Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gastroenteroleg
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Sifftiau i gynnwys rhai penwythnosau a nosweithiau.)
Cyfeirnod y swydd
050-NMR1079-1124
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Gwynedd
Tref
Bangor
Cyflog
£30,420 - £37,030 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
04/12/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Nyrs Gofresteddig - Ward Tryfan

Gradd 5

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol. 

Trosolwg o'r swydd

Sylwch ar gyfer myfyrwyr Cymru, rhaid i chi wneud cais trwy Symleiddio lle gellir dod o hyd i’r holl swyddi sydd ar gael.

Mae cyfle cyffrous ar gael i ymuno â'n tîm ar ward Tryfan yn Ysbyty Gwynedd fel nyrs gofrestredig.

Mae Ward Tryfan yn ward ddeinamig a chyflym gyda 24 gwely prysur sy'n arbenigo mewn gastroenteroleg sy'n angerddol am ddarparu gofal cleifion o ansawdd uchel. Mae'r tîm nyrsio yn rhagweithiol, yn arloesol ac mae ganddyn nhw gyfoeth o wybodaeth yn y maes arbenigol hwn. Mae'r ward ar y cyd â chydweithwyr meddygol yn cefnogi holl anghenion gofal meddygol aciwt ein cleifion.  Mae dull gweithio tîm yn cael ei fabwysiadu i sicrhau bod ymarfer diogel, gofal unigoledig a phrofiad positif i gleifion yn cael ei greu ar gyfer pob claf.

 

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Yn gyfrifol am asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal nyrsio sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan gydweithio a chydweithredu ag eraill i ddiwallu anghenion cleifion a'u teuluoedd.

Helpu i reoli a threfnu eu maes clinigol a chymryd rhan yn addysg, datblygiad a goruchwyliaeth aelodau eraill o'r staff.

Cymryd cyfrifoldeb am ward neu gylch nyrsio cyfatebol, yn absenoldeb yr uwch nyrs neu'r person sydd â chyfrifoldeb parhaus (24 awr). 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon. 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. 

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Nodweddion Personol

Meini prawf hanfodol
  • Gallu cyfarthrebu'n effeithiol
  • Gallu gweithio dan bwysau
  • Awyddus a brwdfrydig
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg

Gwybodaeth a Chymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestrwyd gyda NMC
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ol-gofrestru e.e
  • POVA
  • Diogelu Plant
  • Cefnogaeth bywyd canolraddol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o ofal nyrsio uniongyrchol cyn-cofrestru
  • Profiad o ddarparu gofal nyrsio cyfannol
  • Diddordeb mewn datblygu sgiliau nyrsio
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth glir o fframwaith Llywodraethu Clinigol
  • Gweithredu arfer seiliedig ar dystiolaeth

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Dealltwriaeth glir o gytundeb gofal
  • Y gallu i ddogfennu manylion yn glir a chywir
  • Dealthwriaeth glir o'r brses gydsynio
  • Sgiliau TG sylfaenol
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am bolisi adrodd am ddigwyddiadau
  • Ymwybyddiaeth o bolisiau

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Rachel McGrath
Teitl y swydd
Ward Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 841449
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg