Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Fferyllfa
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol: Penwythnosau a gwyliau banc angen eu gweithio fel tim 1 o bob 8.
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-PST103-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Y Fferyllfa Ysbyty Gwynedd
- Tref
- Bangor
- Cyflog
- £28,834 - £35,099 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 11/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Technegydd Fferyllfa Rheoli Meddyginiaeth
Gradd 5
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Wyt ti yn Dechnegydd Fferyllfa angerddol, rhagweithiol ag empathetig, sydd yn uchelgeisiol am ddarparu gwasanaeth a gofal eithriadol i gleifion?
Os ydw yw’r ateb, mae’r adran Feryllfa yn Ysbyty Gwynedd efo cyfle ffantastig i ti ymuno ar tim cyfeillgar. Yma, mae ein cleifion yn gallon bopeth ydani yn ei wneud. Rydym yn ymroddedig i gyflawni gofal sydd or ansawdd orau a felly angen pobl medrus i helpu cyflawni hyn.
Felly, os wyt ti yn edrych am her newydd i ehangu dy portfolio, cael mwy o gyrfifoldeb ac cyfle i weithio mewn amrywiaeth o adranau clinigol ochr yn ochr gyda timau amlddisgyblaethol, fallai hwn yw’r swydd i ti.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gwneud ystod eang o ddyletswyddau arferol a heb fod yn arferol o ran paratoi a chyflenwi meddyginiaethau a chynnyrch cysylltiedig i ddefnyddwyr y gwasanaeth yn y Bwrdd Iechyd.
Disgwylir i'r Technegydd Fferyllfa weithio'n weddol annibynnol a rheoli wrth wneud dyletswyddau a ddyrennir o fewn cyfyngiadau a osodir gan yr Uwch Dechnegydd Fferyllfa ac yn unol â pholisiau a gweithdrefnau'r adran, a'r Bwrdd Iechyd.
Bydd deilydd y swydd wedi hyfforddi ac yn cynnal y galluoedd sydd eu hangen i wneud dyletswyddau Technegydd Fferyllfa Gwirio Achrededig.
Ar ôl hyfforddiant pellach, bydd gan ddeilydd y swydd y gallu angenrheidiol i wneud dyletswyddau Technegydd Fferyllfa Rheoli Meddyginiaethau Achrededig.
Gweithio o dan reolaeth yr Uwch Dechnegydd Fferyllfa a fferyllydd ward yn y maes gwaith i sicrhau bod gwasanaeth diogel ac effeithlon yn cael ei gynnal, darparu ystod o weithgareddau rheoli meddyginiaeth yn cynnwys cysoni meddyginiaeth a chymryd hanes meddyginiaeth.
Cysylltu â staff y fferyllfa ym mhob sector a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill i sicrhau y gellir darparu gwasanaeth rheoli meddyginiaethau sy'n canolbwyntio ar y claf. Gweithio'n agos â'r prif fferyllydd i fabwysiadu dull tîm at wybodaeth am feddyginiaethau, gan weithredu fel aelod allweddol o'r tîm amlddisgyblaethol a'r tîm fferyllfa ehangach, gan ddarparu cyngor gwybodaeth am feddyginiaethau i weithwyr proffesiynol gofal iechyd, cleifion a gofalwyr.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualification and/or Knowledge
Meini prawf hanfodol
- Lefel 3 CGC Diploma mewn sgiliau gwasanaethau Fferyllol (QCF) neu cyfwerth
- Cymwyster WCPPE Technegydd Fferyllfa gwirio achredig cenedlaethol neu cyfwerth
- Cymwyster achredig WCPPE Rheoli Meddygyniaethau neu yn gweithio tuag at
Meini prawf dymunol
- Goruchwyliwr clinigol neu addysg
Experience
Meini prawf hanfodol
- Lefel addas o brofiad
- Gweithio mewn gwasanaeth fferylfa ysbyty
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth da o weithredau wasanaethau fferyllfa ysbyty
- Profiad o weithio ar lefel gwaith ar wards
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sophia Hughes
- Teitl y swydd
- Senior Medicines Management Pharmacy Technician
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 850932
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector