Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Adran Ystadau Gweithredol
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol: Llawn-amser - 37.5 awr yr wythnos
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-EA212-0724
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £23,159 - £24,701 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 28/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Crefftwr Peintiwr ac Addurnwr
Gradd 3
Trosolwg o'r swydd
Mae'r adran Ystadau Gweithredol yn Ysbyty Glan Clwyd yn awyddus i recriwtio Paentiwr a Phapurwr llawn cymhelliant, i helpu i gynnal a chadw ysbytai, clinigau a meddygfeydd y Bwrdd Iechyd. Mae'r cyfle anghyffredin hwn yn cynnig y profiad i unigolyn weithio o fewn ystad gofal iechyd mawr.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Yn gweithio o Ysbyty Glan Clwyd yn bennaf, bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus deithio rhwng safleoedd BIPBC yn Wrecsam ac yn Sir Ddinbych, pan fo angen, er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau. Bydd y rhain yn cynnwys:
- Paratoi arwynebau paentio mewnol ac allanol
- Stripio a thynnu papur wal.
- Cynnal mân atgyweiriadau i waith plastr
- Clirio ystafelloedd, trin eitemau dodrefn ac offer trwm
- Rhoi haenau a staeniau paent amrywiol, y mae rhai o'r rhain yn arbenigol eu natur, gan ddefnyddio brws, rholer a thechnegau chwistrellu, gan gynnwys Porta Flex.
- Gweithrediadau ailwydro a pharatoi pwti, mastigau ac elfennau gwydro wrth baentio neu'n ymgymryd â gwaith atgyweirio.
- Marcio llinellau ar ffyrdd a lloriau, i gynnwys rhoi marciau ffordd stensil, llinellau, symbolau, gan ddefnyddio paent llinellau a thraffig.
- Ysgrifennu arwyddion.
Mae rhestr fwy cynhwysfawr o dasgau disgwyliedig i'w chael yn y disgrifiad swydd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi cyflawni prentisiaeth gydnabyddedig mewn paentio a phapuro, a bydd yn meddu ar Dystysgrif Grefftau C&G neu NVQ lefel 3.
Am ragor o fanylion / ymweliadau anffurfiol, cysylltwch â: Duncan Edwards uwch swyddogh ystaday ar 07814 193726
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn TRAC.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster - C & G Tystysgrif Grefft neu NVQ lefel 3
Meini prawf dymunol
- amser wedi gwasanaethu prentisiaeth cydnabyddedig mewn paentio ac addurno
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio o fewn amgylchedd math cynnal a chadw ystadau - Paentio ac addurno
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o weithio o fewn y GIG neu leoliad gofal iechyd.
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu da.
Meini prawf dymunol
- Sgiliau cymhelliant a pherswadio
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- LLewellyn Plant
- Teitl y swydd
- Estates Officer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07581037835
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Duncan Edwards - Swyddog Ystadau
07814 193726
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau cymorth neu bob sector