Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Clywedeg
- Gradd
- Band 7
- Contract
- Cyfnod Penodol: 8 mis (Contract ending 31/03/2025)
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 050-HS024-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £44,398 - £50,807 pro-rata y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 04/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Uwch Wyddonydd Clinigol (Clywedeg)/Prif Glywedydd (Gofal Cychwynnol)
Band 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Ydych chi angen her newydd a newid golygfa? Ydych chi eisiau gweithio'n annibynnol fel ymarferwr lefel uwch ond yn dal i fod yn rhan o dîm deinamig sy'n darparu gwasanaeth Awdioleg o'r radd flaenaf i gleifion Gogledd Cymru? Os yw hyn yn eich diddori, gallai ymuno â'n gwasanaeth Awdioleg Gofal Cychwynnol fod yr union beth sydd ei angen arnoch.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm sefydledig sy’n gweithio mewn meddygfeydd fel ‘ymarferwyr cyswllt
cyntaf’.
Byddwch yn gyfrifol am arwain darpariaeth gwasanaeth Awdioleg gofal cychwynnol o fewn clwstwr Gofal Cychwynnol penodol wrth gynnal cysylltiadau â gwasanaeth Awdioleg gofal eilaidd mewn ysbytai. Bydd meithrin perthnasau gwaith agos â sawl meddygfa wahanol a chydlynu â chydweithwyr gofal cychwynnol ac eilaidd yn rhan allweddol o'r rôl. Bydd gwaith o ddydd i ddydd yn cynnwys gweld cleifion ag anhawster clyw, tinitws trafferthus a thrin y rhai sydd â phendro lleoliadol paroxysmal anfalaen. Mae'r gwasanaeth ar gyfer cleifion 5 mlwydd oed a hŷn felly bydd rhywfaint o waith paediatreg. Mae gwaith tynnu cwyr arbenigol gan ddefnyddio micro-sugno yn rhan o'r rôl a gellir trefnu hyfforddiant i'r ymgeisydd llwyddiannus os oes angen. Bydd deilydd y swydd hefyd yn cael y dewis o sesiwn glinigol reolaidd mewn gofal eilaidd fel rhan o rôl lawn amser - bydd hwn naill ai’n uwch glinig adsefydlu oedolion, clinig paediatreg neu gynteddol, yn unol â dewis deilydd y swydd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae'r gwasanaeth yn gweithredu ar draws Gogledd Cymru gyfan o Wrecsam i Ynys Môn, gan gwmpasu ardal amrywiol gyda golygfeydd arfordirol a gwledig eithriadol. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys rheoli a chydlynu darpariaeth gwasanaeth tynnu cwyr arferol o fewn y clwstwr, gan gynnwys rheolaeth llinell Awdiolegydd Band 5. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei gefnogi i ddatblygu eisgiliau rheoli llinell. Gan fod hon yn swydd ‘Uwch Ymarfer’, rydym yn dymuno penodi Awdiolegydd profiadol syddeisoes wedi dechrau gweithio tuag at ddatblygiad ei yrfa mewn rôl uwch ac sy’n gymwys i gofrestru gyda’r HCPC, os nad yw wedi cofrestru eisoes. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad helaeth o weithio mewn Gwasanaeth Awdioleg gofal eilaidd, bydd yn hyderus yn gweithio'n annibynnol ac yn barod am her gyrfa newydd.
Os cewch eich ysbrydoli gan y cyfle i ymwneud â dechrau taith y claf, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Os hoffech dreulio diwrnod yn cysgodi aelodau o'r gwasanaeth, cysylltwch â ni i drafod cyn gwneud cais.
Sylwer, efallai y bydd costau symud ar gael i’r ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; bydd yr un cyfle yn cael ei roi i ymgeiswyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn.
Manyleb y person
Chymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Yn bodlonir holl feini prawf hanfodol yn unol ar disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
- Yn bodlonir holl feini prawf hanfodol yn unol ar disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Sgiliau

Profiad
Meini prawf hanfodol
- Yn bodlonir holl feini prawf hanfodol yn unol ar disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
- Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Matthew Evans
- Teitl y swydd
- Principal Clinical Scientist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 850078
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Matthew Evans
Prif Wyddonydd Clinigol
Arweinydd Ardal Gofal Sylfaenol (Canalog)
Adran Awdioleg
Bwrdd lechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan
Ffôn : (01745) 756436 / (01978) 727881
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector