â sefyllfaoedd llawn trallod, ymddygiadau difrifol o heriol ac achoswyr straen eraill.
  • Y gallu i ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau amlgyfrwng cymhleth at ystod o ddibenion fel addysgu a hyfforddi.
  • Yn gallu rheoli llwyth gwaith effeithiol o wynebu gofynion cystadleuol.
  • Y gallu i gydweithio ag ystod eang o gydweithwyr amlddisgyblaethol.
  • Sgiliau TG sylfaenol.
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i siarad Cymraeg.
  • Y gallu i ddangos sgiliau arwain a rheoli.
  • Sgiliau TG uwch.

Gwerthoedd

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i arddangos amrywiaeth o rinweddau sy'n hanfodol i'r rôl, e.e. trugaredd, cymhwysedd, cyfathrebu, dewrder ac ymrwymiad.
  • Y gallu i weithio yn unol â'r gwerthoedd sefydliadol craidd.
  • Dangos ymrwymiad i weithio'n gyson yn unol â'n gwerthoedd sefydliadol a galluogi eraill o fewn y gweithlu i wneud hynny hefyd, fel y dangosir yn eich gwaith o ddydd i ddydd a thrwy drafodaethau'r Adolygiad o Berfformiad a Datblygiad (PADR).
  • Ymrwymiad i gynnal cyfrinachedd deunyddiau a gwybodaeth glinigol sensitif a thrafod gwybodaeth bersonol mewn ffordd sensitif, gyda disgresiwn.
  • Y gallu i arddangos ymddygiad proffesiynol o'r safon uchaf.

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio o fewn yr ardal ddaearyddol.
  • Agwedd hyblyg tuag at waith.
  • Cofnod presenoldeb da.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Robert Clarke
Teitl y swydd
Interim Clinical Service Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 850056
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg