Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gwasanaethau Plant
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Secondiad: 12 mis
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC342-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, Talarfon
- Tref
- Bangor
- Cyflog
- £23,159 - £24,701 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 07/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Ysgrifennydd Tîm CAMHS
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 12 MIS OHERWYDD CWRDD GOFYNION Y GWASANAETH
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Rydym yn dymuno recriwtio unigolyn brwdfrydig ac ysgogol a fydd yn darparu cefnogaeth ysgrifenyddol i’r Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc o fewn yr Uwch Adran Blant a Phobl Ifanc, a leolir yn Talarfon, Bangor.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus safon addysg dda, sgiliau cyfathrebu ardderchog a’r gallu i weithio’n unigol a bod yn effeithiol a threfnus o ran y llwyth gwaith. Dylai'r ymgeisydd hefyd feddu ar sgiliau bysellfwrdd ardderchog a phrofiad o Becynnau Microsoft Office. Disgwylir i ddeilydd y swydd ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau o fewn y swyddogaeth.
Rhaid meddu ar arddull dda ar y ffôn. Bydd gofyn i ddeilydd y swydd ddangos agwedd broffesiynol a sensitif a chadw cyfrinachedd bob amser.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y Cefnogwr Gweinyddol GIMPPhI yn darparu gwasanaeth gweinyddol effeithlon a hyblyg i Dim Amlddisgyblaethol GIMPPhI, yn cynnwys y seiciatrydd ymgynghorol. Bydd hyn yn cynnwys, teipio, rheoli dyddiadur electronig/papur a threfnu apwyntiadau. Bydd disgwyl hefyd i'r deilydd swydd gynnal dyletswyddau derbynfa. Yn sgil natur y dyletswyddau, bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd gadw cyfrinachaedd a bydd dysgwyl iddo ddelio a chleifion, gofalwyr, perthnasau, staff meddygol ac ymwelwyr eraill a'r Adran, yn bersonol ac ar bapur, a hynny'n gwrtais a chan ddefnyddio doethineb. Mae Arweinydd Gweinyddol yn gyffredinol ar gael i gyfeirio ato.
Mae’r gallu siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Addysg gyffredinol dda. Teipio RSA Cam II neu gymhwyster/profiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
- ECDL, AMSPAR neu gymhwyster teipio sain
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ysgrifenyddol sylweddol
Meini prawf dymunol
- Profiad teipio sain
GWYBODAETH/Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Gallu blaenoriaethu, cyfathrebu rhagorol, sgiliau trefnu a gallu gweithio o dan bwysau
- Gwybodaeth dda am TG a Windows
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am PIMS a Therminoleg Feddygol
Personal Qualities
Meini prawf hanfodol
- Hawdd mynd ato, chwaraewr tim, agwedd hyblyg
- Dull ffon cyfeillgar ac effeithlon
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Carly Harel
- Teitl y swydd
- Administration Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 850037
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Ar gyfer manylion pellach a gwybodaeth, cysylltwch â:
Sandy McFadden, CAMHS Admin Manager
[email protected]
03000 850037
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector