Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cymuned
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i ddydd Gwener 09:00-17:00 30 munud o egwyl cinio)
Cyfeirnod y swydd
050-AC340-0624W
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Bae Colwyn
Tref
Bae Colwyn
Cyflog
£22,720 y flwyddyn, Pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
07/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Swyddog clercyddol / Derbynydd

Gradd 2

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i swyddog clerigol ymuno â'r tîm yn Ysbyty Bae Colwyn. Diben y swydd hon yw darparu gwasanaeth gweinyddol a derbynfa effeithlon a chynhwysfawr i Ysbyty Bae Colwyn.  Yr ymgeisydd llwyddiannus fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cyfathrebu dros y ffôn. Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn nhimau gweinyddol Bae Colwyn ac Ysbyty Llandudno ynghyd â gweinyddydd y safle i ddarparu gwasanaeth gweinyddol di-dor i'r ysbytai cymunedol

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn drefnus iawn, wedi ymrwymo i ofal cwsmer ac i ddarparu gwasanaeth o ansawdd da. Bydd angen gweithio ar ei liwt ei hun ond hefyd fel rhan o dîm. Mae'n hanfodol bod gan yr ymgeisydd agwedd hyblyg at waith i fodloni galwadau'r gwasanaeth.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

 

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • TGAU gradd C neu'n uwch (neu gyfwerth) mewn iaith Saesneg neu lefel gyfwerth o brofiad
  • Cymhwyster TG neu brosesu geiriau (e.e. RSA 2 neu brofiad cyfatebol)
  • Siaradwr Cymraeg
Meini prawf dymunol
  • ECDL
  • NVQ Lefel 1 gwasanaeth cwsmer neu gyfwerth

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o ddefnyddio system gyfrifiadur (e.e. system TG clinigol Meddyg Teulu)
  • Profiad o weithio mewn derbynfa/swyddfa
  • Profiad o weithio gyda'r cyhoedd

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Gallu mewnbynnu data ar system gyfrifiadur gyda chywirdeb
  • Gallu gweithio mewn amgylchedd prysur a delio â nifer o dasgau gwahanol ar yr un pryd.
  • Gallu cyfathrebu'n ddoeth â chleifion
  • Gallu datrys problemau 'yn y fan a'r lle' gan ddefnyddio eich crebwyll eich hun
  • Gallu gwneud sawl peth ar yr un pryd mewn swyddfa brysur

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Dealltwriaeth o gyfrinachedd sy'n gysylltiedig â’r swydd
  • Gwybodaeth am ystod o weithdrefnau ac arferion gwaith

Rhinweddau personol

Meini prawf hanfodol
  • Brwdfrydig
  • Gallu gweithio fel rhan o dîm cyfun aml-sgiliau heb oruchwyliaeth uniongyrchol
  • Gallu penderfynu ar flaenoriaethau gwaith
  • Gallu gweithio’n hyblyg i diwallu anghenion y gwasanaeth

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Lois Hughes
Teitl y swydd
Locality Coordinator
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 856677
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg