Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddiaeth
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 20 awr yr wythnos (4 x 5awr)
Cyfeirnod y swydd
050-AC088-0125W-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Yr Waun
Tref
Yr Waun
Cyflog
£23,970 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
08/04/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Swyddog Clercyddol / Derbynnydd

Gradd 2

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ddod yn rhan o dîm fel Swyddog Clercyddol / Derbynnydd yn yr Ysbyty Cymunedol swynol yn nhref y Waun.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y Bwrdd Iechyd ac yn gyfrifol am gynorthwyo cleifion sy'n ymweld â'r Ysbyty / ffonio, yn ogystal â chydweithwyr a phob defnyddiwr gwasanaeth.

Rhaid i ddeiliad y swydd fod â dull defnyddiol a dymunol gyda brwdfrydedd i wneud ei orau wrth gyflawni disgwyliadau a gofynion claf, gan wneud i'w daith glinigol redeg mor esmwyth â phosibl. Mae cylchdro dyddiol o ddyletswyddau desg flaen a swyddfa gefn yn amrywio i'r rôl ac felly mae sgiliau cyfathrebu a llythrennedd cyfrifiadurol gwych yn werthfawr.

Yn ogystal, mae hyblygrwydd yn hanfodol, oherwydd efallai y bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio o fewn gwahanol adrannau/safleoedd ar draws ardaloedd Sir y Fflint a Wrecsam i fodloni gofynion y gwasanaeth.

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn drefnus iawn, wedi ymrwymo i ofal cwsmer ac i ddarparu gwasanaeth o ansawdd da. Bydd angen gweithio ar ei liwt ei hun ond hefyd fel rhan o dîm. 

Rhaid i ddeilydd y swydd fod yn gynorthwyol ac yn ddymunol gyda brwdfrydedd i wneud ei (g)orau i gyflawni disgwyliadau ac anghenion cleifion, gan wneud eu taith glinigol mor esmwyth â phosibl.

Mae agwedd hyblyg yn hanfodol i'r swydd hon, yn ogystal â sgiliau cyfathrebu rhagorol a sgiliau cyfrifiaduron helaeth.  Mae'n bosibl bydd gofyn i ddeilydd y swydd weithio mewn gwahanol adrannau o bryd i'w gilydd i fodloni gofynion y gwasanaeth.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Addysg at TGAU gradd C neu uwch neu safon gyfwerth, yn cynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg
  • Cymhwyster TG neu brosesu geiriau (e.e. RSA 2 neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • ECDL
  • NVQ Lefel 1 gwasanaeth cwsmer neu gyfwerth

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o ddefnyddio system gyfrifiadur (e.e. system TG clinigol Meddyg Teulu)
  • Profiad o weithio mewn derbynfa/swyddfa
  • Profiad o weithio gyda'r cyhoedd

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Gallu mewnbynnu data ar system gyfrifiadur gyda chywirdeb
  • Gallu gweithio mewn amgylchedd prysur a delio â nifer o dasgau gwahanol ar yr un pryd.
  • Ability to communicate tactfully with patients
  • Gallu cyfathrebu'n ddoeth â chleifion
  • Gallu gwneud sawl peth ar yr un pryd mewn swyddfa brysur

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Dealltwriaeth o gyfrinachedd sy'n gysylltiedig â’r swydd
  • Gwybodaeth am ystod o weithdrefnau ac arferion gwaith

Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Brwdfrydig
  • Gallu gweithio fel rhan o dîm integredig aml-sgiliau heb oruchwyliaeth uniongyrchol
  • Gallu penderfynu ar flaenoriaethau gwaith
  • Agwedd hyblyg tuag at waith
  • Cymraeg yn hanfodol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Laura Clarke
Teitl y swydd
Area Administrator
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 859 945
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Wendy Seabrook

[email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg