Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cardioleg
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i Ddydd Gwener)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC425-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Gwynedd
- Tref
- Bangor
- Cyflog
- £23,159 - £24,701 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 04/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Cydlynydd Archwilio Data
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am gasglu data cyflawn, cywir a dibynadwy yn brydlon i'r cronfeydd data perthnasol o fewn Meddygaeth. Yn gyfredol, mae'r cronfeydd data yn cynnwys MINAP a NICOR. Darparu rôl gydlynol ar gyfer Ardal y Gorllewin i sicrhau y cydymffurfir â chyflwyniadau cronfeydd data cenedlaethol a sicrhau bod ansawdd data'n cael ei ddilysu. Er mwyn cyfrannu at ddarparu gwasanaeth diogel ac effeithiol, bydd deilydd y swydd yn cydlynu canlyniadau a sicrhau bod cronfeydd data ac adroddiadau'n cael eu cwblhau'n gywir ac yn brydlon i fodloni amserlenni cenedlaethol. Bydd gofyn i ddeilydd y swydd weithio'n agos â staff clinigol uwch a ddynodwyd a chymryd rhan yn y cyfarfodydd perthnasol. Yn ogystal, bydd deilydd y swydd yn darparu gwasanaeth gweinyddol cywir, cyfrinachol a chefnogol i gleifion, timau clinigol, gofalwyr, ac asiantaethau mewnol ac allanol (e.e. Awdurdod Lleol, Trydydd Sector, CAIS) er mwyn: Darparu llwybr diogel ac effeithlon i gleifion a darparu gwybodaeth a chefnogaeth briodol i deuluoedd a gofalwyr
Bydd deilydd y swydd yn cefnogi darparu gwasanaeth ysgrifenyddol gweinyddol meddygol cynhwysfawr, o ansawdd uchel.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ac yn cyfrannu at Dîm Meddygol deinamig a phrysur. Byddant yn gyfrifol am gasglu data cyflawn, cywir a dibynadwy yn brydlon i'r cronfeydd data perthnasol o fewn Meddygaeth.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio'n agos gyda staff clinigol uwch a nodwyd a chymryd rhan mewn cyfarfodydd perthnasol. Yn ogystal, bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaeth gweinyddol cywir, cyfrinachol a chefnogol i gleifion, timau clinigol, gofalwyr ac asiantaethau mewnol ac allanol (e.e. Awdurdod Lleol, Trydydd Sector, CAIS) er mwyn: Darparu llwybr diogel ac effeithlon i gleifion a darparu gwybodaeth a chymorth priodol i deuluoedd a gofalwyr.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cyfartal i siaradwyr Saesneg a/neu Gymraeg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Dyletswyddau Cydlynu Data
- Cydlynu darparu data cyflawn, cywir a dibynadwy yn brydlon i'r cronfeydd data meddygol yn unol â thargedau cenedlaethol ac yn effeithiol.
- Cynnal cronfeydd data cywir ar gyfer meddygaeth sy'n cynnwys sicrhau eu bod yn addas i gefnogi gweithgareddau'r gwasanaeth.
- Olrhain a chael gafael ar nodiadau achos i gleifion sy'n cael eu cynnwys yn y cronfeydd data.
- Sicrhau bod data clinigol yn cael ei ddilysu'n brydlon ac yn gywir.
- Cefnogi a hyrwyddo casglu data o ansawdd da drwy gysylltu â staff clinigol ac anghlinigol.
- Gallu dynodi bylchau mewn cofnodion cleifion unigol a sicrhau bod yr holl ddata sydd ar goll yn cael ei olrhain a'i roi ar y gronfa ddata yn gywir.
- Anfon adroddiadau rheolaidd ymlaen at y timau ar gynnydd a chanlyniadau.
- Cysylltu â rhanddeiliaid perthnasol ynglŷn â chynnal a chadw a datblygu systemau ar gyfer casglu data yn unol â gofynion cenedlaethol a sefydliadol.
- Cydweithio â chydweithwyr ar safleoedd eraill i gynhyrchu adroddiadau rheolaidd i BIPBC ar berfformiad yn gysylltiedig â chronfeydd data amrywiol.
- Cysylltu â chydlynwyr data cenedlaethol i ateb ymholiadau a gwneud cywiriadau.
- Presenoldeb mewn cyfarfodydd.
- Gweithio fel rhan o'r timau gweinyddol. Byddai hyn yn cynnwys ateb y ffôn, delio'n briodol ag unrhyw faterion brys sy'n codi a darparu cefnogaeth weinyddol a theipio pan fo angen.
Dyletswyddau Archwilio
- Gweithio fel rhan o'r tîm i sicrhau bod y cynllun archwilio clinigol blynyddol yn cael ei ddarparu.
- Gweithio â thimau clinigol i hwyluso prosiectau archwilio.
- Gweithio â thimau clinigol i gwblhau data i'w gyflwyno mewn cyfarfodydd archwilio misol.
- Cymryd cofnodion mewn cyfarfodydd perthnasol.
- Helpu i adolygu a chrynhoi llenyddiaeth, cynllun cronfeydd data a chasglu a dadansoddi data ar gyfer prosiectau archwilio penodol pan fo angen. Gallai hyn gynnwys datblygu ffurflenni, templedi ac offer eraill.
- Cynhyrchu adroddiadau ar brosiectau archwilio cyflawn fel bo angen.
- Cynhyrchu adroddiadau ar gyfer ymholiadau ad hoc o ddata a gasglwyd ar y cronfeydd data.
- Casglu data ar gyfer adroddiadau archwilio rheolaidd e.e. canllawiau NICE.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- NVQ Gweinyddu Busnes L3 neu brofiad cyfatebol
- RSA /OCR lefel 2 neu brofiad cyfatebol (rhaid fod yn ddefnyddiwr hyfedr o Microsoft Word
- Cymhwyster yn ymwneud â TG CLAIT plus /ECDL neu gyfatebol
Meini prawf dymunol
- AMSPAR – City & Guilds L3
- NVQ L3 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth o ystod o weithdrefnau gweinyddu
- Profiad o weithio mewn swyddfa brysur
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio o fewn y GIG
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Cyfathrebu'n broffesiynol ac effeithiol â staff ar bob lefel, yn llafar ac yn ysgrifenedig
- Gallu defnyddio Microsoft Office
- Profiadol mewn cynllunio a blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun
- Hyblyg ac addasadwy i alwadau cyfnewidiol y gwasanaeth
- Sgiliau trefnu rhagorol
Meini prawf dymunol
- Sgiliau cymryd cofnodion
GWYBODAETH
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o ddatblygiad personol parhaus
- Gallu delio â gwybodaeth sensitif
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am sefydliadau'r GIG
- Termau Meddygol
Other
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio yn unol â'r gofynion rolau
Meini prawf dymunol
- Siarad Cymraeg
Personal Qualities
Meini prawf hanfodol
- Cyfrannu mewn tîm
- Agos atoch a chyfeillgar
- Dibynadwy
- Datblygu eich arferion eich hun drwy fyfyrio a dysgu
- Empathig
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Laura Iles
- Teitl y swydd
- Assistant Service Support Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 850836
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector