Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Dirprwy Reolwr Arbenigeddau Cymunedol
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Gwasanaethau Cymunedol y Gorllewin fel Dirprwy Reolwr Arbenigeddau Cymunedol am gyfnod o 12 mis i dalu am absenoldeb mamolaeth (contract cyfnod penodol ar gyfer ymgeiswyr allanol neu secondiad ar gyfer ymgeiswyr mewnol).
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi'r Tîm Rheoli Gweithredol wrth reoli arbenigeddau a gwasanaethau o fewn y Portffolio Cymunedol yn ogystal â chefnogi datblygiad a thrawsnewid strategol. Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb gweithredol a rheoli uniongyrchol dros y staff gweinyddol o fewn gwasanaethau penodedig a bydd yn gweithio'n agos gyda'r tîm rheoli a'r tîm ehangach yn y Gymuned i fonitro a datblygu gweithgarwch a pherfformiad gan gynnwys canser a CTRh i gyflawni targedau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r rôl hon yn cynnwys bod yn aelod annatod o'r Tîm Amlddisgyblaethol a bydd angen gweithio'n agos gyda'r holl staff i sicrhau bod targedau yn cael eu cyflawni a darparu gwasanaeth diogel o ansawdd i gleifion, perthnasau a staff. Dylai fod gan ddeiliad y swydd sgiliau cyfathrebu rhagorol, bod yn unigolyn trefnus a rhagweithiol yn ogystal â bod yn frwdfrydig ac yn meddu ar sgiliau arwain da.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Yn gyfrifol yn rheolaethol am yr staff gweinyddol, ysgrifenyddol a chlercyddol o fewn arbenigeddau penodol yn yr adran.
Mynychu cyfarfodydd Tîm Rheoli ac arbenigedd priodol gan sicrhau bod holl bwyntiau gweithredu perthnasol yn cael eu holrhain fel bo angen.
Datblygu gwybodaeth fanwl am ofynion gweinyddol a chlercyddol a rhoi cyngor/cyfrannu at ddatblygiad y gwasanaeth yn unol â mentrau allweddol cenedlaethol ac amcanion yr adran.
Sicrhau bod ffyrdd cyfathrebu da yn cael eu cynnal pob amser gyda staff gweinyddol a chlercyddol yn cynnwys dosbarthu gwybodaeth angenrheidiol e.e cyfarfodydd Briff Tîm. Sicrhau y tynnir sylw at broblemau perthnasol i'r uwch dîm rheoli fel bo'n briodol.
Datblygu a gweithredu datblygiad gwasanaeth, yn cynnwys gwasanaethau newydd, cynlluniau gweithredu ac achosion busnes yn ymwneud â materion gweinyddol a chlercyddol.
Sichrau bod amcanion yr adran ac amcanion corfforaethol yn ymwneud â staff gweinyddol a chlercyddol yn cael eu cyflawni.
Cefnogi gweithio ar y cyd a chyfathrebu effeithiol ag adrannau eraill yn y Bwrdd Iechyd.
Annog diwylliant adeiladol o fewn yr adran drwy feithrin perthynas gwaith effeithiol rhwng grwpiau amrywiol e.e staff, rheoli, undebau llafur ayb.
Cynrychioli'r adran fel bo angen e.e drwy fynychu grwpiau prosiect Bwrdd Iechyd eang.
Gweithio i'n sefydliad
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 12 MIS OHERWYDD I GWMPASU ABSENOLDEB MAMOLAETH
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwneud cais nawr" i'w gweld yn Trac
Manyleb y person
Qualifications and/or knowledge
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at lefel Gradd neu brofiad cyfwerth.
- ymhwysterau Ôlraddedig at lefel Diploma neu uwch neu brofiad cyfwerth.
- Tystiolaeth o ddatblygiad/addysg proffesiynol / personol diweddar
Meini prawf dymunol
- Profiad ychwanegol at lefel diploma ôlraddedig neu gyfwerth.
- Addysg at lefel Meistr/ôl-raddedig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- • Profiad blaenorol o reoli
- • Profiad o reoli staff a chyllideb
- • Gallu i reoli prosiectau ar lefel lleol neu ranbarthol.
- • Gwybodaeth arbenigol o weinyddiaeth gwasanaeth offthalmig.
- • Profiad o reoli rhestr aros a performiad RTT.
- • Sgiliau ychwanegol mewn pecynnau TG perthnasol (Word,Excel, Power Point, Access)
Meini prawf dymunol
- • Gwybodaeth am reolaeth y gwasanaeth iechyd
- • Siaradwr/ysgrifennwr Cymraeg
Cymhwyster a Gallu
Meini prawf hanfodol
- • Dechreuwr - Gorffennydd
- ffynnu wrth gael her
- • Gallu i fodloni terfynau amser tynn.
- • Gallu blaenoriaethu
- • Sgiliau llafar ac ysgrifennu ardderchog
- • Gwytnwch emosiynol
- • Tystiolaeth o sgiliau arwain
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad Cymraeg
Values
Meini prawf hanfodol
- • Sgiliau dylanwadu a thrafod
- • Gallu i rwydweithio
- • Adeiladu Tim
- • Gallu i weithio ar eich liwt eich hun
- • Sgiliau pendantrwydd
- Gallu addasu i ymyriadau rheolaidd
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Glesni Jordan
- Teitl y swydd
- Community Specialties Operations Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000852303
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Bethan Davies Williams
03000852301
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector