Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Arbenigwr Nyrsio Clinigol Canser y Croen
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
MAE'R SWYDD HON YN GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 6 MIS I GWMPASU ABSENOLDEB MAMOLAETH
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer swydd secondiad cyfnod penodol rhan-amser (24 awr yr wythnos, tan 24/05/2025) dros gyfnod mamolaeth fel Nyrs Glinigol Arbenigol Canser y Croen, Tîm Dermatoleg Macmillan. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag Ymarferydd Cynorthwyol Canser y Croen Macmillan (band 4) o fewn y Gymuned Iechyd Integredig.
Bydd deilydd y swydd yn gweithio fel rhan o Dîm Dermatoleg Macmillan dynodedig, gan ddarparu gofal clinigol o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n canolbwyntio ar anghenion uniongyrchol y claf. Bydd deilydd y swydd yn gweithio gyda thimau Dermatoleg ac Oncoleg clinigol i wella’r llwybr clinigol er mwyn sicrhau Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn i bobl Gogledd Cymru. Bydd y timau yn dynodi anghenion cleifion drwy asesiad anghenion cyfannol a chyd-greu Cynllun Gofal a Chymorth ar gyfer pobl sy’n byw gyda chanser y croen. Mae hyn yn sicrhau bod pob claf yn cael eu trin fel unigolion a phartneriaid yn eu gofal eu hunain. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys gweithio ar y cyd â thimau clinigol eraill mewn canolfannau trydyddol a gwasanaethau cymunedol a gofal sylfaenol er mwyn gwella profiadau a chanlyniadau i bobl sy’n byw gyda chanser y croen ar draws Gogledd Cymru.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr Arbenigwr Nyrsio Clinigol (CNS) yn dangos arfer o ran gofal cleifion uniongyrchol a bydd ganddo'r gallu i gynorthwyo a datblygu gwasanaethau. Trwy sgiliau allweddol arwain, arloesi ac arbenigedd clinigol, bydd y CNS yn hwyluso ac yn cyflwyno gofal sy'n canolbwyntio ar gleifion, sy'n effeithlon ac yn effeithiol.
Mae'r CNS yn aelod craidd o'r tîm gofal amlddisgyblaethol (MDT) a bydd yn cydweithio â chlinigwyr a rheolwyr gwasanaeth i hybu, datblygu, adolygu ac ailgynllunio gwasanaethau sy'n ymatebol ac yn berthnasol i anghenion cleifion yn unol ag amcanion cenedlaethol a lleol. Mae’r CNS yn ymarferydd unigol ac yn meddu ar y rhyddid i weithredu er mwyn dylanwadau ar ofal cleifion a darpariaeth gwasanaeth.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Ôl-Gofrestru perthnasol mewn maes arbenigol
- Gradd mewn maes perthnasol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- • Gwybodaeth Arbenigol a phrofiad mewn Canser a'r arbenigedd
- • Profiad o reoli a dehongli sefyllfaoedd hynod gymhleth yn ymwneud â chyfathrebu a gwybodaeth sensitif e.e. rhannu newyddion drwg
Addasrwydd a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- • Darparu gwybodaeth a chymorth arbenigol i staff ar draws BIPBC sy'n rhoi cymorth i gleifion sy'n cael diagnosis canser
- • Tystiolaeth o sgiliau rheoli amser a threfnu effeithiol
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Hayley Jones
- Teitl y swydd
- Matron
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 850025
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector