Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyllid
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Cyfnod Penodol: 3 blynedd (Swydd Hyfforddi)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Gwener 9.00yb - 5.00yh)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC452-0724
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Sylfaen i'w gytuno pan ddechreuir
- Tref
- Sylfaen i'w gytuno pan ddechreuir
- Cyflog
- £22,720 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 14/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Prentis Cyllid
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae're swydd hon am gyfnod penodol/secondiad am 3 blynyddoedd (Swydd Hyfforddi)
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Ydych chi'n chwilio am ddewis arall yn lle prifysgol ond gyda'r un rhagolygon hirdymor? Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa mewn cyllid a chyfrifeg yna efallai mai ein Rhaglen Brentisiaeth fydd y cam nesaf i chi. Mae prentisiaeth yn gyfle i chi ddatblygu eich gyrfa drwy weithio gyda phobl brofiadol, ennill cymwysterau a chael eich talu ar yr un pryd.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a hunan-gymhellol i ymuno â thîm Cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel Prentis Cyllid. Byddwn yn darparu hyfforddiant, cefnogaeth ac arweiniad i ddatblygu eich potensial.
Mae'r Rhaglen Brentisiaeth tair blynedd cyfnod penodol yn cynnig hyfforddiant proffesiynol gyda'r Gymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) o lefel 2 hyd at lefel 4. Fel swydd hyfforddi, mae'n dibynnu ar gwblhau pob cam o AAT yn llwyddiannus. Bydd hyn yn eich galluogi i weithio yn yr Adran Gyllid i ennill profiad a hyder, adeiladu portffolio o dystiolaeth ar gyfer achredu prentisiaethau, cymryd rhan mewn cyfleoedd hyfforddi priodol a deall y rôl.
Byddwch yn derbyn cymorth datblygu gan gynnwys trafodaethau perfformiad ac adborth yn rheolaidd i wneud yn siŵr eich bod yn dysgu ac yn datblygu eich sgiliau rheolaeth ariannol yn y swydd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y Brentisiaeth yn cynnwys yn bennaf:
- Tystysgrif dechnegol (AAT) sy’n cynnwys gwybodaeth greiddiol
- Sgiliau caled allweddol megis llythrennedd a rhifedd
- Sgiliau meddal allweddol megis cyfathrebu a deallusrwydd emosiynol.
- Ymgymryd â dyletswyddau cyllid gweithredol craidd.
Dylech allu weithio i derfynau amser tynn, meddu ar sgiliau cyfathrebu da a gallu dangos brwdfrydedd ac ymrwymiad i gyflawni safonau uchel yn gyson.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; bydd yr un cyfle yn cael ei roi i ymgeiswyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.
Bydd safle'r rôl yn cael ei drafod yn y cyfweliad a bydd yn hyblyg, yn seiliedig ar leoliad yr ymgeisydd llwyddiannus.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gallwch ddod o hyd i'r swydd ddisgrifiad llawn a'r fanyleb person yn y dogfennau ategol.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Lefel A mewn maes perthnasol neu lefel cyfatebol o brofiad
- Wedi'ch addysgu at lefel TGAU, yn cynnwys gradd A-C mewn Mathemateg a Saesneg TGAU.
- Parodrwydd i weithio at gymhwyster AAT Lefel 3 o fewn amserlen gytunedig.
Meini prawf dymunol
- Yn fodlon gweithio at AAT Lefel 4.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ddatrys cyfrifiadau a chysoni ariannol.
- Profiad o ddefnyddio pecyn Microsoft Office yn cynnwys Word, Excel a PowerPoint.
Meini prawf dymunol
- Profiad o gyfrifo ariannol mewn sefydliad mawr, gan gynnwys defnyddio systemau cyfriflyfrau ariannol megis Oracle
Dawn a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu ar lafar ac ysgrifenedig ardderchog a sgiliau rhifedd. Gallu i gyfathrebu'n sensitive.
- Arbenigedd yn y defnydd o sgiliau bysellfwrdd, taenlenni, cronfeydd data a chyfriflyfrau ariannol.
- Gallu gweithio'n gywir gan roi sylw priodol i fanylder.
- Gallu gweithio ar eich liwt eich hun.
- Sgiliau llafar ac ysgrifenedig ardderchog.
Meini prawf dymunol
- Gallu deall materion ariannol cymhleth a'u hegluro i gynulleidfa nad yw'r ariannol yn glir ac yn berswadiol.
- Gallu siarad Cymraeg
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth lawn o ddamcaniaethau cyfrifo a phrosesau, gan gynnwys cadw llyfrau, croniadau a rhagdaliadau.
Personal Qualities
Meini prawf hanfodol
- Hunanysgogol iawn
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog. Gallu perthnasu â staff ar bob lefel
- Aelod brwd o dîm.
- Hyblyg, addasadwy ac yn derbyn syniadau newydd ac yn agored iddynt ac yn croesawu newid.
- Ymrwymo i weithio electronig
- Brwdfrydig. Hunan-ysgogol a dull sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid.
- Ddim yn cynhyrfu o dan bwysau
- Gonestrwydd i adrodd yn ôl, a pharodrwydd i ddarparu adborth i gydweithwyr.
- Hyderus a hunanymwybodol
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Rebecca Hughes
- Teitl y swydd
- Chief Finance Manager: Strategy & Planning
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector