Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gwasanaethau Arlwyo
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol: Dydd Llun - Dydd Gwener 9am i 5pm (penwythnosau yn dibynnu ar anghenion y gwasanaeth)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Gwener 9am i 5pm (penwythnosau yn dibynnu ar anghenion y gwasanaeth))
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC212-0325
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £26,928 - £29,551 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 10/04/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Rheolwr Tim Gwasanaethau Arlwyo
Gradd 4
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle wedi codi ar gyfer Cydlynydd Cyfleusterau brwdfrydig, angerddol, tosturiol a hyblyg i gefnogi'r Tîm Rheoli Arlwyo i ddarparu gwasanaethau gweithredol effeithlon ac effeithiol ar draws y Gwasanaeth Arlwyo yng Nghanol BCUHB. Rydym yn chwilio am unigolyn a all gyfrannu at arwain tîm sy'n gweithio'n galed, gan sicrhau bod y gwasanaeth Arlwyo gorau yn cael ei ddarparu i gleifion a staff. Bydd y swydd wag hon yn Ysbyty Glan Clwyd ond bydd angen ymweliadau rheolaidd ar draws 6 safle cymunedol. Bydd hyn yn cynnwys archwiliadau safle, adolygu cydymffurfiaeth staff, a chynnal cyfarfodydd rheoli staff yn ôl yr angen. Rhaid i ddeiliad y swydd feddu ar wybodaeth ragorol o Ddiogelwch Bwyd, Iechyd a Diogelwch, ac etheg gwaith rhagweithiol.
Mae deiliad y swydd hon yn aelod allweddol o'r tîm Cyfleusterau a bydd gofyn iddo ddarparu cymorth i ddatblygu gwelliannau i wasanaethau a chynorthwyo gyda, neu ymgymryd â thasgau/prosiectau penodol fel sy'n ofynnol yn y Tîm Cyfleusterau.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y swydd yn cynnwys gweithio gyda'r Tîm Rheoli Arlwyo i sicrhau'r Gwasanaeth Arlwyo gorau posibl i gleifion, staff ac ymwelwyr. Bydd hyn yn cynnwys archwiliadau diogelwch bwyd, cyfarfodydd rheoli salwch, cyfarfodydd adolygu blynyddol staff, a dyletswyddau goruchwylio dyddiol o fewn safleoedd acíwt a chymunedol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
English
Meini prawf hanfodol
- Lefel 3 neu cyfatebol mewn coginio
Meini prawf dymunol
- Lefel 4 Mewn Rheoli Hylendid bwyd
English
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn Adran Arlwyo
Meini prawf dymunol
- Profiad o rhedeg cegin brysur
English
Meini prawf hanfodol
- Lefel 3 mewn coginio neu cyfatebol, fydd yn dangos sgilliau a gwybodaeth dda
Meini prawf dymunol
- Lefel 4 Mewn Rheoli Hylendid bwyd
English
Meini prawf hanfodol
- Agwedd hyblyg tuag at waith
Meini prawf dymunol
- Profiad goruchwylio neu reoli
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Peter Bell
- Teitl y swydd
- Catering Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000846284
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau cymorth neu bob sector