Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Goruchwyliwr Domestig
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Goruchwylio Cynorthwywyr Domestig er mwyn cynnal y safonau gofynnol fel y nodir o fewn manylebau glanhau.Bydd deiliad y swydd yn Ysbyty Glan Clwyd, ond efallai y bydd gofyn iddo oruchwylio staff y Gwasanaethau Domestig mewn clinigau, canolfannau iechyd ac ysbytai yng Nghanol Cymunedol sy'n cynnwys ysbytai cymunedol yn Abergele, Y Rhyl, Dinbych a Rhuthun yn ogystal â chanolfannau iechyd ledled Sir Ddinbych a Chonwy.
Rydym yn cynnig contract cyflogaeth parhaol
Oriau llawn amser (37.5) - bydd yr oriau gwaith rhwng 06:00 - 18:00 - yn gweithio 5 diwrnod yr wythnos ar rota sy'n cynnwys penwythnosau i gefnogi anghenion y gwasanaeth - i'w drafod yn y cyfweliad.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn cynnig amodau gweithio ardderchog gan gynnwys lefel hael o wyliau am dâl, tâl uwch am waith penwythnos a chyfle i ymuno â’r Cynllun Pensiwn.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae cyfleoedd ar gael ar hyn o bryd yn ein Hadran Gwasanaethau Domestig yn Ardal y Dwyrain, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, am unigolion brwdfrydig a llawn cymhelliant. Mae’r tîm Gwasanaethau Domestig yn gyfrifol am sicrhau y cynhelir safonau glendid amgylcheddol. Rydym yn chwilio am Oruchwyliwr Domestig ychwanegol a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod safonau glanhau'n foddhaol yn unol â'n protocolau gweithredol a'n hamserlenni glanhau penodol. Mae gan y
Goruchwylwyr Domestig rôl amrywiol ac mae hyn yn cynnwys dyrannu dyletswyddau i Gynorthwywyr Domestig ac archwilio safon eu gwaith. Mae'r rôl hefyd yn cynnwys lefel o waith gweinyddol gan gynnwys cynnal cofnodion Gwyliau Blynyddol a chyflenwadau deunyddiau glanhau. Mae hon yn rôl sy'n gofyn am gryn ymdrech gorfforol, mae angen i'r Goruchwylwyr Domestig allu dangos tasgau glanhau wrth hyfforddi Cynorthwywyr Domestig newydd ac ar brydiau, bydd gofyn iddynt ymgymryd â dyletswyddau glanhau.
Bydd y swydd hon wedi'i lleoli yn Ysbyty Glan Clwyd, a bydd angen i'r
Goruchwylwyr Domestig allu teithio i Ysbytai Cymunedol a Chlinigau. Bydd car cronfa a rennir ar gael at y diben hwn
Bydd profiad blaenorol o weithio yn y diwydiant glanhau neu fel goruchwyliwr o fantais. Bydd gwisg/dillad amddiffynnol hefyd yn cael eu darparu.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- NVQ Lefel 2 neu brofiad cyfatebol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad glanhau blaenorol mewn lleoliad Gofal Iechyd
- Profiad Goruchwylio Blaenorol
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Darren Owen
- Teitl y swydd
- Facilities Co-Ordinator
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01745 448788
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau cymorth neu bob sector