Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gofal Brys
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos (Patrwm Shifft)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC439-0624W
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Gwynedd
- Tref
- Bangor
- Cyflog
- £23,159 - £24,701 per annum
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 07/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Derbynnydd Adran Achosion Brys
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Dderbynnydd Adran Achosion Brys / Cynorthwyydd Gweinyddol i ymuno â Thîm Gweinyddol y Gyfarwyddiaeth Gofal Brys yn Ysbyty Gwynedd.
Mae hwn y swydd parhaol Band 3, 30 awr yr wythnos.
Yr ymgeisydd llwyddiannus fydd y pwynt cyswllt cyntaf i gleifion, perthnasau ac ymwelwyr i’r Adran Achosion Brys a bydd gofyn dangos agwedd broffesiynol a sensitif a chynnal cyfrinachedd bob amser.
Bydd gennych addysg o safon dda, profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad gweinyddol / gwasanaeth cwsmer a sgiliau cyfathrebu ardderchog. Bydd angen i chi allu gweithio fel rhan o dîm a bod yn effeithlon a threfnus gyda’ch llwyth gwaith eich hun.
Byddwch yn gweithio gyda thîm cyfeillgar sy’n darparu amrywiaeth o ddyletswyddau derbynfa a gweinyddol i helpu i sicrhau bod yr Adran Achosion Brys yn rhedeg yn llyfn. Mae Derbynfa’r Adran Achosion Brys ar agor 24 awr y dydd, bob dydd o’r flwyddyn, sy’n cynnwys sifftiau Buan, Hwyr, Nos a gweithiau Gwyliau Banc.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg at o leia Level 3 yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu gwasanaeth derbynfa a gweinyddol i'r AAB wrth weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol i sicrhau bod gwasanaeth effeithiol yn cael ei ddarparu a bod bodlonrwydd cleifion yn cael ei fwyafu. Hefyd, pwyso a mesur i ateb ymholiadau cleifion ar unwaith ac yn effeithiol eich hunan o fewn eich cyfyngiadau proffesiynol.
Yn sgil natur y dyletswyddau, bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd gadw cyfrinachedd llwyr a bydd disgwyl iddo/iddi ddelio â staff, cleifion, gofalwyr a pherthnasau yn gwrtais a chan ddefnyddio doethineb bob amser.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
- Cyfarch cleifion ac ymwelwyr a'u derbyn i'r adran, a phan fo angen eu cyfeirio o gwmpas y safle. Delio â sefyllfaoedd anodd wrth iddynt godi o ganlyniad i gleifion neu berthnasau blin neu drallodus.
- Cofrestru'r holl gleifion sy'n mynychu'r Adran Achosion Brys ar Symphony a sicrhau bod y dogfennau angenrheidiol ar gael cyn brysbennu. Gall hyn gynnwys casglu gwybodaeth pan fo claf yn y lleoliad perthnasol e.e. adferiad.
- Wrth gofrestru cleifion ar y system gyfrifiadurol, cadarnhau gyda chleifion bod eu data personol a demograffig yn gywir a chyfredol. Sicrhau bo'r holl feysydd gorfodol yn cael eu cwblhau'n llawn. Deall pwysigrwydd rhoi data cywir i hwyluso canlyniadau ansawdd data cynhwysfawr.
- Cyfeirio cleifion i'r man clinigol cywir ar gyfer eu triniaethau/profion amrywiol a darparu gwybodaeth i gleifion/gofalwyr/ymwelwyr/staff fel bo angen.
- Pwyso a mesur i roi gwybod i staff nyrsio am gleifion sy'n ymddangos fel pe baen nhw'n dirywio'n gyflym neu angen sylw meddygol brys h.y. poenau'r frest, yn fyr eu gwynt ayb.
- Defnyddio sgiliau pwyso a mesur proffesiynol i benderfynu ar flaenoriaethu llwyth gwaith cywir, gan ystyried ffactorau amrywiol h.y. craffter yr adran, cyflwr emosiynol cleifion, ymwelwyr a chydweithwyr, lefelau straen mewnol, ôl-groniad gwaith, lefelau staffio ayb.
- Cyfathrebu'n effeithiol gydag ystod o ymwelwyr i'r adran, gan gynnwys cleifion sy'n bryderus a gofidus dros ben, a'r rhai sydd ag anghenion arbennig hefyd. Mabwysiadu sgiliau megis empathi, cydymdeimlad, doethni, tawelwch, dealltwriaeth ac ymgeledd i sicrhau bod arddull briodol yn cael ei fabwysiadu yn ystod sefyllfaoedd anodd. Gallu ymdrin â phobl sydd o natur ymosodgar.
- Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl ac arbenigol o derminoleg feddygol o fewn yr adran.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Gallu dangos cymhwyster Saesneg a Mathemateg TGAU neu lefel gyfatebol
- NVQ lefel 3 Gofal Cwsmer neu gymhwyster cywerth neu brofiad
Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiad o glercio/gwaith swyddfa/derbynfa
- Profiad o wasanaethau cwsmeriaid
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o’r GIG
Skills
Meini prawf hanfodol
- Gallu siarad Cymraeg at o leia Level 3
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Sgiliau uned arddangos weledol (VDU) a bysellfwrdd cywir.
- Yn gallu gweithio mewn amgylchedd prysur a delio â nifer o dasgau gwahanol.
Meini prawf dymunol
- Defnydd blaenorol o systemau’r ysbyty h.y. Symffoni / WPAS
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Tesni Jones
- Teitl y swydd
- Service Support Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 851057
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector