Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gwasanaethau Merched
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 15 awr yr wythnos (Dydd Llun i Ddydd Gwener)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC431-0624W
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Gwynedd
- Tref
- Bangor
- Cyflog
- £22,720 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 04/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Clerc Ward
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Bydd Clerc y Ward yn darparu cymorth clercyddol effeithiol i'r ward. Mae darparu gwasanaeth clercyddol effeithiol yn hanfodol i sicrhau derbyniad, trosglwyddiad a rhyddhad cleifion heb oedi.
Oherwydd natur y dyletswyddau, disgwylir i’r clerc ward gadw cyfrinachedd llwyr a disgwylir iddi/iddo ymdrin â chleifion a pherthnasau’n gwrtais a doeth bob amser.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae clerc y ward yn gyfrifol i reolwr y gwasanaeth i ddarparu gwasanaeth clercyddol effeithiol ar draws y wardiau
O ran pwrpas atebolrwydd a datblygiad, bydd clerc y ward yn dod dan gyfrifoldeb uniongyrchol y rheolwr gwasanaeth.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Cwblhau dogfennaeth ward arferol a fydd yn cynnwys: ystadegau hyfforddiant, ystadegau defnyddio banc, ystadegau salwch ayb. |
Teipio adroddiadau nyrsio cynhwysfawr ar gyfer Gwrandawiadau Rheolwyr/Tribiwnlysoedd Adolygu. |
Prosesu dogfennaeth statudol yn ymwneud â'r Ddeddf Iechyd Meddwl. Prosesu dogfennaeth ward e.e. Derbyniadau a Rhyddhau. |
Prosesu dogfennaeth CTP/Myrddin, gan gynnwys cydlynu adolygiadau. |
Cynnal nodiadau achos mewn cyflwr da. |
Sicrhau bod digon o dudalennau gwag yn y nodiadau achos a bod labeli adnabod cleifion cywir ar eu cyfer. |
Ffeilio canlyniadau gyda nodiadau achos, gan gynnwys y nodiadau achos wedi'u holrhain i fannau 'y tu allan i wardiau'. |
Cynnal systemau papur/cyfrifiadurol priodol a’u diweddaru fel bo angen. |
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i arddangos sgiliau Saesneg/Cymraeg a Mathemateg at lefel Gradd C TGAU neu gyfwerth
- RSA Lefel 1 neu gyfatebol
- Welsh speaking' (lefel 3 fan leiaf)
Meini prawf dymunol
- NVQ 2 mewn gweinyddiaeth/Gofal Cwsmeriaid
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol o weithdrefnau swyddfa a gweinyddol
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol yn y GIG
- Defnyddiwr WPAS
Cymhwyster a Gallu
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i ddefnyddio systemau gwybodaeth electronig
- Y gallu i gyfrannu'n adeiladol at waith tim
- Y gallu i weithio ar liwt eich hunan, tra'n deall yr angen i ofyn am gyngor gan uwch staff pan fo angen
- Yn gallu siarad Cymraeg
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth waith dda o becynnau Microsoft Office
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Nerys W Jones
- Teitl y swydd
- Service Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01248 385011
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector