Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cynorthwyydd Cynnal a Chadw – Tiroedd a Gerddi
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-EA210-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£22,720 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
29/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cynorthwydd Cynnal a Chadw

Gradd 2

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Byddwch wedi ennill profiad blaenorol o fewn rôl cynorthwyydd cynnal a chadw, gan gynnwys y gallu i'ch galluogi i gyflawni'r tasgau gwaith technegol ac ymarferol sylfaenol sy'n gysylltiedig â gweithredu a chynnal gwasanaethau adeiladu peirianneg cymhleth, offer a chyfarpar gan gynnwys diagnosis ac atgyweirio diffygion trydanol a mecanyddol syml.
Byddwch yn rhoi cymorth i grefftwyr cynnal a chadw eraill er mwyn eu galluogi i gyflawni eu dyletswyddau'n llawn.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cynorthwyydd Cynnal a Chadw (Tir a Gerddi)

Mae'r adran Ystadau Gweithredol yn dymuno penodi Cynorthwyydd Cynnal a Chadw - Tir a Gerddi brwdfrydig a fydd wedi'i leoli yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan a all ofyn i weithio ar unrhyw un o'n safleoedd.  Bydd eich prif rôl yn cynnwys cynnal a chadw’r tir a'r gerddi.  Bydd gennych brofiad blaenorol o weithio â thir a gerddi, yn cynnwys y gallu i'ch caniatáu i wneud y tasgau gwaith technegol ac ymarferol sylfaenol sy'n gysylltiedig â gweithredu a chynnal a chadw gwasanaethau adeiladu, offer a chyfarpar yn cynnwys gwneud diagnosis a thrwsio namau trydanol a mecanyddol syml.

Byddwch yn cynorthwyo crefftwyr cynnal a chadw eraill i'w caniatáu i wneud eu dyletswyddau yn llawn.

Bydd gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau am hyd at 5 mlynedd o wasanaeth, 30 diwrnod am rhwng 5 a 10 mlynedd a 34 diwrnod am fwy na 10 mlynedd o wasanaeth ac 8 gŵyl y banc (pro rata i staff rhan amser).

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; bydd yr un cyfle yn cael ei roi i ymgeiswyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.

 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd-ddisgrifiad llawn a Manyleb y Person sydd ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwneud cais nawr" i'w weld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • NVQ lefel 2 neu hyfforddiant cyfwerth mewn disgyblaeth gymwys neu lefel gyfwerth o wybodaeth a/neu brofiad.
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd o fath cynnal a chadw ystadau fel un o'r disgyblaethau perthnasol- trydanol, mecanyddol, tiroedd ayyb
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol o weithio o fewn y GIG.

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau ysgogi a darbwyllo

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Simon Williams
Teitl y swydd
Senior Estates Officer
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07890 526608
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Duncan Edwards

Swyddog Ystadau

Symudol - 07814193726

[email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg