Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Dadhalogi
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i Dydd Gwener - 8am i 4pm)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC446-0724
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £22,720 Y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 21/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Swyddog Clercyddol
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Bod yn aelod effeithiol o'r Tim Gweinyddol, drwy gyfrannu at effeithiolrwydd cyffredinol yr Adran Gwasanaethau Sterileiddio, gan weithio'n effeithlon i systemau ansawdd yr adran a'r polisïau BIPBC. Sicrhau y caiff amcanion adrannol eu cyflwyno mewn modd cywir, amserol ac effeithiol.
Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr Adran Gwasanaethau Sterileiddio dros y ffôn, drwy e-bost, drwy ohebiaeth mewnol ac ar gyfer pob ymwelydd â'r adran. Darparu cymorth clercol effeithiol i aelodau o'r adran, gan gynnwys y gwaith o drawsgrifio cofnodion, llythyrau, memos, llungopïo, ffeilio, ffacsio a monitro lefelau stoc.
Gweithredu cyfarpar, llungopïwr, labeli, lamineiddiwr, argraffyddion, cyfrifiaduron a rhaglenni meddalwedd amrywiol y swyddfa, yn enwedig y system olrhain.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cyflenwi ar gyfer dyletswyddau gweinyddol eraill yn ystod cyfnodau o wyliau blynyddol, salwch yn ôl cyfarwyddyd y tîm rheoli. Cefnogi'r gwaith o baratoi data ansoddol a meintiol a ddefnyddir ar gyfer papurau ac adroddiadau adrannol cyfnodol, gan ddefnyddio pecynnau Microsoft 365 a rhaglenni electronig eraill megis System Olrheinedd HESSDA, Bionova Cloud. Cynnal system ffeilio gyfrifiadurol a system ffeilio â llaw gynhwysfawr, gan sicrhau y caiff gwybodaeth ei chofnodi a'i storio'n briodol, e.e. System Olrheinedd HESSDA, Papertrail
Cyflawni dyletswyddau mewnbynnu data i sicrhau y caiff cronfeydd data a chofnodion ansoddol cywir eu cadw. Sicrhau bod pob dyfais feddygol yn cael gwiriad ansawdd a'i phrosesu yn unol â gweithdrefnau'r adran.
Helpu'r Rheolwr Gweinyddol gyda'r gwaith o gynnal y System Rheoli Ansawdd, gallai hyn gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: Ffeil Technegol SSD, Gweithdrefnau, Taflenni Gwirio, cyfarwyddiadau Gwaith, Hysbysiadau, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol ac ati.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at TGAU Gradd C neu uwch mewn Iaith Saesneg
- ECDL neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Copi/teipio
- Profiad dadheintio
Knowledge
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am derminoleg dyfeisiau meddygol
- Profiad o ddefnyddio system Microsoft 365 a meddalwedd electronig arall
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am safonau ansawdd cyfredol, deddfwriaeth a chanllawiau'r llywodraeth mewn perthynas â Dadheintio
- Profiad gyda systemau electronig y GIG
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Bridget Barry
- Teitl y swydd
- Sterile Services Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01745 583910
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Am unrhyw wybodaeth ychwanegol am y swydd neu os hoffech gael taith o amgylch yr adran, cysylltwch â:
Bridget Barry, Rheolwr Gwasanaethau Di-haint, ar ffôn: 01745 448586 est 2502.
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector