Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Nyrs IBD Arbenigol Ysbyty Glan Clwyd
Swydd Ddatblygu Band 6 i Fand 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae're swydd hon am gyfnod penodol/secondiad am 9 mis oherwydd cyfnod mamolaeth
Mae cyfle cyffrous am swydd hyfforddiant Nyrs Clefyd Llid y Coluddyn (IBD) wedi codi, i ymuno â thîm nyrsio bach yn darparu gofal i gleifion â Chlefyd Llid y Coluddyn (IBD: Clefyd Crohn’s a llid briwiol y coluddyn). Mae hon yn swydd ddiddorol ac amrywiol yn cynnwys gofal wyneb yn wyneb ac o bell, rheoli meddyginiaethau yn cynnwys triniaethau imiwnolegol arbenigol. Bydd eich mewnbwn i feysydd eraill o reoli cleifion IBD fel cefnogi cleifion mewnol yn rhoi ehangder ychwanegol i’r rôl. Ar lefel mynediad band 6 byddwch yn cael cefnogaeth gan yr Uwch Nyrs Ymarferydd presennol ac yn ymgymryd â modiwl gradd IBD o fewn blwyddyn i helpu i danategu eich arfer. Bydd rhaid i chi hefyd weithio at rôl band 7 gyda chymwysterau Nyrsio Uwch drwy wneud modiwlau lefel MSc fel cymryd hanes, archwiliad clinigol a nyrs rhagnodi. Mae addysgu mewnol rheolaidd a chynadleddau allanol priodol hefyd yn cefnogi gwybodaeth hanfodol yn y maes hwn sy’n symud yn gyflym. Y nodweddion personol a fydd eu hangen arnoch fydd sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog gyda’r gallu i gynnal cywirdeb a rhoi sylw i fanylder wrth weithio dan bwysau. Mae’n rhaid i chi fod yn rhagweithiol ac yn ysgogol i ddysgu’r maes arbenigol hwn i safon uchel a darparu gofal cleifion o ansawdd uchel, sy’n ddiogel, wedi’i seilio ar dystiolaeth ac yn dosturiol, gyda sgiliau trefnu ardderchog.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deilydd y swydd yn:
- Hyfforddi i ddatblygu gwybodaeth mewn darparu sgiliau clinigol cynhwysfawr, darparu gwybodaeth, cynghori a chefnogi cleifion ag IBD
- Rhoi cyngor a chefnogaeth i gleifion IBD drwy linell gymorth ffôn
- Hyfforddi i asesu a rhagnodi meddyginiaeth arbenigol
- Rhoi cyngor a chefnogaeth gyda hyfforddiant i gleifion mewnol IBD, i gefnogi rhyddhau cleifion yn gynnar o'r wardiau
- Gweithio fel ymarferydd annibynnol ochr yn ochr ag aelodau eraill o'r tîm Amlddisgyblaethol
- Gyda hyfforddiant a chefnogaeth, rheoli monitro cleifion sy'n cael triniaethau biolegol ac gwrthimiwnedd gan sicrhau bod y prawf perthnasol a phresgripsiynau yn cael eu cwblhau'n brydlon.
- Cefnogi monitro a chynnal cronfeydd data bwrdd iechyd perthnasol mewn perthynas â gofal cleifion a monitro.
- Monitro'r gofrestr genedlaethol IBD, ei gynnal a'i ddiweddaru.
- Rhoi cyngor a chefnogaeth i weithwyr proffesiynol eraill yn cynnwys myfyrwyr, meddygon, staff nyrsio ac AHP eraill fel bo angen.
- Sefydlu llinellau clir o gyfathrebu o fewn tîm yr arbenigedd i sicrhau rheolaeth amlddisgyblaethol gydlynol o'r cleifion.
- Gyda hyforddiant a chefnogaeth, rheoli a chydlynu’r tîm amlddisgyblaethol IBD a chlinigau bioleg/dilynol ar y cyd â'r cydweithwyr CNS IBD.
- Traws-gyflenwi rolau cydweithwyr CNS IBD.
- Cymryd rhan mewn cyfarfodydd grŵp defnyddwyr IBD a chynadleddau allanol priodol.
- Bod yn hyblyg gyda'r gwasanaeth i sicrhau cyflenwad priodo
Gweithio i'n sefydliad
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Os ydych chi'n mwynhau her, os oes gennych angerdd i helpu eraill neu os ydych chi awydd dechrau newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion cywir. Y sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, sy’n darparu ystod lawn o wasanaethau ysbyty sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl, acíwt a dewisol ar gyfer poblogaeth o tua 700,000, ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â’n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith cymhwysedd ‘Balch o Arwain’.
Mwynhau bod yn rhan o weithio gydag arweinwyr ymgysylltiedig ar bob lefel, a bod yn sicr ein bod wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun “Cyflogwr Hyderus ag Anabledd”.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth yn ymwneud â recriwtio drwy'r cyfrif e-bost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig yr NMC
- Cymhwyster Ôl-gofrestru perthnasol mewn maes arbenigol
- Meistr mewn maes perthnasol / Wedi ymrwymo i ymgymryd â Gradd Meistr
- Arholiad Corfforol a Hanes Clinigol yn cymryd modiwl neu barodrwydd i wneud a chwblhau o fewn cyfnod penodol o amser.
- Nyrs annibynnol presgripsiynu neu barodrwydd i ymgymryd
Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiad o fewn maes clinigol priodol
- Yn ymwneud â Datblygu Gwasanaeth
- Profiad o gynnal archwiliadau ac ymchwil
- Profiad arbenigol mewn Gastroenteroleg
- Profiad a thystiolaeth o gydweithio mewn amgylchedd amlddisgyblaethol
- Gwybodaeth helaeth am gyflyrau a gweithdrefnau gastroberfeddol
- Tystiolaeth o archwilio a rheoli newid
- Yn bodloni'r safonau paratoi ac ymarfer sy'n ofynnol gan statws Ymarferydd Arbenigol yr NMC
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth amlwg o weithio ar lefel sy'n gyson â'r swydd
- Profiad o sefydlu clinigau
- Gwybodaeth am fentrau a arweinir gan nyrsys
- Profiad blaenorol o weithio fel Nyrs Glinigol Arbenigol Profiad o archwilio ac ymchwil
- Dealltwriaeth o driniaethau IBD a'u sgil-effeithiau
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Julie Pope
- Teitl y swydd
- Medicine Matron
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector