Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Awdioleg
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
  • Rhan-amser
  • Gweithio hyblyg
28.5 awr yr wythnos (Tebygol i fod 3 diwrnod yr wythnos, 8 y.b - 6 y.h, gyda 30 munud i ginio.)
Cyfeirnod y swydd
050-HS025-0624
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Gwynedd
Tref
Bangor
Cyflog
£44,398 - £50,807 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
11/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Gwyddonydd Clinigol / Clywedegydd Uwch

Gradd 7

Trosolwg o'r swydd

Mae swydd barhaol wedi codi o fewn y Gwasanaeth Awdioleg i Awdiolegydd Arbenigol/Gwyddonydd Clinigol gradd 7 i gynorthwyo yn y darpariaeth o wasanaeth ansawdd uchel Awdioleg i boblogaeth Gogledd Cymru yn cael ei wasanaethu gan BCUHB. Bydd yr deiliad y swydd yn perfformio dyletswyddau o fewn gwasanaeth Awdioleg Oedolion fel nodir yn y swydd ddisgrifiad gyda sylw arbennig i asesiad cydbwysedd (vestibular) ac awdioleg diagnostig.  Bydd deiliad y swydd yn seiliedig yn Ysbyty Gwynedd. Bydd yr ymgeisydd llwyddianus yn dangos sgiliau a phrofiadau mewn asesiadau cydbwysedd.

Prif ddyletswyddau'r swydd

 Mae hwn yn gyfle delfrydol i ddatblygu sgiliau clinigol a datblygiad gwasanaeth ymhellach mewn amgylchedd cefnogol a blaengar.   Bydd cyfrifoldeb dros hyfforddi a goruchwylio staff clinigol eraill ble’n briodol.   Mae’r tîm Awdioleg yn cynnwys Gwyddonwyr Clinigol, Awdiolegyddion, Awdiolegyddion Cysylltiol a Chynorthwyol.  Mae’r tîm yn ymroddedig i ddatblygiad a chyflwyniad gwasanaethau o ansawdd uchel gyda’r claf yn ganolog. 

Mae’r gallu siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg i ymgeisio.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • MSc mewn Gwyddoniaeth Awdiolegol neu wybodaeth gyfatebol
  • Cymhwyster hyfforddiant o lMSc proffesiynol (arbenigol) neu gyfwerth (sy'n briodol ar gyfer cofrestru HCPC fel Gwyddonydd Clinigol)
  • Cofrestriad HCPC fel Gwyddonydd Clinigol (Awdioleg), cofrestriad RCCP fel Awdiolegydd, neu gofrestriad AHCS
Meini prawf dymunol
  • Aelod o grwp diddordeb arbennig priodol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad estynedig yn gweithio fel Awdiolegydd Arbenigol Clinigol (i gynnwys profiad yn ystod hyfforddiant STP)
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau arwain
  • Tystiolaeth o addysgu o fewn swydd

Tueddfryd a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Gallu perfformio ystod eang o driniaethau Awdiolegol ar lefel uwch
  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog ar lafar ac ysgrifenedig
  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog, yn cynnwys y gallu i brosesu a rhannu gwybodaeth gymhleth iawn mewn modd cyfrinachol
  • Cymryd rhan weithredol mewn gwaith ymchwil ac arferion ar sail tystiolaeth
  • Sgiliau gwaith tim gwych
  • Gallu perfformio asesiad cydbwysedd (vestibular) ac awdioleg diagnostig.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Heidi Turner
Teitl y swydd
Principal Clinical Scientist
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 850078
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Am drafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch a Heidi Turner os gwelwch yn dda.

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg