Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Pediatreg
- Gradd
- Gradd 8a
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dyddiau'r Wythnos, Nosweithiau, Penwythnosau,)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR225-0325
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £54,550 - £61,412 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 14/04/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Uwch Ymarferydd Clinigol Pediatreg
Gradd 8a
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle wedi codi i Ymarferydd Pediatrig Clinigol Uwch Band 8a ymuno â'r tîm ar yr Uned Plant.
Gan adrodd yn uniongyrchol i’r staff meddygol pediatrig, bydd deiliad y swydd yn arbenigwr ar gyflyrau pediatrig, sgiliau gwneud penderfyniadau cymhleth, a chymwyseddau clinigol ar gyfer cwmpas ymarfer ehangach. Mae angen MSc llawn mewn ymarfer clinigol uwch.
Rhaid darparu cyngor pediatreg arbenigol i gleifion, gofalwyr a chydweithwyr o ran diagnosis a thriniaeth cyflyrau pediatreg cymhleth. Bydd hyn yn cynnwys darparu cyngor i staff pediatreg o ran gofal a thriniaeth cleifion. Yn absenoldeb y cofrestrydd meddygol, mae’n bosibl mai deiliad y swydd fydd yr uwch aelod o staff ar ddyletswydd a bydd yn gyfrifol am oruchwylio staff nyrsio a meddygon iau yn glinigol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gan adrodd yn uniongyrchol i’r staff meddygol pediatrig, bydd deiliad y swydd yn arbenigwr ar gyflyrau pediatrig, sgiliau gwneud penderfyniadau cymhleth, a chymwyseddau clinigol ar gyfer cwmpas ymarfer ehangach. Mae angen MSc llawn mewn ymarfer clinigol uwch.
Rhaid darparu cyngor pediatreg arbenigol i gleifion, gofalwyr a chydweithwyr o ran diagnosis a thriniaeth cyflyrau pediatreg cymhleth. Bydd hyn yn cynnwys darparu cyngor i staff pediatreg o ran gofal a thriniaeth cleifion. Yn absenoldeb y cofrestrydd meddygol, mae’n bosibl mai deiliad y swydd fydd yr uwch aelod o staff ar ddyletswydd a bydd yn gyfrifol am oruchwylio staff nyrsio a meddygon iau yn glinigol.
Bydd yn eistedd ar y rota haen un (meddyg iau) i ddechrau, gan gymryd rhan lawn yn y rota hon. Gan ddibynnu ar ddatblygu’r arbenigedd angenrheidiol, y gellir ei ddangos drwy gwblhau cymwyseddau y cytunwyd arnynt, bydd disgwyl iddo/iddi gyfrannu at ddyletswyddau haen dau (gradd ganol).
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd deiliad y swydd yn penderfynu ar ddiagnosis clinigol a thriniaethau a nodwyd, a bydd yn cadw cofnodion fel ymarferydd annibynnol. Bydd yn gyfrifol am ddarparu arbenigedd clinigol ar gyfer datblygu a gwella’r gwasanaeth. Bydd hyn yn cael ei wneud ar y cyd â chydweithwyr meddygol, nyrsys a chydweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.
Bydd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth arbenigol, gan ddefnyddio sgiliau nyrsio arbenigol datblygedig iawn i drin yn effeithiol/ dechrau triniaeth i bob claf dan ei ofal, gan sicrhau bod arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn gynhenid ym mhob agwedd ar ofal a thriniaeth, a sicrhau bod yr wybodaeth hon yn cael ei rhannu ym mhob rhan o’r maes clinigol, y Bwrdd Iechyd ac yn allanol fel y bo’n briodol.
Bydd yn gyfrifol am ddatblygu rhaglenni gofal arbenigol iawn ar gyfer cleifion pediatreg yn dilyn diagnosis clinigol. Darparu cyngor clinigol arbenigol iawn i ymarferwyr eraill sy'n ymwneud â gofal i gleifion.
Yr Uwch Ymarferydd Pediatrig Arweiniol yw’r arbenigwr arweiniol yn ei faes, felly mae gofyn iddo ymarfer yn annibynnol gan ddehongli polisïau clinigol a chynghori’r sefydliad ar sut dylid rhoi’r polisïau hyn ar waith. Bydd ganddo ryddid i ddefnyddio crebwyll ynghylch gweithredoedd, gan dderbyn cyfrifoldeb a chael ei alw i gyfrif amdanynt yn ei dro.
Bydd yn gyfrifol am ddatblygiad proffesiynol parhaus staff nyrsio pediatrig, gan lunio rhaglenni hyfforddi a datblygu ar gyfer staff hyd at a chan gynnwys Uwch Ymarferwyr Nyrsio. Bydd deiliad y swydd yn cymryd rhan hefyd yn hyfforddiant meddygon iau a phroffesiynau perthynol i iechyd mewn perthynas â diagnosis a thriniaeth cleifion pediatrig. Ar y cyd â’r Cyngor Dadebru a’r Brifysgol Leol, bydd deiliad y swydd yn cymryd rhan yn y gwaith o ddarparu rhaglenni addysgol fel APLS/EPLS
Bydd yn gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth broffesiynol drwy fod yn esiampl i eraill, mentor ac addysgwr ymarfer i ymateb i anghenion cleifion / cleientiaid ac i’r galw am wasanaethau.
Gwneud gwaith ymchwil ac archwilio clinigol yn y maes pediatreg. Bydd hyn yn cynnwys ymwneud â phrosiectau ar lefel Cymru gyfan.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs gofrestredig/Perthynol i Iechyd
- Gradd Feistr Glinigol mewn Ymarfer Clinigol Uwch
- Rhagnodydd anfeddygol annibynnol
- Statws atgyfeiriwr anfeddygol
- Gweithredu mewn ffordd sy’n gyson â deddfwriaethau, polisïau a gweithdrefnau a chadw at bolisïau Iechyd a Diogelwch y Bwrdd Iechyd Lleol
- Gwybodaeth dda a phrofiad o reoli risg a llywodraethu clinigol
- Gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau cyfle cyfartal
- Gallu nodi a gweithredu pan fyddwch chi neu eraill yn tanseilio cydraddoldeb ac amrywiaeth
- Gwybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol uwch am ystod o weithdrefnau ac arferion clinigol
- Gwybodaeth am Bolisïau a Gweithdrefnau Diogelu Plant ac Archwiliadau Meddygol Amddiffyn Plant
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster rheoli ôl-radd
- Cymhwyster mewn addysg a datblygu
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad perthnasol mewn swydd glinigol ar lefel uwch
- Profiad o ddarparu addysg a/neu hyfforddiant.
- Record o ddatblygiad proffesiynol parhaus sylweddol
- Hyfforddiant/datblygu arweinyddiaeth
- Datblygu lefelau uwch o ymreolaeth
- Asesu a rheoli risgiau
- Rhagnodi anfeddygol yn unol â'r ddeddfwriaeth
- Datblygu ymyriadau therapiwtig i wella canlyniadau defnyddwyr gwasanaeth
- Canolbwyntio ar ddefnyddwyr gwasanaeth/cynnwys y cyhoedd
Rhinweddau Personol
Meini prawf hanfodol
- Lefel uchel o drefnu gwaith, hunangymhelliant, ymrwymiad i berfformio a gwella, hyblyg o ran dull ac agwedd;
- Ymrwymiad cadarn i fod yn agored, i onestrwydd ac i uniondeb wrth wneud y gwaith.
- Gallu cefnogi eraill i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau
- Profiad amlwg o hyrwyddo dysgu/creu amgylchedd dysgu
- Profiad o addysgu a rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth/gofalwyr
- Profiad o addysgu, mentora a hyfforddi
- Dangos brwdfrydedd tuag at addysgu, mentora, hyfforddi a rhannu gwybodaeth
- Gallu datblygu deunyddiau addysg i ddefnyddwyr gwasanaethau/gofalwyr
- Cyfarwydd â’r holl faterion cyfredol sy’n ymwneud ag ymarfer nyrsio proffesiynol a rheoli gwasanaeth iechyd
- Agwedd bendant a hyderus
Doniau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Meddu ar sgiliau clinigol datblygedig iawn o ran asesu, rhoi diagnosis a thrin cleifion gan gynnwys gosod caniwla, tynnu hylif o’r meingefn a chathetreiddio wrinol
- Wedi cyflawni’r cymwyseddau ar gyfer ymarfer clinigol uwch
- Dangos sgiliau gwneud penderfyniadau/barn glinigol a datrys problemau
- Dangos sgiliau meddwl yn feirniadol a sgiliau dadansoddi gan gynnwys myfyrio beirniadol
- Sgiliau asesu, atgyfeirio, gwneud diagnosis a rhyddhau
- Sgiliau cyfathrebu ar lefel uwch
- Gallu datblygu achos dros newid
- Sgiliau negodi a dylanwadu
- Gallu datblygu rhwydweithiau
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol gyda sgiliau gwrando da;
- Gwybodaeth arbenigol amlwg ac arbenigedd mewn sgiliau addysgu a chyflwyno
Meini prawf dymunol
- Wedi datblygu sgiliau clinigol, gan gynnwys mewndiwbio a phwytho
- Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol
Ymchwil ac archwilio
Meini prawf hanfodol
- Gallu cael gafael ar ymchwil/defnyddio systemau gwybodaeth
- Sgiliau gwerthuso beirniadol
- Cymryd rhan mewn ymchwil. Cymryd rhan mewn archwiliadau a gwerthuso gwasanaeth
- Gallu rhoi canfyddiadau ymchwil ar waith yn ymarferol – gan gynnwys defnyddio a datblygu polisïau/protocolau a chanllawiau.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Cara Roberts
- Teitl y swydd
- Children's Clinical Service Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 844359
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Yvette Gibson
Ysgrifennydd
03000 844359
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector