Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Fferyllfa
- Gradd
- Gradd 8a
- Contract
- 12 mis (penodol/Secondiad tan 31/07/2025 ar gyfer seibiant mamolaeth)
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (Cyfrannu at ddarparu gwasanaethau fferyllfa cyffredinol dros wyliau cyhoeddus a'r penwythnos, yn ôl yr angen)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-PST117-0724
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £51,706 - £58,210 Y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 01/08/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Uwch Fferyllydd - Gofal Sylfaenol a'r Gymuned
Gradd 8a
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 12 MIS (31/07/2025) AR GYFER SEIBIANT MAMOLAETH.
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Rydym yn falch o gynnig cyfle unigryw i fferyllydd profiadol ymuno a'r tîm yng Nghymuned Iechyd Integredig Ardal y Canol, am gyfnod o penodol/secondiad 12 mis Yn yn y rôl hon, bydd cyfle i chi weithio ym meysydd gofal sylfaenol, ysbytai cymunedol a thimau adnoddau cymunedol, gan ddefnyddio eich arbenigedd i wella gofal fferyllol a chanlyniadau i gleifion.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae'r rôl yn gyfle gwych i ddarganfod mwy am ofal sylfaenol a chymunedol, ac mae opsiwn o ddilyn y Rhaglen Pontio Meddygon Teulu.
Os ydych chi'n gwerthfawrogi amrywiaeth, yn ffynnu ar heriau newydd, yn elwa ar gydweithio â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill ac eisiau gwneud gwahaniaeth i iechyd cleifion, dyma'r rôl i chi!
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae'r un cyfle i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd meistr mewn fferylliaeth neu gyfwerth
- Wedi cofrestru â'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
- MSc/Diploma Ôl-radd mewn Fferylliaeth Glinigol neu brofiad a/neu gymwysterau cyfwerth
Meini prawf dymunol
- Yn aelod o'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a chofrestru â'r Gyfadran
- Wedi'ch achredu neu'n gymwys i gael eich achredu fel diploma Fferylliaeth Glinigol/tiwtor MSc y Sefydliad Addysg Uwch
- Cymhwyster hyfforddi, cymhwyster arwain a/neu reoli
- Cymhwyster rhagnodi anfeddygol (neu'n gweithio tuag at ei ennill)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Mae'n rhaid i chi allu dangos lefel addas o brofiad yn gweithio yn y sector a reolir a/neu mewn fferylliaeth gymunedol
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn ardal glinigol berthnasol
- Profiad o arwain a rheoli
Tueddfryd a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu da yn ysgrifenedig ac ar lafar
- Dangos gallu i ddylanwadu a thrafod mewn lleoliad tîm amlddisgyblaethol
- Tystiolaeth o roi newid ar waith
- Yn cyfathrebu'n dda, yn llawn cymhelliant, gallu arwain a gweithio fel rhan o dîm
- Gallu pennu terfynau amser a'u bodloni
- Yn gallu blaenoriaethu a dirprwyo
- Datblygu protocolau a gweithdrefnau
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o reoli pobl yn llwyddiannus
- Sgiliau addysgu a chyflwyno
- Tystiolaeth o oruchwylio neu o fentora staff fferylliaeth
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ceri Ann Jones
- Teitl y swydd
- Deputy Head of Pharmacy, Primary Care & Community
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07827997691
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rory Wilkinson
Pennaeth Fferylliaeth, Gofal Sylfaenol a'r Gymuned (Canol)
Ffôn: 07500027259
E-bost: [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector