Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Llyfrgell
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC142-0225
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Llyfrgell a Chanolfan Ddysgu, Ysbyty Gwynedd
- Tref
- Bangor
- Cyflog
- £30,420 - £37,030 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 06/03/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 18/03/2025
Teitl cyflogwr

Llyfrgellydd
Gradd 5
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr wasanaeth llyfrgell o ansawdd uchel, sy'n ymroddedig i gefnogi arfer clinigol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac anghenion addysgol ac ymchwil yr holl staff a myfyrwyr ar leoliad.
Ydych chi’n weithiwr gwybodaeth proffesiynol sy’n edrych am her newydd, neu a ydych newydd gymhwyso? Os mai ‘ie’ yw’r ateb i’r naill gwestiwn neu’r llall, yna efallai mai’r rôl gyffrous a blaengar hon yn Llyfrgelloedd BIPBC yw’r swydd i chi?
Rydym yn dymuno penodi llyfrgellydd cymwysedig arloesol, brwdfrydig, hunan-gymhellol i ymuno â’n tîm cyfeillgar yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, Gogledd Cymru.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu cefnogaeth broffesiynol i’r Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell, cynorthwyo gyda chynllunio/cyflwyno sesiynau hyfforddi adalw gwybodaeth a sgiliau gwerthuso beirniadol i grwpiau ac unigolion, darparu gwasanaeth allgymorth/myfyriwr helaeth a chynorthwyo gyda phob agwedd ar y System Rheoli Llyfrgell. Mae sgiliau chwilio llenyddiaeth profedig a gwybodaeth gadarn o systemau electronig, cronfeydd data ac adnoddau ar-lein yn hanfodol felly, yn ogystal â gwybodaeth ymarferol drylwyr o arferion a gweithdrefnau presennol y llyfrgell.
Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a gofal cwsmer ardderchog, a'r gallu i weithio dan bwysau heb fawr o oruchwyliaeth. Yn chwaraewr tîm, byddwch yn cyfrannu at waith prosiect traws-safle. Mae dawn marchnata a hyrwyddo, sgiliau TG rhagorol a brwdfrydedd dros ddatblygu'r gwasanaeth hefyd yn allweddol i'r rôl hon.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd mewn astudiaethau yn ymweld a'r llyfrgell new wybodaeth neu lefel gyfatebol o wybodaeth, sgiliau a phrofiad
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Gwybodaeth am raglenni Microsoft
- Ymwybyddiaeth o adnoddau gwybodaeth gofal iechyd
- Gwybodaeth am systemau Rheoli'r llyfrgell
- Gwybodaeth am ddeddfwriath Hawlfraint, Diogelu Data, GDPR, Iechyd a Diogelwch a Rhyddid Gwybodaeth
Meini prawf dymunol
- MCLIP (Aelodaeth o Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth
- ECDL lefel Uwch
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn llyfrgell
- Profiad o chwilio drwy gronefydd data ac ar y rhyngrwyd am ffynonellau gwybodaeth o ansawdd uchel
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn llyfrgell iechyd
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno da
- Y gallu i nodi, prosesu a throsglwyddo gwybodaeth gymhleth mewn ffordd syn'n briodol i'r sawl syn'n ei derbyn
- Sgiliau TG ardderchog
- Llawn cymhelliant a brwdfrydig
- Y gallu i gyfarthrebu a staff ar bob lefel mewn ffordd brofessiynol a chyfeillgar
- Y gallu i weithio fel rhan o dim
- Y gallu i weithio'n rhagweithiol heb oruchwyliaeth
- Y gallu i gynllunio, blaenoriaethau a threfnu gwaith
Meini prawf dymunol
- Sgiliau addysgu
- Gwybodaeth o dermau meddygol
- Dealltwriaeth o gysyniadau llywodraethau clinigol ac ymarfer ar sail tystiolaeth
- Sgiliau Cymraeg
Arall
Meini prawf dymunol
- Mynediad at drafnidiaeth er mwyn ymweld a lleoliadau gwahanol
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Pamela Jones
- Teitl y swydd
- Library Services Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000842401
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector