Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cleifion Allanol Cyffredinol
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 24 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS095-0225-A
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £24,433 - £26,060 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 10/04/2025 23:59
Teitl cyflogwr

GRADD 3 Ceidwad tŷ
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel rhan annatod o'r tîm cleifion allanol.
Byddant yn cefnogi'r Swyddog Cadw Tŷ presennol i gydgysylltu'r holl gleifion/cyfleusterau/gwasanaethau yn yr ardal Cleifion Allanol ac i sicrhau amgylchedd diogel a chyfforddus.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Prif elfen y rol yw cefnogi'r Ceidwad Ty a'r rheolwyr presennol wrth redeg yr adran Cleifion Allanol, ynghyd a thasgau penodedig eraill i ddiwallu anghenion cleifion unigol, fel y penderfynir gan y Chwaer Adran neu'r nyrs sydd yn gyfrifol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Sicirhau amgylchedd glan a thaclus i gleifion ac ymwelwyr.
I archebu stoc a chynnal rheolaeth stoc.
Rhoi gwbod am offer sydd angen eu hatgyweirio a'u cynnal a chadw i EBME.
Bod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau i gategoreiddiogwastraffac ati i sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol drwy arddangos posteri.
Sicirhau bod gweithredoedd eu hunain yn lleihau'r risg i iechyd a diogelwch ac i hyrwyddo diwylliant iechyd a diogelwch yn y gweithle.
Sicirhau bod gan yr adran ddigon o stociau i ddiwallu anghenion cleifion a staff.
RHAGOR O FANYLION YN Y DDOGFEN DISGRIFIAD SWYDD.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster NVQ lefel 3
Meini prawf dymunol
- Profiad o ymgymryd a rol cadw ty
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn tim amddisgyblaethol. Profiad o weithio gydag aelodau o'r cyhoedd.
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio i sefydliad GIG
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Branwen Eirlys Eeles
- Teitl y swydd
- Deputy Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau cymorth neu bob sector