Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Cynorthwyydd Labordy Meddygol
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Fel gweithiwr cymorth labordy mewn Gwyddorau Gwaed mae deiliad y swydd yn gweithio o dan oruchwyliaeth gwyddonwyr cymwysedig ar gyfer y tasgau dirprwyedig sydd eu hangen i ddarparu gwasanaeth labordy meddygol addas i'r diben, 24/7 sy'n dadansoddi ac yn adrodd ar waed, wrin, ysgarthion a deunyddiau eraill y corff i gyflawni amcanion gofal cleifion effeithlon ac effeithiol, a rheoli adnoddau'n effeithiol yn yr ysbyty
Prif ddyletswyddau'r swydd
Uwch Gymhorthwyr Gwyddorau Gofal Iechyd Gradd 2, Gwyddorau Gwaed, Ysbyty Glan Clwyd, Fel rhan o'n moderneiddiad parhaus i'r gwasanaeth, mae'r Adran Gwyddorau Gwaed yn Ysbyty Glan Clwyd, Rhuddlan .
Mae hon yn swydd allweddol yn y sefydliad, i ategu at arbenigedd Gwyddonwyr a Chymhorthwyr Gwyddorau profiadol eraill, a byddwch yn rhan o wasanaeth diagnosis prysur.
A dangos y gallu i ddysgu a datblygu a'r gallu i ddarparu gwasanaeth ardderchog er budd y gymuned rydym yn ei gwasanaethu; bydd angen bod yn ymroddedig i sicrhau bod ein cleifion wrth wraidd popeth a wnawn.
Bydd gennych sgiliau gwaith tîm cryf, ac yn gallu arddangos y gwerthoedd sy'n bwysig i ni, cyfathrebu'n dda; gweithio i gefnogi cydweithwyr; canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth o ansawdd a thrin eraill â pharch ac urddas.
Credwn mewn atebolrwydd, ond credwn hefyd mewn cyd-gyfrifoldeb – felly byddwch yn cael digon o gefnogaeth gan eich cyfoedion.
Byddwch hefyd yn mwynhau bod yn rhan o dîm agos, cymdeithasol, gyda rhaglen preceptoriaeth a’r holl gefnogaeth a hyfforddiant byddwch ei angen i symud eich sgiliau ymlaen.
Gellwch newid ansawdd eich bywyd hefyd. Dychmygwch fyw mewn ardal lle bydd eraill yn mwynhau eu gwyliau, mae rhywbeth i bawb yng ngogledd Cymru
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Addysg gyffredinol dd (TGAU) Tystiolaeth o rifedd a llythrennedd
- Sgiliau bysellfwrdd da Medrusrwydd a llaw Sgiliau Cyfathrebu da
- Gallu gweithio fel aelod o dim. Dibynadwy Rhifog Brwdfrydig Gallu gweithio ar ei liwt ei hun
- Parodrwydd i weithio oriau Hyblyg.
Meini prawf dymunol
- Addysg gyffredinol dd (TGAU)
- Profiad blaenorol o weithio mewn labordy
- Siaradwr Cymraeg Cyfweliad
profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o amgylchedd Gwaith prysur
- Y gallu i weithio dan bwysau ac addasu i newid mewn dyletswyddau.
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o weithio mewn labordy
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Lisa Jones
- Teitl y swydd
- BCU Pathology Reception Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01745 448790
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector