Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gwasanaethau Porthora
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 35 awr yr wythnos (37.5 awr yr wythnos - 5 diwrnod allan o 7 - gan gynnwys penwythnosau, gwyliau banc gyda chyfuniad o sifftiau cynnar a hwyr ac achlysuron o shifftiau nos)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-EA173-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Gwynedd
- Tref
- Bangor
- Cyflog
- £23,159 - £24,701 y flywddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 07/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Goruchwyliwr Gwasanaethau Porthorion
Gradd 3
Trosolwg o'r swydd
Bydd y Goruchwyliwr Porthora yn gweithio fel rhan o dîm yn cyfrannu at redeg y gwasanaeth yn esmwyth, gan ddarparu ymateb effeithlon ac effeithiol i symud cleifion a deunyddiau, a chynorthwyo mewn sefyllfaoedd brys, wrth sicrhau bod tasgau eraill megis danfon y troli bwyd, llieiniau, nwyddau a phost ac ati yn cael eu gwneud yn amserol. Bydd y Goruchwyliwr Porthora yn arwain staff porthora, eu cefnogi a'u goruchwylio drwy ystod o ddyletswyddau, er bod nifer y tasgau yn rhai arferol yn gyffredinol, gall swyddogaeth y gwasanaeth fod yn anrhagweladwy felly mae dull hyblyg yn hanfodol. Bydd disgwyl i'r Goruchwyliwr Porthora ymateb i'r heriau amrywiol o fewn yr amgylchedd gwaith, a gall y llwyth gwaith newid oherwydd dylanwadau allanol yn cynnwys yr amgylchedd, y tywydd, capasiti cleifion ayyb, felly bydd disgwyl i ddeilydd y swydd ddefnyddio ei synnwyr cyffredin a newid blaenoriaethau ei hun ac eraill yn unol â galw'r gwasanaeth.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae angen i Oruchwyliwr Portering feddu ar sgiliau gwaith tîm, arweinyddiaeth, cyfathrebu a threfnu da. Mae angen iddynt fod yn hunan-ysgogol, gallu gweithio'n ddiarolygol, bod â dull hyblyg o newid newidiadau a chael dull cyfeillgar a phroffesiynol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon, mae croeso i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais yn yr un modd.
Mae Trwydded yrru llawn yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Addysg gyffredinol dda
Meini prawf dymunol
- NVQ lefel 3 mewn Goruchwylio neu profiad gyfwerth
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o oruchwylio Staff
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn amglychedd tebyg
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- David Latham
- Teitl y swydd
- Assistant Hotel Services Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 851189
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau cymorth neu bob sector