Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Technegydd Fferyllfa cyn-gofrestru
Gradd 4 (Atodiad 21 - 70% Band 4 yn symud ymlaen i 75% ar ôl 12 mis)
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
MAE'R SWYDD HON YN GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 24 MIS I CWRDD GOFYNION Y GWASANAETH
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Mae'r swydd hyfforddi hon yn darparu cyfle i ennill y profiad a'r cymhwyster/cymwysterau gofynnol i gofrestru'n dechnegydd fferyllol gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC).
Cyflog: I gychwyn, Atodiad 21 Band 4 – 70%, yn symud ymlaen i 75% ymhen 12 mis.
Mae technegwyr fferyllol yn meithrin lefelau uchel o arbenigedd mewn perthynas â meddyginiaethau ac iechyd, ac maent yn gweithio'n rhan o dimau gofal iechyd mewn ysbytai, unedau gweithgynhyrchu, fferyllfeydd cymunedol a phractisau meddygon teulu. Maent yn canolbwyntio ar y defnydd o feddyginiaethau i sicrhau bod pob math o bobl yn cael y canlyniadau gorau o'u meddyginiaethau. Maent yn arwain timau sy'n darparu gwasanaethau meddyginiaethau.
Yn ystod yr hyfforddiant dwy flynedd, disgwylir i chi ennill profiad sy'n adlewyrchu rolau newidiol a chynyddol y Technegydd Fferyllol.
Bydd cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus yn eich galluogi i wneud cais i'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol i gofrestru'n dechnegydd fferyllol, ac i ymgeisio am swyddi technegydd fferyllol.
Bydd y swydd wedi’I lleoli nail ai yn fferyllfa Ysbyty Llandudno neu fferyllfa Ysbyty Glan Clwyd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Os ydych yn fanwl gywir, yn drefnus ac yn ofalgar, ac os oes gennych ddiddordeb mewn iechyd a llesiant, yna efallai mai dyma'r cyfle i chi.
Rydym yn chwilio am unigolion blaengar, brwdfrydig, trefnus a llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm Fferylliaeth dynamig a llawn cymhelliant yng Nghymuned Iechyd Integredig Canolog.
Mae rôl y technegydd fferyllol yn amrywiol a diddorol ac yn datblygu'n barhaus, a dyna pam yr ydym yn cynnig y cyfle hwn i brofi rhai o'r rolau arloesol hyn mewn rhaglen hyfforddi gylchdro aml ardal. Byddwch yn ennill profiad mewn lleoliad Ysbyty a Meddygfa, yn dosbarthu ar gyfer cleifion mewnol a chleifion allanol, ynghyd â phrofiad o Brynu a Dosbarthu a gwaith ar y ward mewn Ysbyty. Byddwch hefyd yn cefnogi prosesau rheoli meddyginiaethau ac optimeiddio meddyginiaethau mewn meddygfa.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd"
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymhwyster
Meini prawf hanfodol
- 4 TGAU A-C gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o astudiaeth academaidd a datblygiad proffesiynol parhaus ar ol gadael yr ysgol. NVQ lefel 2 mewn Gwasanaethau Fferylliaeth
Profiad
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn ysbyty a neu fferyllfa gymunedol neu o fewn y GIG
Aptitude and Abilities
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithio mewn tim, sy'n gallu trefnu hunan, sgiliau TG da, ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg Gwybodaeth am wasanaethau fferylliaeth a rol technegydd fferyllol
Values
Meini prawf hanfodol
- Yn ymwybodol o weithio o fewn terfynau, proffesiynol, gofal cleifion,
Meini prawf dymunol
- Y gallu i ddefnyddio rheoli amser menter ac ymarfer
Other
Meini prawf hanfodol
- Yn barod i weithio mewn ardal ddwyieithog
Meini prawf dymunol
- Y gallu i deithio, gwerthfawrogiad o gyfrifoldeb gofal yr amgylchedd gofal iechyd
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Lisa Large
- Teitl y swydd
- Senior Pharmacy Technician
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 844075
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Lisa Large
Senior Pharmacy Technician
Marie-Louise Lewis
Senior Pharmacy Technician
03000 844075
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector