Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Addysg Nyrsio
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
37.5 awr yr wythnos (Llawn-amser)
Cyfeirnod y swydd
050-NMR717-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£35,922 - £43,257 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
29/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Hwylusydd Addysg Nyrsio

Gradd 6

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

A ydych yn chwilio am her newydd ac yn angerddol dros addysg a datblygiad y gweithlu? Mae cyfle cyffrous newydd godi ar gyfer unigolion cofrestredig brwdfrydig ac ymrwymedig i ymuno â’n tîm addysg ddeinamig.

Os ydych yn unigolyn cofrestredig profiadol, sydd ag angerdd dros hyfforddi ac addysg, yn gydwybodol a llawn cymhelliant ac sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i ofal cleifion drwy ddatblygiad ein gweithlu clinigol, mae’r swydd hon i chi. Byddwch yn gweithio fel rhan o’r tîm addysg gorfforaethol a byddwch yn rhan o ddatblygu, gweithredu a rheoli’r rhaglenni addysg ar draws y bwrdd iechyd, gan weithredu fel esiampl a darparu cyngor a chefnogaeth yn ymwneud â sgiliau datblygu clinigol, addysg ôl-gofrestru a thiwtoriaeth.

Croesewir ceisiadau o bob grŵp proffesiynol cofrestredig sy’n cyrraedd y meini prawf hanfodol a amlinellir o fewn y fanyleb bersonol

Prif ddyletswyddau'r swydd

Datblygu, hwyluso, cyflwyno a gwerthuso ystod o raglenni amlbroffesiynol a sesiynau addysgu er mwyn gwella ansawdd profiad cleifion ar draws y Bwrdd Iechyd cyfan, yn unol ag ystod o amcanion cenedlaethol a nodau sefydliadol.

Bod yn ddelfryd ymddwyn mewn maes proffesiynol penodol, a gweithio gyda staff ym maes arfer clinigol i hybu ennill sgiliau a gwybodaeth newydd a hanfodol a fydd yn eu galluogi i roi gofal o ansawdd uchel i'n cleifion yn unol â gwerthoedd y Bwrdd Iechyd.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neun dymuno dechrau or newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni ywr sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch an tim a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol ân Gwerthoedd Sefydliadol an fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwyr cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

 Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Chymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o gymhwyster cysylltiedig â nyrsio i lefel gradd
  • Cymhwyster addysgu/asesu i Ddiploma Ôl-raddedig Lefel (Lefel 6) neu gyfwerth
  • Cofrestru cyfredol NMC / HCPC / GDC

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad clinigol eang
  • Dangos brwdfrydedd tuag at addysgu a rhannu gwybodaeth

Sgiliau a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Gallu cyflwyno gwybodaeth berthnasol mewn ffurf gryno.
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Neirian Jennings
Teitl y swydd
Head of Education and Development
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07919302304
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

 

Am fanylion pellach / ymweliadau anffurfiol cysylltwch ag:

Neirian Jennings

Pennaeth Addysg a Datblygu

[email protected]

01745 774 788 est 2512 neu 07919302304

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg