Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Hwylusydd Nyrsio Macmillan Gofal Lliniarol a Diwedd Oes
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Bydd deilydd y swydd yn aelod o'r Tîm Hwyluso Nyrsio Gofal Arbenigol lliniarol a diwedd oes, yn gweithio yn Adran Gofal Arbenigol Lliniarol Gogledd Cymru.
Bydd deilydd y swydd yn cyfrannu at ddarparu gwasanaeth gofal lliniarol sydd o ansawdd uchel a hygyrch, gan roi cymorth, hyfforddiant ac addysg arbenigol ar gyfer gofal diwedd oes.
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am gydlynu'r ffrydiau gwaith ac addysg ar gyfer gofal lliniarol a diwedd oes a'i ddarparu.
Bydd deilydd y swydd yn ategu gwaith y gwasanaethau nyrsio llym a chymuned sy'n darparu hyfforddiant ac addysg ar ofal lliniarol.
Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd weithio'n hyblyg a chylchdroi ar draws cymunedau Gogledd Cymru fel bo'n ofynnol i weithio yn y gwasanaeth.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydym yn falch o gynnig y cyfle cyffroes hwn i nyrs cymwysedig a phrofiadol weithio fel rhan o Dîm Hwyluswyr Nyrsio Gofal Diwedd Oes Macmillan sydd wedi ennill gwobrau, i ddarparu hwyluso a chefnogaeth i roi’r offer a hyfforddiant sydd ei angen ar waith i gefnogi gofal diwedd oes o ansawdd uchel mewn amryw o leoliadau, yng Ngogledd Cymru. Bydd deilydd y swydd yn gweithio gyda chefnogaeth yr Hwylusydd Nyrsio Arweiniol ar gyfer Gofal Diwedd Oes a’r Tîm Gofal Lliniarol Arbenigol, gan weithio ar draws amryw o leoliadau, yn cynnwys Cartrefi Nyrsio, Ysbytai Cymuned, gofal cychwynnol a gofal eilaidd.
Bydd deilydd y swydd yn cefnogi hwyluso rhaglenni (Chwe Cham i Lwyddiant) gofal diwedd oes, gan hwyluso darparu prif elfennau o weithredu ffrydiau gwaith strategol, eu datblygu a’u gwerthuso. Mae’r rôl hon yn gofyn am sgiliau cyfathrebu, cydlynu a thrafod effeithiol, sy’n hanfodol i weithio mewn partneriaeth ar draws sefydliadau.
Rydym yn annog ymholiadau ac ymweliadau anffurfiol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae’r un croeso yn cael ei roi i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg i ymgeisio.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn trac
Manyleb y person
Chymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Yn bodlonir holl feini prawf hanfodol yn unol ar disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
- Profiad addysgu
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Yn bodlonir holl feini prawf hanfodol yn unol ar disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn gofal lliniarol
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Parodrwydd i weithio'n hyblyg
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Amanda Coathup
- Teitl y swydd
- Macmillan Nurse Facilitator for End of Life Care
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 851 667
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Alison Foster, Macmillan Pennaeth Gofal Lliniarol Arbenigol Nyrsio
Ffôn: 03000 857727
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector