Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Therapïau
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Cyfnod Penodol: 8 mis (Cyfnod Secondiad)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i Ddydd Gwener)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC428-0724
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Swyddfeydd Bodfan, Ysbyty Eryri
- Tref
- Caernarfon
- Cyflog
- £23,159 - £24,701 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 11/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Cymhorthydd Dieteteg - Iechyd y Cyhoedd
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae're swydd hon am gyfnod penodol/secondiad am 8 mis oherwydd cyfnod secondiad.
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn maeth ac iechyd, ac yn edrych i ddatblygu eich sgiliau mewn rôl gyffrous? Mae cyfle gwych wedi codi i Gynorthwyydd Deieteg i hwyluso darpariaeth ein Gwasanaeth Deieteg Iechyd Cyhoeddus yn ardaloedd Ynys Môn a Gwynedd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).
Bydd y Cynorthwy-ydd Deieteg yn cefnogi Dietegwyr y Tîm i ddatblygu, cyflwyno a gwerthuso rhaglenni addysg maeth a datblygu sgiliau, gan weithio fel aelod annatod o dimau cymunedol aml-asiantaeth ac mewn partneriaeth â nhw.
Byddwch hefyd yn parhau i fod yn aelod allweddol o'r tîm dieteteg, gan ymuno â thîm brwdfrydig a chyfeillgar o dros 80 o ddietegwyr sy'n darparu gwasanaethau mewn gofal acíwt a sylfaenol, ac iechyd y cyhoedd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi ac yn cynorthwyo'r tîm dieteteg i roi rhaglenni bwyd a maeth sy'n canolbwyntio ar atal ar waith ar draws y gymuned. Mae hyn yn cynnwys darparu cyrsiau coginio ymarferol i amrywiaeth o grwpiau cymunedol.
Fel Cynorthwy-ydd Deieteg, bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldebau penodol o ran cyflawni gweithgareddau iechyd cyhoeddus dirprwyedig yn annibynnol gyda defnyddwyr gwasanaethau dieteteg dethol yn y gymuned, gan weithio dan oruchwyliaeth reolaidd Deietegwyr Cofrestredig, a chefnogi'r Deietegwyr gyda dyletswyddau clerigol a gweinyddol priodol.
Mae'r swydd yn meddu ar y potensial i fod yn rhan o ddatblygu sesiynau maeth iechyd cyhoeddus newydd, fel enghraifft ddiweddar sesiwn addysg diodydd ynni gyda'r nod o ddysgu goblygiadau iechyd yfed ynni i bobl ifanc.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
- Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Profiad

Sgiliau

Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sophie Owen
- Teitl y swydd
- Team Lead Public Health Dietitian
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Am fwy o wybodaeth cysylltwch:
Harriet Williams (Pennaeth Ardal Dietetig )
07966 514 004
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector