Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Plant a Phobl Ifanc
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol: Monday - Friday 9.00 am - 5.00 pm
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-NMR657-0624
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
INTEC, Parc Menai
Tref
Bangor
Cyflog
£35,922 - £43,257 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
11/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Ymarferydd Niwroddatblygiadol

Gradd 6

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Gwasanaeth i blant rhwng 0 – 18 yw’r Gwasanaeth Niwroddatblygiadol Plant sydd yn gweithio ar draws Awdurdodau Gwynedd a Môn.

Gwasanaeth gyda thîm proffesiynol, aml-ddysgyblaethol o wahanol gefndiroedd sydd yn cynig asesiad cynhwysfawr Niwroddatblygiadol, yr ydym hefyd yn cynnig cefnogaeth a meddyginiaeth i blant a phobol ifanc gyda diagnosis ADHD.

Dylai ymgeiswyr fôd yn ran o broffesiwn cofrestredig fel Nyrs, Gweithiwr Cymdeithasol, Seicolegydd Clinigol, Therapydd Galwedigaethol, Therapydd Iaith a Lleferydd, a bod gyda chofrestriad dilys gyda’r corff proffesiynol hwnnw.  Dylai ymgeiswyr ddangos profiad o weithio gyda plant a phobol ifanc gyda cyflwr Niwroddatblygiadol (ASD/ADHD) a phlant au Teuluoedd.

Bydd hyfforddiant a goruchwyliaeth yn cael eu ddarparu i wneud yn siwr bod yr ymgeisiwr llwyddiannus yn dod yn gyfarwydd gyda’n hoffer asesu a phrosesau bydd yn cael eu defnyddio o fewn y gwasanaeth.

Bydd y gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol i’r swydd hon ond bydd croeso i ymgeiswyr Cymraeg a Saesneg ymgeisio am y swydd, byddent yn cael eu trin yn gyfartal.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

I weithio o fewn gwasanaeth amlddysgyblaethol drwy gwblhau asesiadau niwroddatblygiadol i blant a phobol ifanc.  Cyfrannu yng nghyfarfodydd asesiadau mewnol ac er mwyn datblygu a gwella trosglwyddiad y gwasanaeth.

Darparu cefnogaeth, cyngor ac arweiniad i rieni a gwarcheidwyr plant a phobol ifanc gyda chyflwr Niwroddatblygiadol.

Darparu cefnogaeth glinigol a rheolaethol i  gydweithwyr iau.

Ymgymeriad o godi ymwybyddiaeth hyfforddiant gydag asiantaethau allanol, gwasanaethau mewnol a gweithiwyr proffesiynol fel bod angen.

 

Gweithio i'n sefydliad

Gweithio mewn tîm amlddisgyblaethol, a staff o asiantaethau eraill, i hyrwyddo a chynnal safonau gofal uchel i blant a phobl ifanc â chyflyrau niwroddatblygiadol. Bydd hyn yn cynnwys cyfrannu at asesiadau diagnostig drwy ymgymryd ag agweddau penodol o'r asesiad fel bo angen, gan ddarparu cefnogaeth i deuluoedd a phobl ifanc drwy ymyriadau a gweithdai grŵp mewn cefnogaeth 1:1 i fodloni canlyniadau cytunedig fel y cytunir gyda theuluoedd.  Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd weithio â phlant, eu teuluoedd, gofalwyr, timau staff a gweithwyr proffesiynol eraill, mewn amrywiaeth o leoliadau yn y gymuned.  Yn ogystal â hyn, bydd deilydd y swydd yn darparu cefnogaeth glinigol a rheolaeth i gydweithwyr iau sy'n ymgymryd â gwaith ochr yn ochr â deilydd y swydd, neu ar ei ran.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Natalie Woodworth
Teitl y swydd
Children's Clinical Service Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000851641
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Am fanylion pellach, cysylltwch â:
 Amanda Howson/Jodi Fishwick
03000 856640/45

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg