Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Rheoli Prosiectau prosiectau Cyfalaf
Gradd
Gradd 8a
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i Ddydd Gwener)
Cyfeirnod y swydd
050-AC442-0624
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Sylfaen i'w gytuno ar gychwyn
Tref
Sylfaen i'w gytuno ar gychwyn
Cyflog
£51,706 - £58,210 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
11/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Uwch Reolwr Prosiect (Datblygu Cyfalaf)

Gradd 8a

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

I gefnogi datblygu gwasanaethau clinigol, mae Bwrdd  Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi sefydlu rhaglen gyfalaf eang gwerth £20 miliwn y flwyddyn i ddatblygu ystod o gyfleusterau newydd a gwasanaethau sydd wedi'u hailwampio.

Rydym bellach yn awyddus i gryfhau ein tîm rheoli prosiect mewnol i oruchwylio'r broses o gyflwyno'r rhaglen hon.

Byddwch yn arwain tîm Ardal ac yn rheoli amrywiaeth o brosiectau cyfalaf i sicrhau eu bod yn llwyddiannus o ran hwyluso datblygu gwasanaethau ar gyfer poblogaeth Gogledd Cymru.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cefnogi'r Pennaeth Datblygu Cyfalaf i reoli a datblygu Asedau Cyfalaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gan ddarparu gwasanaeth dylunio mewnol a goruchwyliaeth ar gyfer cynlluniau cyfalaf.

Yn gyfrifol am reoli prosiect o ran nifer o gynlluniau ar yr un pryd (gan gynnwys cynlluniau cyfalaf mawr) o adeg eu dechrau hyd at eu cwblhau. Sicrhau bod prosiectau cyfalaf penodol yn cael eu darparu yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r BILl ac yn bodloni deilliannau diffiniedig y prosiect o ran costau, amser ac ansawdd.

Yn gyfrifol am baratoi cynigion ar gyfer cytuno arnynt, cynlluniau prosiect a sicrhau bod yr holl gynlluniau'n cael eu cynllunio yn unol â gofynion cenedlaethol a statudol.

Rhoi cyngor arbenigol a phroffesiynol ar brosiectau ystadau i Gyfarwyddwyr, yr Uwch Adran ac Uwch Reolwyr Corfforaethol, staff Ystadau eraill a chontractwyr allanol.

Yn gyfrifol am reoli a goruchwylio'r Rhaglen Datblygu Cyfalaf gyda thimau dylunio sydd wedi'u cyflogi'n uniongyrchol a'u comisiynu'n allanol trwy'r fframwaith.

Yn gyfrifol am gomisiynu cynlluniau cyfalaf mawr.

Yn gyfrifol am gynnal a darparu'r holl ddyluniadau a llawlyfrau cynnal a chadw ar gyfer holl eiddo'r BILl, ac am gynnal yr holl wybodaeth dechnegol a ddeddfwriaethol yn ymwneud â materion adeiladu Ystadau a dylunio, yn ôl yr angen.

Arwain Tîm Datblygu Cyfalaf yr Ardal.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais. 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster gradd mewn Peirianneg/Adeiladu neu gyfwerth.
  • Aelodaeth â sefydliad proffesiynol.
  • Tystiolaeth o wybodaeth a phrofiad arbenigol ar lefel Gradd Meistr.
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster Rheoli Prosiect.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o arbenigedd a gwybodaeth sylweddol wedi'u hennill mewn amgylchedd ystadau yn y GIG, gan weithio ar lefel Gradd Meistr.
  • Profiad o weithio ar lefel uwch yn y GIG.
  • Profiad o weithio mewn disgyblaeth adeiladu neu wasanaethu perthnasol
  • Profiad o reoli timau.
  • Profiad o reoli prosiectau lluosog a chymhleth.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ddatblygu strategaeth.

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Lefel uchel o dechnegau safle, contract a rheoli prosiectau mawr o adeg eu dechrau hyd at adrodd ac archwilio terfynol.
  • Gallu cyfathrebu'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, wybodaeth gymhleth iawn i ystod eang o gynulleidfaoedd, yn cynnwys uwch reolwyr a rheolwyr gweithredol.
  • Deall yr holl ddyletswyddau statudol sy'n ofynnol ar gyfer y swydd a chydymffurfio â nhw.
  • Dangos dulliau dethol, penodi a rheoli effeithiol ac effeithlon o ran timau amrywiol, fetio'r holl ddyluniadau, casglu ffeithiau cymhleth, blaenoriaethu, dadansoddi, dehongli, paratoi a chyflwyno adroddiadau gan ddefnyddio technegau amrywiol mewn perthynas â'r holl ddyletswyddau sydd yn ei gylch gwaith.
  • Y gallu i goladu a dehongli gofynion defnyddwyr a chynghori ynghylch camau a datrysiadau priodol i faterion sy'n gymhleth ac sy'n dechnegol heriol yn gysylltiedig ag adeiladau.
  • Gwerthuso a rheoli sefyllfaoedd asesu risg, paratoi adroddiadau ar gyfer gofynion cymhleth yn ymwneud ag adeiladau a gwasanaethau.
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i wella perfformiad trwy weithio mewn tîm.

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth eang sy'n gysylltiedig â dylunio gofynion sy'n arbenigol ac yn dechnegol gymhleth yn ymwneud ag adeiladau a gwasanaethau, a phob agwedd yn y diwydiant adeiladu, gan gydymffurfio â chyfyngiadau cyfreithiol, statudol, ariannol ac sy'n ymwneud â safleoedd penodol.
  • Y gallu i ddangos ei fod yn gyfarwydd â chodau ymarfer penodol y GIG, gan gynnwys ESTATECODE, Memoranda Technegol Iechyd a Nodiadau Adeiladau Iechyd.
  • Gwybodaeth gadarn am y rheoliadau gan gynnwys: Rheoliadau asbestos, rheoliadau Iechyd a Diogelwch sy'n benodol i safleoedd a dyluniadau, rheoliadau adeiladu, COSHH.
  • Yn gymwys o ran defnyddio cronfa ddata bensaernïol ADB ac o ran defnyddio ac addasu Autocad i wasanaethu anghenion dylunio adeiladau arbenigol y GIG.
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am Sgiliau Cysylltiedig a chrefftau yn y diwydiant.

Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Gallu creu a chynnal perthnasoedd gwaith da, dangos agwedd broffesiynol, yn gyfeillgar, hunanfrwdfrydig a hyderus.
  • Gallu blaenoriaethu rhaglenni gwaith a chyflawni dan bwysau
  • Gallu cynllunio a pharatoi amserlenni gwaith a phersonél addas a enwir i wneud y gwaith.
  • Dangos rhinweddau arwain.
Meini prawf dymunol
  • Gallu cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Daniel Eyre
Teitl y swydd
Head of Capital Development
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 851312
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg