Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ffiseg Feddygol
Gradd
Gradd 8c
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-HS001-0125
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£75,405 - £86,885 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
Today at 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Pennaeth Peirianneg Glinigol

Gradd 8c

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol. 

Trosolwg o'r swydd

Arwain, rheoli a datblygu gwasanaethau a staff Uned Peirianneg Glinigol Adran Ffiseg Feddygol Gogledd Cymru, sy'n darparu profion ffisiolegol gastroberfeddol, astudiaethau Doppler fasgwlaidd y coesau, calibradu cyfarpar awdiolegol, gwasanaethau darlunio meddygol, hyfforddiant ar ddyfeisiau meddygol a rheoli llyfrgelloedd cyfarpar. 

Cyfrannu'n uniongyrchol at un o'r arbenigeddau a ddarperir gan yr uned neu weithredu fel meddyg ymgynghorol gwyddonol i un ohonynt. 

Bod yn gyfrifol am gydymffurfiaeth Bwrdd Iechyd y Brifysgol â Rheoliadau Dyfeisiau Meddygol

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bod yn gyfrifol am bob agwedd ar y gwasanaethau arbenigol iawn a ddarperir gan Uned Peirianneg Glinigol Ffiseg Feddygol a'i his-unedau. 
Bod yn gyfrifol am ddarparu arbenigedd ar gydymffurfiaeth Bwrdd Iechyd y Brifysgol â rheoliadau dyfeisiau meddygol a'u harwain, gan weithio gyda chyfarwyddwyr gweithredol perthnasol BIPBC.  

Bod yn arweinydd strategol ar yr uned, gan gynllunio datblygiadau i'r dyfodol o fewn y gwasanaethau arbenigol iawn a ddarperir gan yr Uned Peirianneg Glinigol, a hynny yn unol â chanllawiau cenedlaethol, rheoliadau ac ati. 
Bod yn arweinydd ar yr Adran Ffiseg Feddygol ar gyfer cynnal yr ardystiad ISO9001
Ymgysylltu ag adrannau cwsmeriaid, gan gynnwys Awdioleg, Gwasanaethau Fasgwlaidd, Gastroenteroleg, Llawfeddygaeth ac ati, er mwyn cynllunio datblygiad gwasanaethau ac asesu perfformiad yn erbyn disgwyliadau. 
Rhoi mewnbwn clinigol uniongyrchol naill ai mewn calibradu awdioleg, profion ffisiolegol gastroberfeddol neu wyddoniaeth fasgwlaidd. 
Gweithredu fel deiliad y gyllideb ar gyfer yr Uned Peirianneg Glinigol, gan fynychu adolygiadau rheolaidd o'r gyllideb gyda chydweithwyr Cyllid. 
Arwain a rheoli llinell y staff ym mhob un o is-unedau'r Uned Peirianneg Glinigol a rheoli'r llwyth gwaith, gan sicrhau bod staff ar gael ar gyfer yr holl wasanaethau clinigol a ddarperir gan yr uned. 
Arwain cyfeiriad strategol gwaith ymchwil ac arloesedd

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Arwain, rheoli a datblygu gwasanaethau a staff Uned Peirianneg Glinigol Adran Ffiseg Feddygol Gogledd Cymru, sy'n darparu profion ffisiolegol gastroberfeddol, astudiaethau Doppler fasgwlaidd y coesau, calibradu cyfarpar awdiolegol, gwasanaethau darlunio meddygol, hyfforddiant ar ddyfeisiau meddygol a rheoli llyfrgelloedd cyfarpar.

Gweler y Disgrifiad Swydd am fanylion

Manyleb y person

Qualifications

Meini prawf hanfodol
  • Gradd BSc Anrhydedd mewn Peirianneg neu Wyddoniaeth Ffisegol
  • Addysg a hyfforddiant gwyddonol mewn maes pwnc Peirianneg Glinigol i lefel PhD neu brofiad cyfatebol.
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster arwain a rheoli

Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestru â HCPC fel gwyddonydd clinigol mewn maes perthnasol
  • Tystiolaeth o DPP
Meini prawf dymunol
  • Aelodaeth Gorfforaethol o IPEM neu gorff proffesiynol cyfatebol arall
  • Aelodaeth o gofrestr wyddonol arbenigol uwch AHCS neu'n gymwys i ymuno â hi, neu gofrestriad AHCS mewn maes perthnasol
  • Achrediad gan gorff proffesiynol priodol
  • Gwybodaeth am Reoliadau Dyfeisiau Meddygol

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o arwain a rheoli timau
  • Profiad helaeth mewn systemau rheoli ansawdd (e.e. ISO 9001 ac ISO 13485).
Meini prawf dymunol
  • Profiad manwl mewn: Profion ffisiolegol gastroberfeddol a/neu wyddoniaeth awdiolegol a chalibradu a/neu wyddoniaeth fasgwlaidd
  • Profiad a dealltwriaeth arbenigol o ddeddfwriaeth berthnasol, safonau cenedlaethol, canllawiau proffesiynol ac eraill sy'n ymwneud â defnyddio a chymhwyso technolegau gofal iechyd (gan gynnwys dogfen diogelwch yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, BS EN 60601-1, Cyfarwyddeb Dyfeisiau Meddygol a Safonau Rheoli Risg y Comisiwn Ewropeaidd

Skills

Meini prawf hanfodol
  • Arweinyddiaeth wyddonol gref, sgiliau rhyngbersonol da, y gallu i weithio'n dda fel rhan o dîm
  • Y gallu i weithio ar amrywiaeth eang o weithgareddau cymhleth iawn ar yr un pryd a'u rheoli, gan fodloni terfynau amser pryd bynnag sy'n ofynnol. Byddai'r enghreifftiau'n cynnwys: cyflwyno gwasanaeth clinigol newydd, datblygu dogfennau polisi, goruchwylio prosiect caffael cymhleth, rheoli tîm.
  • Yn gwbl gymwys mewn rhaglenni TG safonol ac yn gallu defnyddio systemau rheoli gwybodaeth (e.e. meddalwedd rheoli asedau) yn effeithiol i optimeiddio'r gwaith o gyflwyno'r gwasanaeth.
Meini prawf dymunol
  • Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefel 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg

Other

Meini prawf hanfodol
  • Cliriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan gynnwys archwiliad o'r Rhestr Gwahardd rhag Gweithio gydag Oedolion a Phlant
  • Yn gallu teithio rhwng safleoedd mewn ffordd amserol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Julian Macdonald
Teitl y swydd
Head of Medical Physics
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 844042
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg